Olrhain dilyniant dysgwyr dysgu oedolion yn y gymuned

Quick links:
Ynglŷn â’r bartneriaeth
Cadeirir partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Conwy a Sir Ddinbych gan Grŵp Llandrillo Menai ac mae’n cynnwys:
- Grŵp Llandrillo Menai
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Addysg Oedolion Cymru
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, roedd gan y bartneriaeth 474 o ddysgwyr a ymgysylltodd â dosbarthiadau a ariannwyd gan ddefnyddio’r Grant Dysgu Cymunedol a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych. Cyflwynwyd llawer o’r dosbarthiadau hyn gan Grŵp Llandrillo Menai a’r gweddill gan Addysg Oedolion Cymru. Fe wnaeth 1,100 o oedolion sy’n dysgu gymryd rhan mewn dosbarthiadau a ariannwyd gan ddefnyddio cyllid addysg bellach (AB) ran-amser Grŵp Llandrillo Menai a dderbynnir yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fe wnaeth 878 o ddysgwyr ychwanegol ar draws y ddwy sir gymryd rhan mewn dosbarthiadau gydag Addysg Oedolion Cymru, gan ddefnyddio’r cyllid y mae’n ei gael yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Gwefan y bartneriaeth: https://communitycourses.wales/cy/
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Ar y cyfan, mae darparwyr addysg oedolion yn y gymuned ar draws Cymru yn ei chael hi’n heriol dilyn patrymau cofrestriadau hirdymor dysgwyr, eu symudiadau rhwng darparwyr mewn partneriaeth, neu i olrhain cyrchfannau’r dysgwyr ar ôl iddynt gwblhau eu cwrs. O ganlyniad, nid ydynt yn cael darlun llawn o effaith eu darpariaeth na’r deilliannau hirdymor i ddysgwyr.
Yn ddiweddar, mae partneriaeth Conwy a Sir Ddinbych wedi dechrau dadansoddi gwybodaeth am gofrestriadau a chyrchfannau er mwyn cynnig mewnwelediad gwerthfawr. Dengys cofnodion y bartneriaeth fod tuag un o bob tri dysgwr y bartneriaeth yn 2022-2023 wedi dilyn cyrsiau addysg oedolion yn y gymuned yn y gorffennol. Aeth tua 40% o ddysgwyr y flwyddyn honno ymlaen i gofrestru ar gyrsiau eraill o fewn y bartneriaeth neu i gyrsiau addysg bellach amser llawn neu ran-amser.
Disgrifiad o’r gweithgaredd
Mae’r bartneriaeth yn casglu data ar gofrestriadau a chyrchfannau gan ddefnyddio system Cofnodion Dysgu a Sgiliau (LLWR) Llywodraeth Cymru, sy’n darparu gwybodaeth fanwl ar lefel y dysgwr. Mae hon yn cynnwys cofrestriadau blaenorol, cyrsiau a gwblhawyd a dilyniant o fewn y bartneriaeth a’r tu hwnt. Trwy groesgyfeirio â data LLWR, mae’r bartneriaeth yn gallu dilyn trywydd dysgwyr unigol dros gyfnod, gan greu darlun cliriach o lwybrau dysgu.
Patrymau a thueddiadau diddorol
- Mae cyfran sylweddol o ddysgwyr (40%) yn ailgofrestru o fewn y bartneriaeth neu’n pontio i lefelau astudio uwch, gan awgrymu diwylliant o ymgysylltiad cynaledig mewn addysg.
- Yn aml, mae dysgwyr yn dilyn cyrsiau ‘cam wrth gam’, fel medrau sylfaenol neu bynciau galwedigaethol rhagarweiniol, cyn symud ymlaen i astudiaethau mwy datblygedig neu gymwysterau’n gysylltiedig â gwaith.
- Mae patrwm nodedig o ‘ddysgwyr sy’n ailgylchu’, sef pan fydd unigolion yn dychwelyd i addysg dro ar ôl tro i feithrin sgiliau, hyder neu gymwysterau, gan arwain yn aml at dwf personol a phroffesiynol hirdymor.
Effaith ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr
- Mae’r dull hwn, sydd wedi’i yrru gan ddata, wedi galluogi’r bartneriaeth i deilwra ei chwricwlwm i fodloni anghenion dysgwyr yn well, er enghraifft trwy gynnig llwybrau dilyniant mewn meysydd lle mae’r galw’n uchel, fel iechyd a gofal cymdeithasol neu fedrau digidol.
- Mae gwell dealltwriaeth o symudiadau dysgwyr wedi arwain at welliant o ran cadw dysgwyr a’u dilyniant, gan gyfrannu at gyfraddau llwyddiant cyffredinol uwch.
- Mae mewnwelediadau o’r data wedi cynorthwyo â datblygu gwasanaethau allgymorth a chymorth targedig, gan sicrhau bod dysgwyr sydd mewn perygl o adael yn derbyn ymyrraeth amserol.
Cynnwys mewn cynllunio’r cwricwlwm
Mae dadansoddi data bellach yn chwarae rhan ganolog mewn cynllunio’r cwricwlwm, gan alluogi’r bartneriaeth i:
- Nodi ac ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg ymhlith dysgwyr a phrinderau sgiliau yn rhanbarthol.
- Cynllunio llwybrau dilyniant di-dor i ddysgwyr, gan sicrhau nad oes bylchau yn eu taith ddysgu.
- Gwneud y mwyaf o amserlennu cyrsiau a’u cyflwyno er mwyn darparu ar gyfer hoffterau ac ymrwymiadau dysgwyr
Rhannu arfer dda
Mae’r bartneriaeth wedi rhannu ei chanfyddiadau a’i methodoleg gyda darparwyr eraill trwy gyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd a fforymau arfer orau, fel grŵp Partneriaeth Dysgu Oedolion Gogledd Cymru. Cynhaliwyd sesiynau ymarferol i arddangos defnyddio data LLWR at ddiben olrhain a chynllunio’r cwricwlwm.
Copïo’r dull mewn partneriaethau eraill
Gall partneriaethau eraill fabwysiadu’r dull hwn trwy:
- Ddefnyddio data LLWR i olrhain ymgysylltiad dysgwyr a’u cyrchfannau.
- Sefydlu prosesau rheolaidd ar gyfer dadansoddi data ac adolygu’r cwricwlwm.
- Rhannu canfyddiadau ar draws awdurdodau lleol a darparwyr i feithrin cydweithredu a chysondeb.
Trwy wreiddio’r arferion hyn, gall partneriaethau ar draws Cymru ennill darlun cliriach o deithiau dysgwyr, gan eu galluogi i wella’r ddarpariaeth, gwella deilliannau a chyfrannu at lwyddiant hirdymor dysgwyr sy’n oedolion.