‘Perthynas yw popeth’: hyrwyddo presenoldeb da a lles disgyblion - Estyn

‘Perthynas yw popeth’: hyrwyddo presenoldeb da a lles disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ystafell ddosbarth gyda myfyrwyr yn codi eu dwylo i ateb cwestiwn gan hyfforddwr sy'n sefyll wrth ymyl bwrdd gwyn.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o fewn sir Caerffili. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar ddau safle, sef safle Gellihaf ger pentref Fleur de Lis a safle’r Gwyndy yn nhref Caerffili. Mae 1771 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 196 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Canran y disgyblion sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd yw 11.7%. Mae 14.8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan 9.5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, dau ddirprwy bennaeth gweithredol, saith pennaeth cynorthwyol a rheolwr busnes.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi ymgynghori yn helaeth gyda rhan-ddeiliaid yr ysgol er mwyn llunio gweledigaeth sydd yn seiliedig ar ‘ddarparu’r addysg orau ar gyfer holl aelodau’r ysgol’.  Fel rhan o hyn mae’r ysgol yn blaenoriaethu hapusrwydd, iechyd a lles pawb o fewn amgylchedd cynhwysol. Mae ffocws cryf ar ddatblygu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol gyda holl rhan-ddeiliaid yr ysgol. Mae’r egwyddor greiddiol ‘Perthynas yw popeth’ yn treiddio trwy holl waith yr ysgol, gan gynnwys sut mae’r ysgol yn ymdrin â chynhwysiant, presenoldeb, lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion a’r ffordd mae’n cyfathrebu a chaffael barn disgyblion, rhieni a staff.   

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae sawl agwedd yn rhan o waith yr ysgol i hyrwyddo’i egwyddor greiddiol ‘Perthynas yw popeth’ gan gynnwys hyrwyddo presenoldeb da, lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion, cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd i randdeiliaid fynegi barn.  

Mae’r ysgol yn rhoi ffocws cyson a pharhaus ar wella presenoldeb disgyblion. Mae’r tîm presenoldeb yn cynnwys uwch arweinydd lles, cydlynydd llesiant a swyddog llesiant addysg yr Awdurdod Lleol. Mae’r tîm yn cyfarfod yn wythnosol er mwyn craffu ar, ac ymateb i ddata presenoldeb yn ofalus. Maent yn edrych ar bresenoldeb unigolion a grwpiau o ddisgyblion er mwyn adnabod patrymau ffactorau sy’n effeithio ar bresenoldeb. Golyga’r cyfarfodydd rheolaidd bod ffocws cryf ar ymateb i anghenion disgyblion yn amserol a buan. Mae arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion, rhieni a staff yn deall pwysigrwydd presenoldeb da. Mae gweithdrefnau tynn yn golygu bod disgyblion sy’n peri pryder oherwydd eu presenoldeb yn cael eu hadnabod yn fuan. Trefnir ymateb graddedig sy’n cynnwys cefnogaeth gan y swyddog llesiant addysg ac ymyraethau pwrpasol. Er enghraifft, mae’r swyddog yn cydweithio gydag arweinwyr lles er mwyn targedu presenoldeb unigolion a grwpiau o ddisgyblion. Mae’r ysgol yn adeiladu calendr yr ysgol er mwyn sicrhau bod gweithgareddau pwrpasol ar gyfnodau ble bu presenoldeb yn is yn y gorffennol, er enghraifft diwrnodau olaf tymor ysgol. Yn ogystal, cynigir gwobrau i bob disgybl ar hyd y flwyddyn ysgol i ysgogi presenoldeb cyson dda. Nodwedd gref o waith yr ysgol yw’r gynhaliaeth bwrpasol a roddir i ddisgyblion sydd wedi bod yn absennol dros gyfnod hwy. Mae staff yn cyfarfod gyda’r disgyblion hyn a’u rhieni mewn lleoliadau cyfleus iddyn nhw er mwyn sicrhau cyswllt gyda’r ysgol. Gwahoddir y disgyblion i fynychu’r safle wedi oriau’r diwrnod ysgol arferol i ddechrau ail-gysylltu gyda staff ac ymgyfarwyddo gyda’r adeilad. Yn raddol, mae’r disgyblion yn ail-ymgysylltu gyda’u haddysg er mwyn dychwelyd i wersi gyda’u cyfoedion. 

Mae hyrwyddo lles yn rhan greiddiol o waith yr ysgol. Mae gwersi lles yn rhan o gwricwlwm blwyddyn 7 i 11 ac yn cael eu seilio ar ganfyddiadau holiaduron llesiant, anghenion lleol a digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r Tîm Lles yn cyfarfod yn wythnosol fel bod ymateb buan i unrhyw bryderon am ddisgyblion. Mae ystafelloedd lles ar safle Gellihaf a’r Gwyndy i gynnig cefnogaeth emosiynol ac ystod o ymyraethau gwerthfawr i ddisgyblion. Yn ogystal, mae’r ysgol yn gweithio’n bwrpasol er mwyn lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion. Er enghraifft, mae’n darparu banciau hylendid, gwisg ysgol, gwisg prom a chymorth ariannol er mwyn lleihau effaith tlodi ar deuluoedd. Ail gydiwyd yn y Gymdeithas Rhieni, Gofalwyr ac Athrawon i lansio Cymuned Teulu Cwm Rhymni. Mae cyfrif e-bost pwrpasol wedi’i sefydlu i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cyfathrebu gyda’r ysgol heb deimlo unrhyw feirniadaeth. Cynhelir clwb brecwast poblogaidd ar y ddau safle i roi cyfle i bob disgybl ymbaratoi ar gyfer eu dysgu. Mae’r ysgol yn hyfforddi disgyblion i arwain mentrau o fewn yr ysgol megis gwaith y mentoriaid mislif a’r Pwyllgorau Lles a Dinasyddiaeth.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Rhwng blynyddoedd academaidd 2018-2019 a 2022-2023 gostyngodd cyfradd presenoldeb yr ysgol yn llai na’r hyn a welwyd yn genedlaethol Roedd presenoldeb yr ysgol 1.0% yn uwch na chyfartaledd ysgolion tebyg yn 2022-2023 ac 0.7% yn uwch yn 2023-2024.  Roedd cyfartaledd presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch na’r hyn a welwyd mewn ysgolion tebyg dros yr un cyfnod. Yn ogystal, roedd cyfraddau disgyblion sy’n absennol yn barhaus yn llai na’r hyn a welwyd mewn ysgolion tebyg. Gostyngodd y ganran o ddisgyblion oedd yn absennol yn barhaus am 20% neu fwy o’r amser o 12% yn 2022-2023 i 10.7% yn 2023-2024. Er bod y ganran o ddisgyblion oedd yn absennol yn barhaus am 10% neu fwy o’r amser wedi aros yn debyg, roedd yn cymharu’n ffafriol â’r hyn a welwyd mewn ysgolion tebyg. 

Mae teuluoedd yn cael mynediad at nifer o adnoddau angenrheidiol o fanciau amrywiol yr ysgol fel bod gan bawb gyfleoedd hafal yn yr ysgol. Mae hyn wedi cael effaith cadarnhaol ar y berthynas rhwng yr ysgol a theuluoedd. Mae dros 200 o deuluoedd yn defnyddio’r banc gwisg ysgol rhad ac am ddim a rhwng 15-30 o deuluoedd yn defnyddio’r banc hylendid yn fisol. Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo balchder wrth ddod i’r ysgol ac yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb. Roedd cynnydd yng nghyfradd presenoldeb disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion anghenion dysgu ychwanegol rhwng 2022-2023 a 2023-2024. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?  

Cynhelir gweithdy rhannu arfer dda gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol trwy fforwm ‘Gyda’n Gilydd.’ Fel rhan o hyn, gwahoddir arweinwyr lles a bugeiliol ysgolion eraill i glywed am strategaeth yr ysgol a chynnal teithiau dysgu i arddangos y ddarpariaeth. Mae’r ysgol yn cyflwyno a rhannu’r strategaethau trwy rwydweithiau’r Awdurdod Lleol, er enghraifft cyfarfodydd arweinwyr bugeiliol a chyfarfodydd Ysgolion Iach Caerffili. Mae cyd-weithio clos gydag ysgolion cynradd yr ardal er mwyn ffurfioli trefniadau pontio a sicrhau dilyniant.  Mae’r ysgol yn cynhyrchu cylchlythyr pob tymor, a rhennir hwn yn fwriadus gyda’r gymdeithas ehangach yn ogystal â’r gymdeithas ysgol. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn