Rhoi perchenogaeth i ddisgyblion ar eu dysgu

Arfer effeithiol

Ysgol Brynaerau


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymuned Brynaerau mewn ardal wledig, rhyw hanner milltir o bentref Pontllyfni, sydd ar y briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli.  Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.  Mae 64 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 8 oed meithrin rhan-amser.  Fe’u rhennir yn 3 dosbarth oedran cymysg.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae tua 9% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn sylweddol is na’r canran cenedlaethol (18%).  Mae tua 70% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Ychydig iawn o’r disgyblion sydd o gefndir lleiafrifol ethnig.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 22% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn agos i’r canran cenedlaethol, sef 21%.

Penodwyd y pennaeth i’w swydd ym mis Ionawr 2016.  Mae ganddi gyfrifoldeb dros ysgol arall gyfagos ac mae’n rhannu ei hamser rhwng y ddwy ysgol.  Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2013.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Un o flaenoriaethau’r ysgol eleni yw sicrhau bod:

– athrawon a disgyblion yn cydweithio er mwyn datblygu profiadau deniadol sy’n ysgogi’r dysgu.

Wrth sefydlu hynny, bu i’r ysgol:

  • annerch rhaglen ‘Ysgolion fel sefydliadau’n sy’n dysgu’– drwy ganolbwyntio ar wireddu’r 7 dimensiwn.
  • ymateb i ofynion  dogfen Llywodraeth Cymru ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’
  • fabwysiadu hyfforddiant arfer dda Cwricwlwm i Gymru (Estyn), sydd wedi ysbrydoli’r arweinwyr i fod eisiau dechrau diwygio cwricwlwm yr ysgol.
  • gynnal cyfarfodydd staff yn amlygu parodrwydd a brwdfrydedd i ddechrau gwreiddio agweddau penodol o’r Cwricwlwm Newydd.
  • gynnal ymchwil gweithredol i waith John Hattie a Cath Delve yn amlygu manteision datblygu profiadau ysgogol ar y cyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Prif nod Ysgol Brynaerau yw paratoi profiadau ysgogol a chreadigol er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer yr 21ain ganrif a thu hwnt.

Yn dilyn hyfforddiant Cwricwlwm i Gymru a drwy fod yn rhan o astudiaeth achos ‘Ysgolion fel sefydliadau sydd yn dysgu’ daeth uwch dim rheoli tair ysgol at ei gilydd i drafod cydweithio a chyd gynllunio er mwyn paratoi at y cwricwlwm newydd.

Croesawodd athrawon y tair ysgol y cyfle i gyd-gynllunio gan ymateb i’r nod cenedlaethol ar leihau baich gwaith, hyrwyddo dysgu mewn tîm a chydweithio ymhlith pob aelod o staff, gan ystyried gyda’i gilydd sut i wneud eu haddysgu eu hunain yn fwy pwerus.  Manteisiwyd ar y cyfle i gyd-weithio er mwyn rhannu arferion da ac ysbrydoli’r addysgu a’r dysgu.

Er mwyn hwyluso’r cyd-weithio, penderfynwyd ar un thema ar gyfer y tair ysgol – thema’r tymor cyntaf oedd ‘All un person newid y byd?’.  Y cam cyntaf ar bwysicaf yn y broses cynllunio oedd rhoi rhyddid i’r staff archwilio’r testun gyda’r disgyblion, yn seiliedig ar chwe maes dysgu’r cwricwlwm newydd.  Golygai hyn fod y disgyblion yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y gweithgareddau y byddant yn eu cyflawni ac yn gwneud penderfyniadau a dewisiadau er mwyn sicrhau llais blaenllaw yn eu gwaith.  Maent yn dewis llwybrau dysgu heriol er mwyn cwblhau tasgau estynedig.

Yn dilyn ymchwil, archwiliwyd trefn dosbarthiadau yng nghyfnod allweddol 2 ar gyfer meithrin annibyniaeth disgyblion mewn tasgau, gan sicrhau datblygiad yn eu medrau llythrennedd, rhifedd, a TGCh.  Penderfynwyd datblygu 4 ardal antur sef ‘Antur Llythrennedd, Antur Rhifedd, Antur Meddwl ac Antur Greadigol’ yn ogystal â’r grŵp ffocws.  O fewn yr anturiaethau, paratoir tasgau ble mae disgwyl i’r disgyblion ddewis yr her addas yn unol â strategaethau meddylfryd o dwf a’r parthau dysgu.

Mae’r profiadau byw o ddaw o wahodd ymwelwyr i’r ysgol a chynnal ymweliadau yn rhan greiddiol o fodloni dibenion y cwricwlwm newydd.  Mae’r profiadau dysgu yn tanio dychymyg y disgyblion ac yn eu galluogi i ddatblygu eu medrau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn hynod lwyddiannus mewn meysydd ar draws y cwricwlwm ac mewn modd integredig.

Er mwyn ymateb i’r cwestiwn mawr ‘All Un Person Newid y Byd?’ arweiniodd y disgyblion ar drywydd gwaith elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.  Yn dilyn ymweliad gan swyddog o’r Ambiwlans Awyr, ysbrydolwyd y disgyblion i gynllunio prosiect ysgol gyfan sef yr ‘Her Tri Chopa’. Roedd hwn yn gyfle i ddatblygu eu medrau arwain gan annog rhieni, aelodau o’r gymdeithas leol a thu hwnt i gyfrannu at ein her.  Darparwyd cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ymgymryd â chyfrifoldebau a bod yn ddinasyddion gweithgar.  Datblygwyd medrau TGCh y disgyblion drwy iddynt gynllunio a chreu hysbyseb amlgyfrwng a’i rannu ar wefannau cymdeithasol.  Bu iddynt gofnodi a mewnbynnu’r arian a gasglwyd i gronfeydd data gan ddadansoddi graffiau a gosod targedau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Gwelwyd effaith gadarnhaol ar ymrwymiad y disgyblion yn eu dysgu gan fod eu dylanwad yn angor i’r cynllunio a’r amgylchedd dysgu.  Mae brwdfrydedd y disgyblion tuag at eu gwaith yn heintus a’u cymhelliant yn uchel gan fod ganddynt berchnogaeth gref ar eu dysgu ac maent yn gallu trafod eu gwaith yn ddeallus.

Wrth weithredu egwyddorion asesu ffurfiannol, er enghraifft drwy’r parthau dysgu gan ganiatáu’r disgyblion ddewis lefel eu her yn ystod tasgau, mae eu perfformiad yn llawer uwch na’r disgwyl. Maent yn fwy parod i weithio yn annibynnol ac yn llwyddo i gwblhau tasgu amrywiol, eang ac o safon uchel.  O ganlyniad, mae’r disgyblion yn uchelgeisiol ac yn gyfranwyr mentrus creadigol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd arferion da Ysgol Brynaerau gydag ysgolion eraill o fewn y dalgylch a thu hwnt ac mae’r ysgol yn dangos ei harfer trwy’r cyfryngau cymdeithasol.