Gwneud dysgu yn brofiad byw

Arfer effeithiol

Ewloe Green C.P. School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Ewloe Green ym mhentref Ewlo ger Queensferry yn Sir y Fflint.  Mae 389 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 49 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae 15 o ddosbarthiadau un oedran.

Saesneg yw prif iaith bron pob un o’r disgyblion.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac maent yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.  Cyfartaledd tair blynedd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 5%, sy’n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 10% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 21%.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Arwyddair yr ysgol yw, ‘Bob Amser yn Anelu’n Uchel’ (‘Always Aiming High’), sydd wedi’i ymgorffori yn ei chyd-destun a’i gweledigaeth.  Mae’r ysgol yn flaengar ac yn agored i newid ac arloesedd, sy’n ei gwneud yn lle bywiog a chyffrous i ddysgu.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn hanesyddol, mae’r ysgol wedi defnyddio dull thematig o gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm, sy’n golygu y bu disgyblion yn dysgu trwy wahanol themâu neu destunau.  Yn eu cynllunio, mae athrawon yn darparu cyfleoedd amlwg i ddisgyblion gymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh ar draws y cwricwlwm.  Felly, roedd cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru bron yn ffordd naturiol o ailfrandio’r hyn a oedd eisoes yn nodwedd yn narpariaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion.

Gan fod chwe wythnos â ffocws ar bwnc neu â ffocws thematig eisoes yn cael eu cynnal bob blwyddyn, cafodd y rhain eu hailfrandio i ymgorffori’r chwe maes dysgu, sef conglfeini’r cwricwlwm newydd i Gymru.  Fe wnaeth hyn hwyluso’r posibilrwydd ar gyfer arloesedd pellach, ac roedd yn gyfle cyffrous i feddwl yn eang, rhoi cynnig ar brosiectau mawr ac arbrofi â syniadau yr oedd y cwricwlwm blaenorol yn cyfyngu arnynt yn draddodiadol.

O wybod hynny, ‘os byddwch chi bob amser yn gwneud yr hyn rydych chi wedi’i wneud erioed, byddwch chi bob amser yn cael yr hyn rydych chi wedi’i gael erioed,’ roedd hyn yn gyfle i fentro gwneud rhywbeth gwahanol, ‘rhoi cynnig arni’, datblygu syniadau creadigol gan ddysgu trwy brofi ac arbrofi, ac yn bennaf oll, yn hwyl i ddisgyblion.  Roedd hefyd yn cynnig cyfle i ddatblygu llais y disgybl ymhellach, eu dewisiadau o ran beth maent yn ei ddysgu, a sut, ac yn rhoi posibiliadau ar gyfer gwneud dysgu yn real, yn gyfredol a pherthnasol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Un gweithgaredd o’r fath oedd antur ysgol gyfan i fyd William Shakespeare.  Dechreuodd â sgwrs am ddarn bach o dir nas defnyddir a’r posibiliadau o ran sut gellid ei ddatblygu i fod yn ofod creadigol i ysbrydoli disgyblion i berfformio a datblygu eu medrau llafaredd.  Daeth disgyblion i’r casgliad y byddent yn hoffi cael strwythur amlbwrpas ar gyfer perfformio ac ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.

Cyfarfu’r staff i rannu syniadau, a chyfrannodd y llywodraethwyr at y drafodaeth.  Roedd y syniadau a gyflwynwyd yn amrywio o’r elfen sgwrsio i feddwl yn fwy creadigol.  Daeth yn amlwg fod angen gofod lle gallai disgyblion berfformio, a datblygu eu dawn greadigol trwy lafaredd, dawns, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol.  O ystyried cynaliadwyedd a defnydd tymor hir, roedd angen iddo fod yn ofod a allai gael ei ddefnyddio gan ysgolion eraill i hyrwyddo’r celfyddydau perfformiadol a dysgu yn yr awyr agored, a datblygu cydweithio sefydledig yr ysgol ymhellach.

Felly, penderfynwyd gweithio tuag at godi arian ar gyfer amffitheatr.  Ysgrifennodd y cyngor ysgol lythyrau at fusnesau lleol, ac ymgymryd â gweithgareddau codi arian a hyrwyddo er mwyn gwireddu eu cynlluniau.  Fel llawer o ysgolion, roedd ganddynt hanes o berfformio sioeau cerdd, drama’r Geni a chyflwyniadau gwasanaeth dosbarth, ac felly roedd eisiau rhywbeth a fyddai’n herio’r disgyblion, y staff a’r gymuned ymhellach.  Roedd y cwricwlwm newydd i Gymru wedi cynnig posibilrwydd i gyfuno pynciau traddodiadol ‘ar eu pen eu hunain’ a darpariaeth thematig gyda meysydd dysgu newydd.  O ganlyniad, rhoddodd hyn gyfle cyfoethog i ddisgyblion ddysgu trwy brofiad, lle byddai ieithoedd, llenyddiaeth, cyfathrebu, y dyniaethau, cymhwysedd digidol a’r celfyddydau perfformiadol yn arwain at ddysgu cyffrous i ddisgyblion.

Penderfynodd disgyblion, ar y cyd â staff, greu perfformiad o ‘The Tempest’ gan Shakespeare.  Trefnodd yr ysgol ffocws ysgol gyfan am bythefnos i gyfuno addysgu a dysgu iaith, llythrennedd a chyfathrebu â’r celfyddydau perfformiadol.  Cynlluniodd pob grŵp blwyddyn raglen gyffrous o farddoniaeth, celf a cherddoriaeth.  Cymerodd pob grŵp blwyddyn agwedd, a’i datblygu yn unol ag oedran a chyfnod y disgyblion.  Er enghraifft, canolbwyntiodd y disgyblion iau ar gychod a dŵr, creu modelau, arnofio a suddo, ac fe wnaethant ymgymryd â gweithgareddau drama.  Bu disgyblion ar ddiwedd y cyfnod sylfaen yn ymchwilio i William Shakespeare, yn tynnu lluniau gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, yn llunio cerddi siâp, yn creu pypedau ac yn ysgrifennu ryseitiau hud.  Ysgrifennodd disgyblion cyfnod allweddol 2 gerddi disgrifiadol, sonedau a Haiku gan ddefnyddio llinellau pumban iambig i gynnwys cymariaethau a throsiadau.  Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys creu byrddau stori, creu ffilmiau wedi’u hanimeiddio, a dysgu am fywyd canoloesol gan gynnwys celf a cherddoriaeth y cyfnod.  Roedd disgyblion yn llawn cyffro i gyfrannu at y perfformiad, lle roedd yr amgylchedd dysgu cyfoethog hwn yn sylfaen gadarn ar gyfer datblygu eu llafaredd.

Ar ôl llwyddo i ennill cyllid a defnyddio rhywfaint o gyllid grant yr ysgol, cafodd yr ysgol gymorth gan arlunydd proffesiynol.  O ganlyniad, gwnaeth disgyblion bypedau a phropiau enfawr ar gyfer perfformio’r cynhyrchiad yn Theatr Clwyd.  Dyhead yr ysgol oedd y byddai perfformiadau yn y dyfodol yn rhan o Gonsortiwm Gŵyl Shakespeare ac yn cael eu perfformio yn yr amffitheatr.  Defnyddiodd yr ysgol fedrau a doniau staff a llywodraethwyr i gefnogi’r cynhyrchiad.  Roedd y rhain yn cynnwys actor proffesiynol (llywodraethwr) a fu’n gweithio gyda’r disgyblion ar y perfformiad, a’r athrawon a oedd yn gerddorion, yn arlunwyr ac yn ddawnswyr.

Er mwyn gwneud yr iaith Shakesperaidd yn hygyrch i ddysgwyr ifanc, penderfynodd yr ysgol berfformio gan ddefnyddio cwpledi sy’n odli.  Penderfynon nhw hefyd ychwanegu dawnsio creadigol, cyfansoddi a pherfformio eu cerddoriaeth eu hunain a defnyddio doniau disgyblion a oedd yn dysgu chwarae offerynnau i gyd-fynd â’r perfformiad.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae datblygu dulliau dysgu arloesol yn nodwedd allweddol o arfer yr ysgol.  Mae’r ysgol yn credu bod ‘gwneud i ddysgu ddod yn fyw’, gan ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion trwy ffyrdd ymarferol, wedi effeithio’n dda ar safonau, ac wedi ennyn diddordeb disgyblion y gallent fod wedi bod yn amharod i gymryd rhan hefyd.  Mae hyn wedi cael canlyniadau arbennig o dda i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd wedi elwa ar gael cyfleoedd i berfformio.  Mae’r hwb i’w hyder a’u brwdfrydedd i ddysgu a darllen yn hynod effeithiol.  Llwyddodd disgyblion y nodwyd eu bod yn cael trafferth oherwydd gorbryder i oresgyn hyn trwy gymryd rhan a pherfformio trwy ddawnsio a chyfansoddi.

Mae canlyniad dull cyfannol yr ysgol yn golygu bod diben yn ymwneud â phrofiad i ddysgu.  Mae’n canolbwyntio ar lais y disgybl fel bod disgyblion yn berchen ar eu dysgu eu hunain, ac yn ei lywio.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae bod yn flaengar ac ymgysylltu ag ysgolion eraill trwy rannu arfer yn sicrhau bod ysgolion eraill yn gallu defnyddio’r amffitheatr ac yn gallu datblygu gŵyl Shakespeare flynyddol o fewn y consortiwm.  Rhannwyd proses a deilliannau’r arfer o fewn y gymuned leol a gydag ysgolion o fewn consortiwm yr ysgol (GwE).

Ymatebodd GwE:

Mi wnes i fwynhau’r perfformiad yn fawr iawn – roedd y disgyblion yn destun clod i chi a’r ysgol.  Profiad mor gyfoethog iddyn nhw!  Diolch am y dystiolaeth gyfoethog rydych chi wedi’i hanfon.  Mae hyn yn ddefnyddiol iawn fel enghraifft o sut gall ysgolion baratoi ar gyfer maes Celfyddydau Mynegiannol y cwricwlwm newydd.’

Dywedodd ein papur newydd lleol:

‘Mae’n enghraifft hollbwysig o’r agenda dyfodol llwyddiannus ac yn enghraifft ragorol o’r safonau rhagorol yng nghyflawniadau disgyblion’.

Fe’i rhannwyd hefyd y tu hwnt i ysgolion lleol, gan annog ysgolion eraill i fod yn fwy arloesol â’u dulliau dysgu.