Hunan werthuso cryf ar sail effaith addysgu ar ddysgu a lles disgyblion - Estyn

Hunan werthuso cryf ar sail effaith addysgu ar ddysgu a lles disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Dau ddisgybl yn cyflwyno gwers gemeg i ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio bwrdd gwyn gyda strwythurau moleciwlaidd wedi'u llunio arno.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o fewn sir Caerffili. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar ddau safle, sef safle Gellihaf ger pentref Fleur de Lys a safle’r Gwyndy yn nhref Caerffili. Mae 1764 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 196 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Canran y disgyblion sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd yw 11.7%. Mae 15.2% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan 9.0% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, dau ddirprwy bennaeth gweithredol, saith pennaeth cynorthwyol a rheolwr busnes.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Ers 2022, mae’r ysgol wedi esblygu ei gweithdrefnau hunan werthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant yn bwrpasol er mwyn rhoi cynnydd y disgybl wrth galon y cyfan. O ganlyniad, mae cysylltiad clir rhwng hunan werthuso, gwireddu potensial (prosesau rheoli perfformiad staff), dysgu proffesiynol a chynllunio ar gyfer gwelliant ysgol gyfan.  Rhoddir ffocws pendant a chyson ar fesur effaith unrhyw ddarpariaethau ar gynnydd yn safonau a medrau’r disgyblion.  Mae arweinwyr yn addasu’r cynnig dysgu proffesiynol yn rheolaidd i ymateb i ganfyddiadau’r gweithgareddau hunan werthuso. Maent yn targedu meysydd ar gyfer gwella yn nysgu a medrau’r disgyblion gan sicrhau gwelliannau, er enghraifft yn safonau llafaredd disgyblion. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gan yr ysgol galendr cynhwysfawr o weithgareddau i gasglu gwybodaeth am ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Mae arweinwyr yn canolbwyntio’n gryf ar ba effaith mae’r ddarpariaeth a’r addysgu yn gael ar gynnydd a lles disgyblion. Yn ogystal, mae arweinwyr yn dadansoddi ac arfarnu pa mor effeithiol y gweithredir gweledigaeth yr ysgol gan adnabod meini prawf llwyddiant penodol sy’n ymgorffori’r weledigaeth hon.

Mae arweinwyr yn ystyried ystod eang o dystiolaeth o deithiau dysgu, arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion, data mewnol ac allanol a gweithgareddau holi barn disgyblion, staff a rhieni er mwyn creu adroddiadau cynhwysfawr am ansawdd yr addysgu a dysgu.  Yn dilyn cynnal amrediad o’r gweithgareddau hyn, mae arweinwyr yn cyfarfod i gynnal trafodaeth agored a phwrpasol am y dystiolaeth. Ble mae’r ffocws ar ddysgu ac addysgu, mae sgyrsiau yn rhoi ffocws cadarn ar drafod a dadansoddi cynnydd a medrau disgyblion. Mae arweinwyr yn ystyried a gwerthuso faint o effaith mae camau gweithredu a strategaethau i wella addysgu wedi’u cael ar gyflawniad disgyblion. Rhoddir ystyriaeth gofalus i fedrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion er mwyn ystyried os yw darpariaeth rhaglenni dysgu proffesiynol athrawon yn cael effaith gadarnhaol ar y medrau hyn.  Er enghraifft, trafodir medrau llafar disgyblion gan ystyried os yw gwaith datblygol athrawon i fwydo geirfa a phatrymau brawddegau ynghyd a holi effeithiol yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd ymatebion disgyblion. O ganlyniad, nodwedd gref o waith arweinwyr yw’r ffordd maent yn gwerthuso ansawdd addysgu yn sgil ei effaith ar ddysgu. Defnyddir proses tebyg i ystyried effaith y ddarpariaeth gofal, cymorth ac arweiniad ar les disgyblion. O ganlyniad i’r gwerthuso manwl a thrylwyr yma, mae gan y rhan fwyaf o arweinwyr yr ysgol ymwybyddiaeth glir o’r prif gryfderau a’r agweddau i’w gwella yn eu meysydd cyfrifoldeb.

Mae arweinwyr yn hunan-feirniadol, gan arfarnu effaith eu gwaith yn barhaus. Cyflwynir adroddiad interim ysgol gyfan ar ddysgu ac addysgu yn dilyn gweithgareddau sicrhau ansawdd Medi hyd Ionawr i grynhoi’r canfyddiadau a gosod cyfeiriad ar gyfer y cynllun datblygu ysgol.  Yn dilyn adnabod blaenoriaethau gwella ym medrau disgyblion, mae arweinwyr yn gweithredu proses ‘Cynllunio, Addysgu, Myfyrio’ (CAM) sy’n canolbwyntio ar ddatblygu a gwella ymarfer proffesiynol staff. Cynigir rhaglen dysgu proffesiynol penodol ac ystyrlon i ymateb i’r blaenoriaethau a gafodd eu hadnabod, gan gynnwys sesiynau CAM wythnosol ar gyfer holl aelodau staff yr ysgol.  Er enghraifft, mae ffocws wedi bod ar ddatblygu medrau llafaredd disgyblion ac ansawdd cwestiynu athrawon. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad staff, ar arferion yr ystafell ddosbarth a chynnydd disgyblion.  Mae’r rhaglen dysgu proffesiynol yn cael ei theilwra i anghenion staff unigol gan gynnwys staff sydd yn dysgu tu hwnt i’w harbenigedd neu athrawon sy’n ifanc yn eu gyrfa. Yn ogystal, grymusir medrau arwain staff trwy weithgareddau dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer rheolwyr canol.

Mae uwch dîm arwain yr ysgol yn hyrwyddo awyrgylch o dryloywder a gonestrwydd er mwyn galluogi hunan werthuso craff a gweithredu amserol ac effeithiol ar feysydd i’w datblygu. Mae arweinwyr canol yr ysgol yn chwarae rol ganolog yn hyn gan ddefnyddio amrediad o brosesau hunan werthuso i fonitro ac arfarnu’n effeithiol gynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r cynlluniau datblygu disgyblaethau (meysydd cwricwlaidd) a lles. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu a lles disgyblion a staff.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i gael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae miniogi prosesau hunan werthuso a chynllunio gwelliant ysgol gyfan wedi cael effaith gadarnhaol ar waith arweinwyr canol ac uwch arweinwyr yr ysgol, gan olygu eu bod yn adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella eu hadrannau neu’u meysydd cyfrifoldeb yn dda. Rhoddir rôl flaenllaw i arweinwyr canol warchod a datblygu safonau o fewn eu disgyblaethau ar lawr yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mae’r rhaglen dysgu proffesiynol cynhwysfawr yn golygu bod staff yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth sydd ar gael ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn dda i ddatblygu yn eu rolau.

Dros amser, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth bynciol. Gall y disgyblion hyn adalw eu gwybodaeth flaenorol yn hyderus ac mae mwyafrif ohonynt yn ei gymhwyso’n addas mewn cyd-destunau newydd. Mewn llawer o wersi, mae athrawon yn esbonio’n effeithiol ac yn cwestiynu yn gyson er mwyn profi gwybodaeth y disgyblion a sicrhau eu bod yn deall. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau llafar yn dda. Maent yn strwythuro eu hymatebion yn drefnus a defnyddio patrymau brawddegau yn ddeallus.  Mae’r myfyrio parhaus a thryloyw am ddysgu ac addysgu yn cael effaith cadarnhaol ar ddatblygiad staff, addysgeg, lles a chynnydd disgyblion. Yn ogystal, mae hyn yn caniatáu’r ysgol i lunio ei blaenoriaethau yn gydlynol gan ystyried ei gweledigaeth yn ddoeth. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda o fewn yr ysgol trwy sesiynau CAM wythnosol a diwrnodau hyfforddiant mewn swydd gan gynnwys dyddiau a gynhelir ar y cyd ag ysgolion cynradd partner. Yn ogystal, mae’r ysgol wedi cyflwyno ei harferion mewn rhwydwaith o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg o fewn y rhanbarth ac ar draws Cymru.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn