Gwella ymgysylltu â theuluoedd i ddatblygu lles disgyblion yng nghymuned yr ysgol

Arfer effeithiol

Lansdowne Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol  

Mae Ysgol Gynradd Lansdowne yn Nhreganna, sef ardal yn ninas Caerdydd.  Mae 454 o ddisgyblion 3-11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 37 o blant meithrin rhan-amser.  Mae saith dosbarth yn y cyfnod sylfaen, gan gynnwys y dosbarth meithrin, a 10 dosbarth cyfnod allweddol.  Cyfartaledd treigl y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw 26%, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae tua hanner y disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac mae tua hanner y disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae nifer fach iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Nodwyd bod gan ryw 25% o’r disgyblion angen addysgol arbennig, sydd ychydig uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (21%).  Mae gan nifer fach iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er Tachwedd 2013.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nododd tîm arweinyddiaeth newydd yr ysgol yn gyflym fod ymgysylltu â theuluoedd yn mynd i fod yn allweddol ar gyfer datblygu lles disgyblion, a’i fod yn allweddol i ddatblygu cymuned ysgol.  Aeth arweinwyr ati i chwilio am gyfleoedd i weithio gydag asiantaethau allanol sydd â phrofiad o weithio gyda theuluoedd, gan gynnwys Achub y Plant a Families Connect.  Dechreuodd hyn gylch o gynnal rhaglenni a gweithdai llwyddiannus gyda theuluoedd.  Mae’r gweithdai hyn yn galluogi nifer o rieni i ennill cymwysterau a chael swydd.

Defnyddir ystod o strategaethau defnyddiol i gynorthwyo arweinwyr i nodi rhwystrau wrth weithio gyda grwpiau gwahanol o rieni a gwahanol gymunedau.  Mae’r gwaith hwn yn cynnwys sefydlu grŵp rhieni gyda chynrychiolwyr o wahanol ffydd: grŵp sydd wedi cynorthwyo’r ysgol â chylch gwaith eang, gan gynnwys ysgrifennu cynlluniau gwaith a pholisïau, a sefydlu ystod o weithdai rhieni a diwrnodau ymgysylltu â theuluoedd.  Trwy eu cymorth, mae’r ysgol wedi gallu estyn allan i deuluoedd sydd wedi bod yn anodd ymgysylltu â nhw yn draddodiadol.

Ar ôl dadansoddi holiaduron rhieni, dechreuodd yr ysgol faes gwaith pellach gyda theuluoedd.  Nododd yr ysgol fod llawer o dadau yn teimlo eu bod wedi ymddieithrio o addysg eu plant.  O ganlyniad, bu’r ysgol yn gweithio gyda grŵp o dadau i weld sut gallent eu cynorthwyo’n well i ymgysylltu â’r ysgol.  Cyflwynwyd systemau newydd a oedd yn galluogi cyfathrebu gwell â thadau sydd â gwarchodaeth ar y cyd am eu plant.

Sefydlodd yr ysgol siop goffi i’r rhieni hefyd, sydd ar agor bob dydd, lle gall rhieni gyfarfod a dod i’r ysgol mewn ffordd anffurfiol.  Mae hyn yn gyfle defnyddiol i wahanol asiantaethau cymorth o’r gymuned fod ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad i deuluoedd.  I ddechrau, bu staff yr ysgol yn rhedeg y siop goffi, ond wedyn trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn i’r rhieni.

Yn ogystal â chael polisi drws agored, lle mae aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth ar gael i siarad â rhieni ar y ffôn neu’n bersonol, mae aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth wrth giât yr ysgol bob dydd.  Mae hyn yn cynnig ffordd ymarferol o gyfathrebu’n uniongyrchol â rhieni.  Gall rhieni’r ysgol rannu unrhyw wybodaeth bwysig, ac mae hyn yn gyfle gwerth chweil i feithrin perthynas gyda theuluoedd trwy rannu newyddion da â nhw.  Mae’r ysgol wedi neilltuo amser bob dydd pan fydd athrawon ar gael i siarad â rhieni.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy ddatblygu perthnasoedd effeithiol iawn gyda theuluoedd, gall yr ysgol ymyrryd yn gynnar os byddant yn nodi bod anawsterau â phresenoldeb neu ymddygiad, er enghraifft.  Yn y mwyafrif o achosion, mae hyn yn golygu y gallant gynorthwyo teuluoedd cyn i bethau waethygu, ac mae hyn wedi arwain at bresenoldeb gwell ac ymddygiad gwell ar draws yr ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos gyda dwy ysgol fraenaru a’u clwstwr o ysgolion er mwyn rhannu’r arfer a pharhau i chwilio am ragor o gyfleoedd i ymgysylltu â theuluoedd ar sail yr arfer dda y maent wedi’i gweld mewn lleoliadau eraill.