Integreiddio gwerthfawr ymchwil ac ymholi ar draws y rhaglen

Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol / darparwr
Mae Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cynnwys Prifysgol Abertawe, 14 prif ysgol a 50 o ysgolion rhwydwaith ar draws de a gorllewin Cymru. Yn y brifysgol, mae’r bartneriaeth wedi’i lleoli yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae’r bartneriaeth yn darparu dwy raglen. Achredwyd y rhaglen TAR Uwchradd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn 2020 i gynnig naw pwnc: bioleg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg, dylunio a thechnoleg, Saesneg, mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern, a’r Gymraeg. Yn dilyn achredu, dechreuodd y rhaglen TAR Cynradd yn 2022.
Mae’r ddwy raglen TAR yn gyrsiau blwyddyn amser llawn. Cynigir y rhaglen gynradd a holl lwybrau pwnc y rhaglen uwchradd gydag opsiynau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Gweledigaeth Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) yw datblygu ymarferwyr myfyriol, wedi’u llywio gan ymchwil, trwy ei rhaglenni TAR uwchradd a chynradd, a gyflwynwyd yn 2020 ac yn 2022, yn y drefn honno. Crëwyd y weledigaeth yng nghyd-destun cefnogaeth gynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil ac ymholi proffesiynol (Llywodraeth Cymru, 2021).
I sicrhau bod gan y bartneriaeth y gallu i gyflawni ei gweledigaeth, lluniwyd y rhaglenni i wneud y mwyaf o arbenigedd ymchwil y brifysgol. Sefydlwyd Canolfan Ymchwil i Ymarfer (CRIP) adrannol yn brif sianel i gefnogi ymchwil addysgol. Mae CRIP yn gosod pwyslais cadarn ar wneud canfyddiadau’n hygyrch i ddefnyddwyr yn y pen draw a datblygu ymchwil gydweithredol gydag ysgolion a phartneriaid eraill.
Datblygwyd deunyddiau pwrpasol i gyflwyno myfyrwyr yn systematig i natur, cwmpas, moeseg a dulliau ymchwil addysgol. Gan fanteisio ar ddull ymarfer clinigol, crëwyd briffiau aseiniadau fel y gallai myfyrwyr fynd ar drywydd eu hymholiadau agos-at-ymarfer yng nghyd-destun yr ysgol, gyda chefnogaeth mentoriaid (Harris et al., 2020). Crëwyd ‘Arddull Tŷ’ TAR, yn sgil cyfraniad gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe ar theori dylunio dysgu (Laurillard, 2012). Mae hyn wedi helpu i hyrwyddo cyfleoedd cyson i fyfyrwyr ymgymryd ag amrywiaeth o ddulliau dysgu, gan gynnwys ymchwiliadau, o fewn eu sesiynau a addysgir.
Buddsoddodd arweinwyr y Brifysgol yn sylweddol yn y staffio a’r seilwaith i gefnogi ymchwil addysgol. Fe wnaeth hyn gynnwys penodi Swyddog Ymchwil penodedig ac adeiladu dwy ystafell ddosbarth arsylwi i hwyluso ymchwil ar raddfa fechan. Darparwyd cymorth pellach trwy lwfansau datblygu proffesiynol hael, ariannu ymchwil ddoethurol gan staff, a rhaglen o seminarau ymchwil rheolaidd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae adborth gan bartneriaid ysgol a ffynonellau eraill yn awgrymu bod ymchwil ac ymholi proffesiynol yn cael eu hystyried yn ganolog i fywyd y bartneriaeth. Mae timau’r rhaglenni’n llunio cysylltiadau agos rhwng theori, ymchwil ac ymarfer fyfyriol yn y brifysgol, mewn ysgolion ac mewn lleoliadau addysgol eraill fel amgueddfeydd, parciau ac orielau. O ganlyniad, mae athrawon dan hyfforddiant yn datblygu’u hymchwil a’u myfyrdod beirniadol mewn amrywiaeth o gyd-destunau a chan ddefnyddio amrywiol ddulliau. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwib-baru ymchwil, sy’n cynnwys ysgolheigion o’r Gyfadran ehangach, a thrafodaethau rhwydwaith ar ymchwil yn yr ysgol. Mae addysgwyr athrawon, yn y brifysgol ac mewn ysgolion partner, yn modelu a hyrwyddo gwerth ymchwil ac ymholi. Lle bo’n briodol, mae hyn yn cynnwys myfyrio ar fanteision a heriau gwneud eu hymchwil eu hunain. Mae holl aelodau’r adran AGA yn ymgymryd ag ymchwil wreiddiol mewn meysydd fel technoleg ddigidol, asesu ac adborth. Mae arweinwyr y brifysgol yn sicrhau bod yr amgylchedd yn hwyluso a dathlu ymchwil. Rhoddant wybod i staff am newyddion a chyfleoedd ymchwil trwy fwletinau Cyfadran rheolaidd, cyflwyniadau, deunyddiau ar-lein, gweithdai a chyfleoedd cyllid. Hefyd, maent yn monitro effaith ymchwil mewn sawl ffordd; er enghraifft, mae uwch arweinwyr AGA yn arsylwi defnydd tiwtoriaid o ymchwil mewn sesiynau a addysgir ac yn trafod cyfleoedd datblygu proffesiynol sy’n deillio o hyn i lywio strategaeth ymchwil.
Ar lefel cynllunio rhaglen, mae addysgwyr athrawon, partneriaid mewn ysgolion ac arweinwyr yn cydweithredu er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu medrau ymchwil a thueddfryd cadarnhaol. Hefyd, caiff myfyrwyr eu symbylu trwy’r dewis i fynd ar drywydd eu haseiniadau eu hunain ar sail ymholiad. Mae’r diwylliant ymchwil yn ymestyn ar draws y bartneriaeth a thu hwnt. Mae llawer o aelodau’r adran yn ymhél yn effeithiol â chydweithrediadau ymchwil Cymru gyfan i fodloni blaenoriaethau cenedlaethol (gweler gwefan CRIP). Mae arloesiadau effeithiol ar draws y bartneriaeth yn cynnwys y Rhwydwaith Ymchwilwyr Addysgol Ifanc (YERN), lle mae arweinwyr ymchwil ysgolion yn gweithio gyda’r brifysgol i ddatblygu medrau ymchwil plant. Mae adroddiadau annibynnol gan Estyn (2024) a Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (2024) yn amlygu’r buddion dysgu i ysgolion sy’n cymryd rhan ac i’r gymuned ehangach. Hefyd, mae cyn-fyfyrwyr yn cyfrannu at brosiectau ymchwil y bartneriaeth. Er enghraifft, mae cyn-fyfyrwyr TAR uwchradd yn cymryd rhan mewn astudiaeth hirdymor ar sut mae’r rhaglen wedi eu paratoi nhw ar gyfer blynyddoedd cynnar eu gyrfa addysgu. Mae eu hadborth hyd yn hyn yn awgrymu eu bod wedi elwa’n sylweddol o’r medrau ymchwil a thueddfryd i ategu eu harfer yn yr ystafell ddosbarth.
Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae gwefan CRIP yn rhoi cyhoeddusrwydd i ymchwil yr adran ar draws amrywiaeth o themâu, fel y blynyddoedd cynnar, arweinyddiaeth, ymgysylltiad rhieni a lles. Cynhelir seminarau bob tymor yn gysylltiedig â’r themâu hyn, y mae’r holl randdeiliaid yn cael eu gwahodd iddynt. Mae blogiau, fideos, ffeithluniau, animeiddiadau a chrynodebau gweledol wedi cael eu rhannu ar draws PYPA a thu hwnt fel bod canfyddiadau amrywiol prosiectau ymchwil ar gael. Cynhadledd flynyddol CRIP yw uchafbwynt y calendr ymchwil, sef pan ddaw ymchwilwyr ar bob lefel ynghyd i rannu eu canfyddiadau. Mae hyn yn cynnwys athrawon dan hyfforddiant ac arweinwyr eu rhaglenni. Mae staff o bob rhan o’r brifysgol, arweinwyr ymchwil mewn ysgolion, cynrychiolwyr consortia lleol a Llywodraeth Cymru, ac addysgwyr athrawon o brifysgolion eraill, yn ymuno â nhw. Hefyd, mae plant a phobl ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd yn rhannu eu hymchwil ochr yn ochr ag athrawon cadeiriol addysg.
Anfonir bwletinau wythnosol i bob ysgol bartner ac mae’n rhain yn aml yn cynnwys digwyddiadau ymchwil a galwadau am fynegiannau o ddiddordeb i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil cydweithredol. Mae athrawon TAR cynradd dan hyfforddiant yn arwain ar ysgrifennu a golygu cylchlythyr dwyieithog blynyddol, sef Ymlaen, sy’n cynnwys newyddion ymchwil.
Mae digwyddiadau fel yr encil ysgrifennu adrannol yn cefnogi addysgwyr athrawon ar wahanol gamau ymchwil; er enghraifft, mae ymchwilwyr gyrfa gynnar wedi cyhoeddi blogiau ac erthyglau proffesiynol ar bynciau fel pam mae ymgeiswyr y rhaglen TAR Uwchradd yn dewis llwybr Cymraeg, ac mae ymchwilwyr mwy profiadol yn cael amser i gynllunio ar gyfer cyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae arbenigedd ymchwil amrywiol yr adran yn golygu bod cyfleoedd rheolaidd hefyd i ddysgu gan staff sydd â rolau arbenigol, fel golygyddion cyfnodolion.
Mae aelodau’r timau cynradd ac uwchradd wedi rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau mewnol ac allanol amrywiol. Mae’r cynadleddau allanol yn cynnwys cynadleddau Cyngor y Gweithlu Addysg, Cyngor y Prifysgolion er Addysg Athrawon a Chymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA). Er enghraifft, mae prifysgolion a phartneriaid mewn ysgolion wedi rhoi cyflwyniad ar y cyd yn BERA (2024) ar sut mae’r rhaglen TAR cynradd yn rhoi pwys ar lais y disgybl ac yn ei ddatblygu wrth i’r disgyblion gymryd rhan mewn cyfweld ymgeiswyr TAR, cyfrannu at sesiynau’r brifysgol a chymryd yr awenau am ran o’r Diwrnodau Ymarfer a Theori. Mae nifer o staff AGA wedi rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau rhyngwladol ac eraill yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o ddarparwyr AGA eraill ar brosiectau ymchwil cenedlaethol sy’n ymwneud â Chymru.
Mae’r cyhoeddiad mynediad agored Yr Hyn Rydym yn ei Wneud: Ymchwil ac Ymholiad Proffesiynol, ar wefan CRIP, yn darparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys astudiaethau achos ar waith aelodau’r tîm AGA gydag ysgolion partner a’r adran ehangach.

Cyfeiriadau
Adroddiad Estyn (2024) Ysgol Gynradd Bracla. Caerdydd: Estyn.
Harris, A., Jones, M., Lewis, H., Lucas, N. a Thomas, J., (2020) “Designing an Integrated Programme of Initial Teacher Education: Progress, Considerations and Reflections”, Wales Journal of Education. 22(1), 142-163.
Laurillard, D. (2012) Teaching as a Design Science. London: Routledge.
Llywodraeth Cymru (2021) Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholi Addysgol, Caerdydd: Llywodraeth Cymru.