Trefniadau cefnogol ar gyfer trosglwyddo i’r ysgol i blant a’u teuluoedd.
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae lleoliad cyn-ysgol Trefaldwyn yn lleoliad cyfrwng Saesneg sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer plant tair a phedair oed. Mae wedi’i leoli ym mhentref Trefaldwyn. Mae’r lleoliad yn rhentu’r Ganolfan Weithgareddau sydd drws nesaf i’r ysgol gynradd leol, ac yn cael ei reoli gan bennaeth yr ysgol gynradd leol, sef yr unigolyn cyfrifol, a llywodraethwyr yr ysgol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Gweledigaeth y lleoliad yw: ‘Plant hapus, annibynnol a hyderus’ – sydd ag ymdeimlad o berthyn ac yn teimlo’n rhan o’r gymuned.
Yn unol â’i weledigaeth, mae datblygu perthnasoedd cryf iawn â theuluoedd i gefnogi’r plant trwy gydol eu haddysg gynnar yn bwysig iawn i’r lleoliad.
Mae’r ymgysylltiad â theuluoedd a’r ysgolion lleol yn hynod effeithiol o ran cynorthwyo pob un o’r plant i bontio’n llwyddiannus i’r ysgol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae lleoliad cyn-ysgol Trefaldwyn yn cydnabod bod cyfnod pontio esmwyth a chefnogol i’r ysgol gynradd yn hanfodol ar gyfer lles emosiynol pob plentyn a’i lwyddiant mewn dysgu yn y dyfodol. Caiff ei ymagwedd at bontio ei chynllunio’n ofalus a’i mireinio’n barhaus ar sail adborth gan rieni, ysgolion sy’n derbyn, a’r plant eu hunain.
Mae cymorth pontio ar gyfer plant a’u teuluoedd yn dechrau’n gynnar ac yn cynnwys haenau lluosog o gymorth, cynllunio ac ymyrraeth. Mae’r arferion canlynol yn ffurfio craidd model pontio presennol y lleoliad.
Mae ymarferwyr yn arsylwi plant ac yn adrodd i rieni’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn eu galluogi i nodi meysydd ar gyfer cymorth yn gynnar a theilwra cynllunio pontio yn unol â hynny.
Caiff plant cyn-ysgol eu cyflwyno’n raddol i fywyd yr ysgol trwy fynychu gwasanaethau, diwrnodau chwaraeon, a digwyddiadau arbennig. Mae’r profiadau hyn yn eu helpu i fagu hyder a theimlo’u bod yn rhan o gymuned ehangach yr ysgol cyn eu diwrnod cyntaf swyddogol.
Ar gyfer y plant sy’n pontio i’r brif ysgol gynradd fwydo, mae ymarferwyr yn cynnal “Dyddiau Mercher Pontio” rheolaidd yn ystod tymor yr haf. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi amser i blant yn amgylchedd yr ysgol gynradd. Maent yn gwisgo gwisg ysgol, yn cyfarfod â’u hathrawon newydd, yn mwynhau cinio ysgol, ac yn cymryd rhan mewn profiadau dosbarth tra’n cael eu cynorthwyo o hyd gan eu staff cyfarwydd o’r lleoliad cyn-ysgol. Mae’r sesiynau hyn yn caniatáu i’r plant gynefino, gan adeiladu gwydnwch ac annibyniaeth.
Mae’r lleoliad yn cynnal boreau agored ar gyfer y rhieni ac mewn partneriaeth â’r ysgol gynradd leol, lle gall teuluoedd gyfarfod â’r staff dysgu sylfaen ac archwilio amgylchedd yr ysgol. Mae teuluoedd yn cael cyfarfodydd unigol (wyneb yn wyneb neu drwy Teams) ag arweinydd y lleoliad a’r athro dosbarth i rannu pryderon, gofyn cwestiynau, a thrafod materion ymarferol fel gwisg ysgol, arferion, a chymorth. Mae’r trafodaethau hyn yn sicrhau bod anghenion, diddordebau ac arddulliau dysgu plant yn cael eu deall yn dda cyn eu diwrnod cyntaf ac mae rhieni’n hyderus am gyfnod pontio’u plentyn. Mae pob plentyn yn cael adroddiad pontio cynhwysfawr yn amlygu ei gryfderau, ei gynnydd, ac unrhyw feysydd lle mae angen cynnal cefnogaeth. Caiff yr adroddiad hwn ei rannu â’r teulu a’r ysgol, fel ei gilydd.
Mae tudalen weithgar y lleoliad ar y cyfryngau cymdeithasol yn arddangos profiadau dysgu bob dydd, digwyddiadau arbennig a phrofiadau pontio. Mae’r gwelededd parhaus hwn yn helpu rhieni i deimlo’u bod wedi’u cysylltu ac yn rhoi sicrwydd iddynt, ac mae’n rhoi testunau siarad iddynt drafod gyda’u plant gartref.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae plant yn gadael y lleoliad yn teimlo’n hyderus, yn llawn cyffro, ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y cam nesaf yn eu taith ddysgu. Mae rhieni’n sôn yn gyson am lefelau uchel o foddhad â’r cymorth pontio, gan nodi pa mor wybodus a pharod yn emosiynol y mae eu plant yn teimlo. Mae ysgolion sy’n derbyn hefyd wedi mynegi gwerthfawrogiad am yr adroddiadau manwl a chyfathrebu ar y cyd, sy’n cyfrannu at gychwyn esmwythach yn y dosbarth Derbyn.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad wedi rhannu ei arfer â’i athro ymgynghorol, sydd wedi rhannu’r arfer hon â lleoliadau eraill ym Mhowys.