Mae ethos a diwylliant cynhwysol yn hyrwyddo cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion

Arfer effeithiol

Hafod Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Hafod yn gwasanaethu hen ardal ddiwydiannol gerllaw canol dinas Abertawe.  Mae’r ysgol wedi ei lleoli mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw yn y 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae 233 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae tua 30% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r ffigur hwn yn uwch na’r ffigur cenedlaethol, sef 19%. 

Mae ychydig dros ddau o bob pum disgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Caiff 15 o ieithoedd gwahanol eu siarad gan ddisgyblion, a’r iaith fwyaf cyffredin o’u plith yw Sylheti.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad ychydig o Gymraeg gartref.

Diwylliant ac ethos

Mae arweinwyr ar bob lefel yn Ysgol Gynradd Hafod yn hyrwyddo ethos cynhwysol a gofalgar lle caiff pawb ei werthfawrogi.  Mae’r ffordd y mae’r ysgol yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u hawliau a’u cyfrifoldebau yn treiddio trwy bob agwedd ar fywyd yr ysgol.  O ganlyniad, mae disgyblion yn rhannu eu dealltwriaeth am hawliau a chyfrifoldebau gyda’u teuluoedd yn y gymuned leol a gydag ysgolion ledled Abertawe.

Rhoddir pwyslais cryf iawn ar ddathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth trwy’r cwricwlwm, gwasanaethau a’r arddangosfeydd lliwgar iawn, sy’n dathlu a gwella dysgu disgyblion.  Caiff pob disgybl yr un cyfle i elwa ar fywyd a gwaith yr ysgol ac mae arweinwyr yn cyflawni hyn trwy bolisïau clir, sy’n dangos sut mae’r ysgol yn ymgysylltu â disgyblion a’r gymuned leol.  Mae athrawon a staff cymorth yn hyrwyddo parch am bob unigolyn yn arbennig o dda.

Gweithredu

Mae gan yr ysgol ystod arloesol o grwpiau llais y disgybl fel y ‘criw gofalgar’, y ‘sgwad iechyd a diogelwch’, y grŵp parchu hawliau a’r grŵp cyfranogiad disgyblion.  Mae gan bob pwyllgor ei ddisgrifiadau swydd a’i ffurflenni cais ei hun. 

Caiff pob disgybl gyfleoedd rheolaidd i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau yn yr ysgol.  Er enghraifft, pob dydd Iau, mae cynrychiolwyr o grwpiau amrywiol llais y disgybl yn mynd â blychau awgrymiadau o gwmpas yr ysgol yn barod ar gyfer eu cyfarfodydd ar y dydd Gwener.  Wedyn, mae aelodau’r grŵp yn adrodd yn ôl wrth weddill yr ysgol yn y ‘gwasanaeth aur’ ar brynhawn dydd Gwener. 

Caiff pob disgybl ym Mlwyddyn 6 ei gynnwys yn uniongyrchol mewn grŵp cyfranogiad disgyblion.  Fel aelodau gweithredol o’r grwpiau, mae disgyblion hŷn yn cyfrannu’n effeithiol iawn at wneud penderfyniadau ac yn helpu i osod cyfeiriad strategol yr ysgol.

O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn hyderus fod yr ysgol yn gwrando ar eu safbwyntiau.  Mae’r cyfleoedd hyn yn datblygu hunanhyder, hunan-barch a medrau siarad a gwrando disgyblion. 
 
Mae disgyblion yn cymryd rhan weithredol yng nghylch monitro’r ysgol ac yn cefnogi’r uwch dîm rheoli wrth arfarnu ansawdd yr addysgu a’r dysgu ar draws yr ysgol.

Mae aelodau o’r grŵp cyfranogiad disgyblion yn cynnal arsylwadau gwersi ar y cyd â staff ac yn cyfweld â disgyblion.  Maent yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu ac yn trafod y rhain yn hyderus gyda staff yn ystod adborth.

Mae’r disgyblion hyn yn rhannu’r deilliannau o arsylwadau gwersi gyda disgyblion eraill a llywodraethwyr.  Er enghraifft, yn ystod cylch o arsylwadau gwersi, amlygodd disgyblion fod angen datblygu cyfleoedd i ddisgyblion weithio’n fwy annibynnol.  Mae disgyblion yn ysgrifennu eu cynllun gwella eu hunain i ymateb i feysydd datblygu y maent yn eu nodi ac mae’r corff llywodraethol yn monitro hyn yn rheolaidd.  Mae disgyblion hefyd yn arfarnu cynllun datblygu’r ysgol, yn cyfrannu at ddatblygiad polisi ac yn creu prosbectws disgyblion ar gyfer darpar ddisgyblion newydd.

Mae aelodau o grwpiau llais y disgybl yn mynychu rhan gyntaf cyfarfod tymhorol y corff llywodraethol ac yn rhoi cyflwyniadau ar eu hadolygiadau.  O ganlyniad, mae aelodau o’r corff llywodraethol yn wybodus am safbwyntiau disgyblion ar ansawdd eu profiadau dysgu yn Ysgol Gynradd Hafod. 

Deilliannau

Mae gwerthoedd yr ysgol ac ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau at addysg wedi galluogi iddi ddarparu profiad ysgol sy’n gymdeithasol gynhwysol ac yn werth chweil.  Caiff hyn effaith ar ddisgyblion unigol fel bod llawer ohonynt yn llawn cymhelliant ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hymddygiad a’u dysgu eu hunain.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn eu gwerthfawrogi eu hunain, pobl eraill a’u hamgylchedd.  Mae ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o’u hawliau eu hunain ac maent yn parchu hawliau pobl eraill. 

Dros gyfnod, mae bron pob un o’r disgyblion yn datblygu synnwyr gwell o berthyn i’w hysgol.  O ganlyniad, mae presenoldeb ysgol gyfan wedi gwella ac ni fu unrhyw waharddiadau parhaol na chyfnod penodol am dros dair blynedd.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn mwynhau eu dysgu ac yn dal ati i ganolbwyntio mewn gwersi yn arbennig o dda.  Mae llawer o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn siarad yn hyderus, er enghraifft wrth gynrychioli eu cyfoedion ar un o grwpiau llais y disgybl. 

O ganlyniad i’r ffocws ar hawliau a lles disgyblion, mae eu hymddygiad o gwmpas yr ysgol ac mewn gwersi yn rhagorol.  Mae presenoldeb disgyblion wedi gwella’n sylweddol o waelodlinau isel, ac mae wedi bod yn y 25% uchaf am y tair blynedd ddiwethaf, o gymharu â phresenoldeb ysgolion tebyg yn seiliedig ar gymhwyster i gael prydau ysgol am ddim.

Mae arweinwyr wedi gostwng lefelau absenoliaeth barhaus yn llwyddiannus, sy’n isel iawn erbyn hyn.  Mae’r awdurdod lleol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag ysgolion eraill, fel enghraifft o arfer orau.

Mae’r ffocws wedi cael effaith werthfawr ar ddeilliannau disgyblion hefyd.  Yng nghyfnod allweddol 2, ar y lefel 4 ddisgwyliedig, mae perfformiad disgyblion ym mhob pwnc yn dangos tuedd o wella.  Fe wnaeth perfformiad disgyblion yn 2014 osod yr ysgol yn y 25% uchaf o ysgolion tebyg ar gyfer y dangosydd pwnc craidd, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.  Yn y Cyfnod Sylfaen, nid yw disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn perfformio cystal â’u cyfoedion, ond, erbyn diwedd cyfnod allweddol 2, mae’r disgyblion hyn yn perfformio cystal â’u cyfoedion, ac yn aml yn well.

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn