Podlediad Swgrs: Tynnu'r dirgelwch o'r broses arolygu: Ysgolion ac UCDau - Estyn

Podlediad Swgrs: Tynnu’r dirgelwch o’r broses arolygu: Ysgolion ac UCDau

Podlediadau

Gwrandewch ar y bennod ddiweddaraf o’n podlediad, Sgwrs, sydd yn trafod profiadau o arolygiad mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. 

Bwriad y bennod hon yw tynnu’r dirgelwch o’r broses arolygu, gan glywed am brofiad uniongyrchol dau bennaeth sydd wedi cael arolygiad diweddar. Maent yn rhannu eu profiadau o baratoi ar gyfer arolygiad, gweithio gyda thimau Estyn, a chefnogi staff drwy gydol yr wythnos. Cewch hefyd glywed sut y gall arolygiad fod yn gyfle gwerthfawr ar gyfer hunan arfarnu, myfyrio a gwella a pham nad oes angen i neb ofni’r profiad.