Rhannu prentisiaethau rhwng busnesau i sicrhau’r dysgu gorau

Arfer effeithiol

B-wbl


Gwybodaeth am y darparwr

Mae B-wbl yn gonsortiwm dysgu yn y gwaith a gaiff ei arwain gan Goleg Sir Benfro, sy’n cynnwys 11 darparwr gan gynnwys chwe choleg addysg bellach a phum darparwr preifat.  Ar adeg yr arolygiad ym Mehefin 2015, roedd y consortiwm yn darparu amrywiaeth o raglenni prentisiaeth uwch, prentisiaeth, prentisiaeth sylfaen, hyfforddeiaethau a rhaglenni ymgysylltu i 5,000 o ddysgwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gan y consortiwm gynllun rhannu prentisiaethau sydd wedi hen ennill ei blwyf, a sefydlwyd gan Goleg Sir Gâr a Chyngor Sir Caerfyrddin, sy’n cynnig seilwaith cymorth cilyddol i’w aelodau, sef cwmnïau adeiladu.  Mae llwyddiant y seilwaith i’w weld yn y cyfarwyddwyd, y cymorth a’r gefnogaeth datblygu busnes ar gyfer hybu hyfforddiant ym maes adeiladu yn Sir Gâr.  Mae’r Consortiwm wedi ehangu’r rhwydwaith hwn i Geredigion.  Yn ddiweddar, mae Coleg Sir Benfro, fel arweinydd y consortiwm, wedi rhoi cynllun rhannu prentisiaethau ar waith ar sail yr un egwyddorion ar gyfer cwmnïau’r sector peirianneg ac ynni sydd â chartref ar hyd yr Aber.  Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i brentisiaid gael gwaith gan gwmnïau ar y cyd.  Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu ystod eang o fedrau ac yn gwella’u cyfleoedd am waith.

Mae cwmnïau adeiladu a pheirianneg yn Sir Gâr a Sir Benfro yn elwa o ddau gynllun rhannu prentisiaethau a sefydlwyd gan aelodau o gonsortiwm B-wbl.  Sefydlwyd y cynlluniau hyn i gefnogi’r diwydiannau a dysgwyr unigol, sy’n gallu cael prentisiaeth sy’n cynnwys amrywiaeth o brofiad mewn diwydiant.

Ambell waith, bydd llawer o gwmnïau bach a chanolig, a chwmnïau mwy hefyd, yn methu cyflogi prentisiaid gan nad ydynt yn siŵr a fydd digon o waith i’w wneud i gyfiawnhau penodi gweithiwr ‘amser llawn’.  Mantais y cynlluniau rhannu prentisiaethau sydd ar waith yn y consortiwm yw ystod y profiad y mae prentisiaid yn ei hennill a’r ffaith bod dim ond angen i’r cwmnïau gyflogi’r prentisiaid ar gyfer gwaith y mae angen ei wneud. Dyma ddau gynllun llwyddiannus yn y consortiwm:

Bu gan Goleg Sir Gâr bartneriaeth hir a llwyddiannus yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, gan sefydlu Carmarthenshire Construction Training Association Limited (CCTAL).  Mae CCTAL yn bartneriaeth o gontractwyr amrywiol yn ardal Sir Gâr.  Nod gyffredin ei aelodau yw ymrwymiad i gynaliadwyedd a gwella busnes, gan gynnig seilwaith cymorth cilyddol i’w aelodau.  Mae’r rhwydweithio gweithgar o fewn y grŵp yn cynnig cyfeiriad, cymorth a chefnogaeth datblygu busnes er mwyn hybu hyfforddiant ym maes adeiladu yn Sir Gâr.  Mae llwyddiant y bartneriaeth hon wedi’i gydnabod yn genedlaethol, gan ennill Gwobrau Hyfforddi Cenedlaethol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ar gyfer ei gwaith yn hyfforddi a datblygu prentisiaid.

Roedd Grŵp Datblygu Gweithlu Ynni Sir Benfro yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol yn y sector Ynni.  Fe wnaeth y grŵp hwn gael cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect i wella medrau’r gweithlu.  Bu Coleg Sir Benfro yn gweithio gyda’r cyflogwyr hyn i deilwra’r ddarpariaeth ar gyfer y sector hwn, a osododd y seiliau ar gyfer Cynllun Rhannu Prentisiaethau Sir Benfro, a lansiwyd yn ddiweddar.  Mae cyflogwyr yn y sector ynni wedi codi bron i £50,000 i ariannu’r cynllun, sy’n galluogi prentisiaid i gael gwaith gan gwmnïau ar y cyd.  Mae hyn wedi galluogi i bum prentis gael cefnogaeth i gael gwaith; fel arall, efallai na fyddai’r cwmni bach neu ganolig y maent yn gweithio iddo wedi gallu talu’r cyflog llawn, ac ni fyddent wedi gallu cynnig swydd.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Y fantais wirioneddol i ddysgwyr yn sgil cymryd rhan yn y cynlluniau prentisiaeth hyn yw ystod y profiad y gallant ei chael, a all eu paratoi i gael gwell cyfle am gyflogaeth amser llawn yn y dyfodol.  Dim ond paratoi dysgwyr yn well a gwella’u medrau ar gyfer byd gwaith y gall gweithio i nifer o gwmnïau ei wneud.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn