Mwy na dewis olaf: Trefniadau ar gyfer gwasanaethau tiwtor a AHY yng Nghymru, a’u hansawdd - Estyn

Mwy na dewis olaf: Trefniadau ar gyfer gwasanaethau tiwtor a AHY yng Nghymru, a’u hansawdd

Adroddiad thematig


Crynodeb Gweithredol

Beth wnaethom ni

Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio’r trefniadau ar gyfer gwersi tiwtora i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ledled Cymru, ac ansawdd y gwersi hynny.

Os ydych chi’n newydd i AHY neu wasanaethau tiwtora, gweler y Cwestiynau Cyffredin ar dudalen 44.

Rydym wedi ystyried pa mor dda mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Edrychom hefyd ar ba mor effeithiol mae gwasanaethau tiwtora yn cefnogi dysgu, lles a dilyniant disgyblion. Mae’r adroddiad hefyd yn rhannu arfer effeithiol, lle mae wedi’i nodi.

Daeth ein tystiolaeth o arolygon a thrafodaethau ag awdurdodau lleol ac ymweliadau ag 14 o ddarparwyr tiwtora, yn cynnwys gwasanaethau awdurdodau lleol, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) a darparwyr wedi eu comisiynu. Yn ystod ymweliadau, siaradom ag arweinwyr, tiwtoriaid, disgyblion a rhieni neu ofalwyr. Arsylwom ddysgu, adolygu gwaith disgyblion ac archwilio dogfennau fel cynlluniau datblygu unigol (CDUau).

Beth oedd ein canfyddiadau

Arweinyddiaeth a goruchwyliaeth strategol

Mae gan awdurdodau lleol rôl statudol mewn sicrhau bod disgyblion nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol yn parhau i gael addysg addas. Yn yr awdurdodau cryfaf, mae gan arweinwyr weledigaeth strategol glir ar gyfer gwasanaethau tiwtora. Maent yn ystyried bod tiwtora yn ymyrraeth bwrpasol, a lle bo’n briodol, wedi’i chyfyngu gan amser sy’n cefnogi disgyblion i gynnal neu ailymgysylltu â dysgu a pharatoi ar gyfer llwybrau yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae arweinyddiaeth strategol a llywodraethu yn anghyson ledled Cymru. Mewn gormod o awdurdodau, mae diffyg eglurder a chydlyniant mewn trefniadau. Mae hyn yn arwain at ddarpariaeth dameidiog a disgwyliadau anghyfartal ar gyfer darparwyr. Yn aml, nid yw goruchwylio gwasanaethau wedi eu comisiynu wedi’i datblygu’n ddigonol o hyd, yn enwedig lle caiff darpariaeth ei chyflwyno ar-lein neu yn y gymuned.

Canfuom nad oedd disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer darpariaeth diwtora o fewn addysg heblaw yn yr ysgol yn ddigon clir, yn enwedig o ran ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, a oedd yn cyfrannu at amrywioldeb ym mhrofiadau dysgwyr ledled Cymru. Roedd gwahaniaethau mewn dehongli lleol wedi arwain at anghysondebau o ran amrywiaeth a manylder y dysgu sydd ar gael i bobl ifanc sy’n cael addysg y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Canfuom hefyd fod dryswch ynghylch disgwyliadau ar gyfer nifer yr oriau o diwtora i’w darparu, gan arwain at arfer anghyson ar draws awdurdodau lleol. O ganlyniad, nid oedd hawl yn cael ei chymhwyso’n gyson, ac roedd dulliau o gynllunio, cyflwyno a sicrhau ansawdd yn amrywio.Canfuom nad oedd disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer darpariaeth diwtora o fewn addysg heblaw yn yr ysgol yn ddigon clir, yn enwedig o ran ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, a oedd yn cyfrannu at amrywioldeb ym mhrofiadau dysgwyr ledled Cymru. Roedd gwahaniaethau mewn dehongli lleol wedi arwain at anghysondebau o ran amrywiaeth a manylder y dysgu sydd ar gael i bobl ifanc sy’n cael addysg y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Canfuom hefyd fod dryswch ynghylch isgwyliadau ar gyfer nifer yr oriau o diwtora i’w darparu, gan arwain at arfer anghyson ar draws awdurdodau lleol. O ganlyniad, nid oedd hawl yn cael ei chymhwyso’n gyson, ac roedd dulliau o gynllunio, cyflwyno a sicrhau ansawdd yn amrywio.

Ansawdd y ddarpariaeth a’r cwricwlwm

Mae gormod o amrywiad yn ansawdd gwasanaethau tiwtora. Mae lleiafrif o ddarparwyr yn darparu addysgu o ansawdd uchel o fewn cwricwlwm wedi’i gynllunio’n ofalus. Yn y lleoliadau hyn, mae dysgu yn ddifyr ac yn gweddu’n dda i anghenion disgyblion. Yn aml, mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf o ran hyder, lles a dysgu academaidd.

Mewn cyferbyniad, mae llawer o ddisgyblion yn cael cwricwlwm cul. Maent yn cael nifer gyfyngedig o oriau bob wythnos yn unig. Mae darpariaeth yn aml wedi’i chyfyngu i Saesneg a mathemateg, gyda mynediad cyfyngedig at feysydd dysgu a phrofiad (MDPh) neu lwybrau galwedigaethol eraill. O ganlyniad, mae cyfleoedd i ddisgyblion ennill cymwysterau a symud ymlaen i gyrchfannau cadarnhaol yn gyfyngedig.

Mae’r ffordd y caiff Cwricwlwm i Gymru ei gyflwyno yn anghyson. Er bod ychydig o ddarparwyr wedi addasu eu cwricwla yn ystyriol, nid yw darparwyr eraill wedi ymgorffori’r egwyddorion, y dibenion a’r fframwaith cynnydd yn effeithiol eto.

Canfuom fod disgwyliadau ar gyfer disgyblion mwy abl yn rhy isel mewn sawl gwasanaeth tiwtora. Mewn lleiafrif o achosion, roedd diffyg her ddigonol mewn deunyddiau addysgu, ac nid oeddent yn cefnogi meddwl neu ddilyniant ar lefel uwch yn gyson. O ganlyniad, nid oedd dysgwyr mwy abl bob amser yn cael gwaith a oedd yn gweddu i’w galluoedd, gan gyfyngu ar gyfleoedd i ymestyn eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a lles

Mae anghenion disgyblion sy’n defnyddio gwasanaethau tiwtora yn dod yn gynyddol gymhleth. Mae llawer o ddisgyblion yn profi cyfuniad o anawsterau iechyd meddwl, anghenion niwroddatblygiadol, trawma a/neu batrwm o darfu ar addysg.

Yn yr arfer gryfaf, mae darparwyr yn defnyddio gwybodaeth asesu a CDUau yn effeithiol. Maent yn addasu dulliau sy’n ystyriol o drawma ac yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i gefnogi lles disgyblion. Fodd bynnag, mae trefniadau ADY yn amrywiol o hyd. Mewn rhai achosion, mae oedi wrth nodi anghenion, ac nid yw’r ddarpariaeth yn adlewyrchu disgwyliadau statudol yn gyson.

Yn aml, disgwylir i wasanaethau tiwtora fynd i’r afael ag anghenion y tu hwnt i’w cylch gwaith gwreiddiol, er enghraifft o ran diwallu ADY cymhleth. Mae hyn yn rhoi pwysau ar allu staff ac adnoddau, a gall effeithio ar ansawdd a chynaliadwyedd y ddarpariaeth.

Er bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd statudol i sicrhau addysg addas ar gyfer disgyblion sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY) hyd at 16 oed, nid oes disgwyliad fod gwasanaethau tiwtora yn parhau y tu hwnt i’r adeg honno. O ganlyniad, mae’n eithriadol o brin i ddarpariaeth diwtora gael ei chynnal ar ôl 16 oed i gefnogi pobl ifanc ag ADY i ennill cymwysterau.

Yn ymarferol, mae hyn yn creu annhegwch sylweddol o fewn y system. Mae llawer o ddisgyblion mewn ysgolion arbennig yn aros mewn addysg hyd nes byddant yn 19 oed, fel mater o drefn, gan elwa ar raglenni ôl-16 strwythuredig, addysgu arbenigol, addysgu therapiwtig parhaus a llwybrau a gynorthwyir at gymwysterau achrededig. Fodd bynnag, nid yw pobl ifanc ag ADY nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol ac sy’n dibynnu ar wasanaethau tiwtora, yn profi’r un parhad o ran hawl. Yn aml, mae darpariaeth y rhai a gynorthwyir trwy diwtora addysg heblaw yn yr ysgol yn aml yn cael ei lleihau’n sylweddol neu’i diweddu’n sydyn pan fyddant yn 16 oed, sy’n cyfyngu ar eu cyfle i ddilyn cymwysterau a manteisio ar gymorth arbenigol parhaus ar adeg dyngedfennol yn eu
haddysg.

Llais y disgybl ac ymgysylltu

Pan mae arfer ar ei chryfaf, caiff disgyblion gyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar eu dysgu. Maent yn helpu llunio amserlenni, gweithgareddau dysgu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae hyn yn cynyddu ymgysylltiad a chymhelliant.

Mewn llawer o wasanaethau, fodd bynnag, mae llais y disgybl yn gyfyngedig. Mae disgyblion mewn darpariaeth ar-lein neu ddarpariaeth gymunedol yn dweud yn aml nad ydynt yn cael rhyw lawer o ddylanwad dros beth maent yn ei ddysgu, na sut. Mae cyfleoedd i gasglu barn disgyblion, a gweithredu arni, yn anghyson. Lle mae arfer ar ei chryfaf, caiff disgyblion gyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar eu dysgu. Maent yn helpu llunio amserlenni, gweithgareddau dysgu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynyddu ymgysylltiad, cymhelliant ac ymdeimlad cryfach o berchnogaeth dros eu haddysg.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn