Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu - Estyn

Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu

Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial (AI), ac AI cynhyrchiol (GenAI) yn benodol, yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd a’i effaith sy’n dod i’r amlwg mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ledled Cymru. Mae’r sail dystiolaeth yn cynnwys ymweliadau ag ystod eang o ysgolion, sgyrsiau ag arweinwyr ysgolion, staff addysgu a disgyblion, yn ogystal ag arolwg helaeth o staff mewn ysgolion ac UCDau. Nod yr adroddiad yw helpu ysgolion a’r rhai sy’n llunio polisïau i ddeall a mynd i’r afael â chyfleoedd a heriau AI a darparu enghreifftiau go iawn o ymgysylltu effeithiol.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod angen dull cenedlaethol cydlynol er mwyn sicrhau diogelwch data a manteisio i’r eithaf ar botensial AI i gefnogi addysgu a dysgu, cynhwysiant ac arweinyddiaeth effeithiol mewn ysgolion ac UCDau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys arweiniad cenedlaethol clir a fframweithiau cymorth, ochr yn ochr â dysgu proffesiynol strwythuredig. Bydd y rhain yn hanfodol wrth sicrhau bod AI yn gwella addysgu a dysgu: yn gynaliadwy, yn deg, yn ddiogel ac yn foesegol.

At ei gilydd, mae llawer o ysgolion yng nghamau cynnar archwilio AI o hyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff y defnydd cychwynnol ohono ei ysgogi gan aelodau staff unigol sydd â diddordeb mewn arloesi digidol ac yn gweld manteision posibl AI ar gyfer eu harfer broffesiynol. Fodd bynnag, mae ychydig o ysgolion wedi dechrau ymgorffori AI yn strategol yn eu strategaethau digidol ehangach a’u cynlluniau gwella ysgol, gan ddangos yn glir sut y gall AI gefnogi addysgu a dysgu ac arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion yn effeithiol. Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn archwilio potensial a heriau AI yn annibynnol, i raddau helaeth, a gyda chefnogaeth a chydweithio cyfyngedig o fewn ac ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Soniodd athrawon ar draws y sectorau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn gyson am ostyngiadau sylweddol i’w llwythi gwaith o ganlyniad i ddefnyddio AI, yn enwedig mewn meysydd fel cynllunio gwersi, creu adnoddau, gwahaniaethu deunyddiau dysgu ac ysgrifennu adroddiadau. Er enghraifft, mae athrawon yn disgrifio sut mae sgaffaldau, taflenni gwaith a sbardunau creadigol sydd wedi’u creu gan AI yn eu galluogi i ganolbwyntio mwy ar ansawdd a phersonoli eu haddysgu. Mewn llawer o achosion, mae athrawon yn nodi sut mae AI yn eu galluogi i lunio adnoddau o ansawdd gwell sy’n cysylltu’n agosach ag anghenion a diddordeb disgyblion. Mae staff mewn ysgolion arbennig ac UCDau yn benodol yn tynnu sylw at fanteision storïau cyfathrebu a llwybrau llythrennedd teilwredig sydd wedi’u creu gan AI, sy’n gwella ymgysylltiad â chynhwysiant i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth. Yn hollbwysig, lle mae defnyddio AI yn profi’n fwyaf buddiol, mae hynny yng nghyd-destun dealltwriaeth glir o addysgeg effeithiol a datblygu plant. Fodd bynnag, mae athrawon hefyd yn amlygu pryderon y gallai gorddibynnu at AI ddad-sgilio athrawon llai profiadol, er enghraifft wrth sicrhau bod gwersi a gweithgareddau’n cysylltu’n dda â’r camau nesaf yn nysgu disgyblion. Anaml iawn y mae arloesiadau digidol mewn addysg yn llwyddo heb ffocws clir a myfyrio ar yr effaith ar ddisgyblion.

Mae disgyblion yn dangos diddordeb yn y cyfleoedd creadigol y mae offerynnau AI sy’n briodol i’w hoedran yn eu cynnig, yn enwedig mewn ysgolion cynradd ac arbennig. Mae ymgysylltiad ar ei gryfaf pan fydd disgyblion yn cymryd rhan mewn prosiectau creadigol, cydweithredol fel adrodd storïau digidol, podledu a’r celfyddydau gweledol. Ar lefel uwchradd, mae disgyblion yn defnyddio AI yn effeithiol ar gyfer dysgu annibynnol, gan gynnwys crynhoi nodiadau adolygu a llunio cwestiynau cwis wedi’u personoli. Fodd bynnag, mynegodd llawer o athrawon uwchradd bryderon ynghylch gorddibyniaeth bosibl ar AI, gan bwysleisio’r angen i arwain disgyblion i ddefnyddio’r offerynnau hyn yn feirniadol ac yn foesegol. Pwysleisiodd arweinwyr yr angen i lynu wrth arweiniad camymddwyn o ran defnyddio AI mewn asesiadau sy’n arwain at gymwysterau.

Mae ychydig o ysgolion wedi integreiddio AI yn eu polisïau asesu, adborth ac adrodd. Lle mae hyn yn digwydd, mae’n aml trwy arbrofi unigol yn hytrach na chynllunio strategol. Mae athrawon sy’n defnyddio AI mewn cyd-destunau asesu yn ei weld yn addawol ar gyfer adborth ffurfiannol a chrynhoi data asesu, ond maent yn pwysleisio’n gyson yr angen am graffu proffesiynol er mwyn sicrhau cywirdeb a thegwch. Mae rhai ysgolion wedi dechrau defnyddio AI i ddrafftio llythyrau ac adroddiadau disgyblion, gan leihau llwythi gwaith gweinyddol yn sylweddol a rhyddhau amser staff ar gyfer gweithgareddau mwy strategol sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.

Mae ysgolion yn cydnabod fwyfwy botensial AI i gefnogi tegwch a chynhwysiant, yn enwedig ar gyfer disgyblion o gefndiroedd difreintiedig neu’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, mae risg o fwlch digidol hefyd, gan y gallai disgyblion sy’n gallu fforddio offerynnau AI taledig ennill manteision na all disgyblion eraill fanteisio arnynt. Er gwaethaf manteision posibl AI, mae ysgolion hefyd yn nodi heriau, gan gynnwys hyder digidol cyfyngedig ymhlith staff, gallu anghyson i fanteisio ar hyfforddiant, pryderon moesegol ynghylch tuedd AI a materion yn ymwneud â diogelwch a diogelu data. Mae staff yn tynnu sylw at yr angen am ganllawiau clir, dysgu proffesiynol strwythuredig a dull cenedlaethol o ddefnyddio AI yn foesegol.

Mae arweinyddiaeth strategol mewn lleiafrif o ysgolion wedi arwain at roi AI ar waith yn llwyddiannus trwy ddysgu proffesiynol cynhwysfawr a pholisïau clir. Mewn ychydig o achosion, bu dysgu proffesiynol cydweithredol mewn clystyrau yn effeithiol wrth ddatblygu hyder staff a dull unedig. Mewn llawer o ysgolion, mae dysgu proffesiynol yn ymwneud â defnyddio AI wedi’i gyfyngu i rannu arfer yn anffurfiol. Er bod hyn yn fuddiol, nid yw wedi gwella hyder staff yn sylweddol o gymharu â rhaglenni dysgu proffesiynol sydd wedi’u llywio’n strategol. 

Mae AI yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol yng ngweinyddiaeth ysgolion i symleiddio tasgau rheolaidd, fel drafftio llythyrau i rieni, crynhoi adroddiadau a chreu polisïau ysgol newydd. Mae ychydig o ysgolion wedi cyflwyno gweithdrefnau cadarn i sicrhau diogelu data a chydymffurfiaeth â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). At ei gilydd, fodd bynnag, mae gormod o ysgolion sydd wedi dechrau archwilio’r defnydd o AI yn aneglur o hyd ynghylch eu dyletswyddau statudol o ran diogelu data personol. Yng Nghymru, bu platfform Hwb a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) yn sail ar gyfer ymwreiddio dysgu digidol a thegwch digidol er 2012, gydag arweiniad a deunyddiau hyfforddiant diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion, ymarferwyr a rhieni ymhellach i fynd i’r afael â chyfleoedd a heriau AI.

Fideos Astudiaethau Achos

Yn ystod tymor y gwanwyn 2024, ymwelodd arolygwyr â sampl o 21 o ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig a phob oed cyfrwng Saesneg a Chymraeg ledled Cymru. Dewiswyd y rhan fwyaf o’r ysgolion hyn oherwydd eu bod wedi nodi yn eu hymateb i’r arolwg eu bod yn ymgysylltu’n gadarnhaol ag AI. Dewisom ychydig o ysgolion oherwydd gwybodaeth arall, er enghraifft o ganlyniad i arolygiad diweddar a oedd yn awgrymu bod staff yn gwneud gwaith diddorol ag AI. Yn ystod yr ymweliadau, siaradom ag arweinwyr, staff a disgyblion, edrych ar enghreifftiau o waith disgyblion a dogfennau, fel polisïau a chynllunio athrawon. Lle’r oedd yn bosibl, nodom enghreifftiau o arfer effeithiol i’w cynnwys yn yr adroddiad. Mae rhagor o enghreifftiau o waith llawer o’r darparwyr hyn i’w gweld yn yr astudiaethau achos fideo canlynol:

Defnyddio AI i Wahaniaethu
AI a Dysgu Proffesiynol
Defnyddio AI i Leihau Pwysau Gwaith
Sut mae AI yn Cefnogi Addysgu a Dysgu
Ymagwedd Strategol i AI

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn