Sicrhau cysondeb yn ystod newid

Arfer effeithiol

Ysgol Dyffryn Cledlyn


 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Agorwyd Ysgol Dyffryn Cledlyn ym Medi 2017 wrth uno tair ysgol leol gyda’i gilydd yn ardal Drefach. Bu gwaith unioni, cyd-weithio, cyd- dynnu wrth anelu tuag at yr un lleoliad newydd am sawl blwyddyn. Apwyntiwyd Pennaeth yr ysgol newydd yn Ebrill 2014, a bu’n gweithredu’n y cyfamser dros y dair Ysgol, tra’n integreiddio prosesau dysgu, addysgu ac arweinyddiaeth gan sicrhau lles disgyblion a staff mewn cyfnod o newid. Mae’r darpariaeth erbyn hyn yn cynnig addysg i blant 3 – 11 ar yr un safle a phump dosbarth yn yr ysgol.

Lleolir yr ysgol mewn ardal wledig ac mae ym mand grŵp 1 o ran prydiau Ysgol am ddim gyda 6% o’r disgyblion yn eu derbyn.

Mae’r 27%  ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rydym yn ffodus iawn o nifer o ddisgyblion sy’n cyfathrebu adref yn y Gymraeg ac adlewyrchwyd hyn yn brwdfrydedd a safon iaith y rhan fwyaf o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda 70% yn siarad Cymraeg adref.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Penodwyd Pennaeth niwtral i’r ysgolion yn 2014, ar gyfer yr Ysgol Newydd. Roedd y weledigaeth o gyrraedd safle mewn undod a’r un amcanion yn allweddol. Roedd ansicrwydd yn nifer o agweddau. Buodd y Pennaeth yn rhannu amserlen gyda’r dair Ysgol fel fod pawb yn ymwybodol o’i lleoliad gan fod yn gyson o faint o amser a dreuliwyd ymhob Ysgol. Roedd gwaith cychwynnol wedi digwydd rhwng y dair Ysgol – wrth fynychu “Cynllun Tair Ysgol” lle roedd disgyblion CA2 yn mynychu y dair Ysgol,  ar gyfer pynciau arbenigol gydag athrawon bob pythefnos. Wrth wrando ar y disgyblion, teimlant bod angen i ddisgyblion Cyfnod Sylfaen hefyd fynychu “Cynllun Tair Ysgol” gan taw nhw byddai dyfodol yr Ysgol Newydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Roedd cysondeb ymhob agwedd ar draws y dair ysgol yn holl amhrisiadwy. Cynhaliwyd cyfarfodydd staff wythnosol ar y cyd – gan newid lleoliad i greu ethos o un tîm unedig. Galluogwyd hyn i ni gysoni dulliau marcio, cyd-gynllunio, monitro llyfrau a safonau gan adolygu y ffordd ymlaen gan sicrhau cysondeb yn y profiadau dysgu. Defnyddiwyd yr un themâu ar draws yr ysgol a mynychwyd teithiau addysgiadol yr un pryd. Crëwyd Cynllun Datblygu Ysgol ar y cyd rhwng y dair Ysgol a hyn yn rhoi blaenoriaeth clir  a chyfeiriad i’r holl rhan ddeiliad.

Roedd Pedwar Corff Llywodraethol – y dair Ysgol a’r Ysgol Newydd. Llwyddwyd i uno dwy Ysgol ar yr un noson gan gychwyn gyda Chorff un Ysgol yn gyntaf, yr hyn oedd yn gyffredinol i’r ddau corff yn y canol, a gorffen gyda’r Ysgol arall ar y diwedd. Roedd cysondeb yn y lleoliadau – a hefyd yng nghynnwys pob adroddiad.

Wrth adeiladu’r Ysgol mewn lleoliad newydd, buodd y disgyblion a staff yn ymweld â’r safle yn dymhorol i weld datblygiadau adeiladol. Cafwyd cyfnod hefyd i brofi cyfnodau yn yr Ysgol newydd wedi i’r adeilad cwblhau. Roedd hyn yn galluogi’r disgyblion  i greu rheolau eu hunain  – gan holi am yr hyn roedd y disgyblion am eu gweld yn yr Ysgol. Roedd hefyd prosiect Ysgol Creadigol arweiniol yn weithredol, a alluogodd hyn y disgyblion i greu cerdd  ar y cyd  – “Cau ac Agor.” Mae hyn i weld yn yr Ysgol fel murlun trawiadol gyda’r geiriau gerdd arni  – pob gair ar ddarn o bren unigol a rheini yn wreiddiol o’r dair Ysgol. O ganlyniad roedd y thema o “berthyn” yn sail i’r holl waith yn ystod ein tymor cyntaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad roedd sefydlu hunaniaeth yn yr Ysgol yn effeithiol. Roedd camau cyson wedi digwydd yn flaenorol i galluogi disgyblion i ymgartrefu yn gyflym ac yn ddi-ffwdan  gan wrando ar lais y disgyblion, ac adlewyrchwyd hyn yn eu safonau.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Nid ydym fel Ysgol wedi rhannu’r arferion da gydag ysgolion eraill.