Gwella lles a deilliannau disgyblion trwy gwricwlwm creadigol

Arfer effeithiol

Ysgol Cefn Coch


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol:

Mae ysgol Cefn Coch wedi cynllunio cwricwlwm sy’n cwmpasu celfyddyd, drama, cerddoriaeth, ffilm a chyfryngau digidol er mwyn gwella deilliannau a lles disgyblion trwy ennyn eu diddordeb a’u galluogi i lwyddo.  Mae’r ysgol wedi sicrhau fod y gwaith yn berthnasol i anghenion heddiw ac yn datblygu cymwyseddau a fydd yn galluogi disgyblion i wynebu heriau’n hyderus yn eu bywydau yn y dyfodol.  Maent yn weithgar er mwyn sicrhau fod y gwaith yn uchelgeisiol a diddorol sy’n hybu mwynhad o ddysgu a boddhad wrth feistroli cynnwys ymestynnol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd;

Mewn ymateb i adroddiad Dyfodol Llwyddiannus mae athrawon yr ysgol wedi cydweithio i gynnig profiadau celfyddydol cyfoethog i ddatblygu sgiliau technoleg gwybodaeth disgyblion mewn ffordd greadigol er mwyn eu harfogi fel aelodau o weithlu technegol gymwys y dyfodol.

Darperir cyfleoedd rheolaidd i’r dysgwyr greu rhaglenni radio wythnosol ynghyd â rhaglenni teledu a ffilmiau ar sianel yr ysgol.  Mae llais y dysgwyr yn ganolog i’r holl weithgarwch ac mae’r disgyblion yn gyfrifol am gynllunio’r rhaglenni, cyfweld, sgriptio, recordio, actio, cyfarwyddo, ffilmio, creu effeithiau a golygu’r cynnyrch terfynol.  Mae’r gweithgarwch hwn wedi ei wreiddio yn yr ysgol ers nifer o flynyddoedd bellach a’r disgyblion wedi dod i’r brig mewn cystadlaethau digidol, er enghraifft drwy ennill Gwobr Ddigidol Cymru.

Yn y casgliad o ffilmiau y mae’r disgyblion wedi eu creu gwelir amrediad eang o ddisgyblaethau.  Mae’r disgyblion yn cydweithio fel tîm i rannu’r gwahanol gyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chreu ffilm.  Yn y cyd-destun hwn, mae’r celfyddydau mynegiannol yn cynnig cyfleoedd i’r disgyblion i ymchwilio, mireinio a chyfleu syniadau gan ddefnyddio’r meddwl, y dychymyg a’r synhwyrau mewn ffordd greadigol.  Yn ogystal, mae’r disgyblion yn arddangos eu gallu technolegol i gynllunio tasgau’n fanwl ar gyfer dibenion a chynulleidfa benodol.

Yn y rhaglen ‘Siot’ mae’r disgyblion wedi creu darn sy’n hyrwyddo meddylfryd twf ac yn canolbwyntio ar ddau bŵer dysgu, sef ymroddiad a dyfalbarhad.  O ganlyniad i oriau o ymarfer a dyfalbarhad, gwelir y disgyblion yma yn arddangos eu sgiliau celfydd yn effeithiol.   Wrth ddarlledu’r rhaglen hon i weddill yr ysgol mae’r disgyblion yn annog eu cyfoedion i weithredu egwyddorion meddylfryd twf yn eu bywyd bob dydd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Cred yr ysgol wrth ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol, rhaid wrth ymroddiad, dyfalbarhad a gofal am fanylion, ac mae’r rhain yn alluoedd sy’n fanteisiol ar gyfer dysgu’n gyffredinol.  Gwelir disgyblion yr ysgol yn datblygu’r agweddau yma yn llwyddiannus yn eu gwaith.  Yn ogystal, mae’r defnydd o dechnoleg yn datblygu medrau cyfathrebu’r disgyblion ynghyd â’r gallu i fynegi eu syniadau a’u hemosiynau trwy wahanol gyfryngau digidol.

Mae’r profiadau cyfoethog y mae’r cwricwlwm mynegiannol a chreadigol yr ysgol yn ei ddarparu yn annog y disgyblion i feithrin eu gwerthfawrogiad, eu doniau a’u sgiliau celfyddydol a pherfformio.  Maent hefyd yn cyfrannu at gyflawni bob un o bedwar diben y cwricwlwm newydd.  Mae’r disgyblion yn datblygu’n uchelgeisiol trwy gael eu hannog i ymchwilio i feysydd profiad newydd ac ymestynnol.  Trwy gyfrwng y gwaith, maent yn ymdrechu i fireinio eu sgiliau a gwella eu gwaith yn llwyddiannus.  Maent yn datblygu’n gyfranwyr mentrus a chreadigol gan eu bod yn meithrin eu creadigrwydd mewn amrywiaeth o ffurfiau.  Mae’r cyfrwng yma hefyd yn datblygu’r disgyblion yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus ac yn eu galluogi i ddeall eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain.  Mae’r platfform creadigol a digidol a ddarperir gan yr ysgol yn helpu’r disgyblion fagu cadernid a theimlo’n fwy hyderus wrth gael boddhad personol o fynegiant creadigol.  Mae hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella eu hunan ddelwedd a’u cymhelliant a chyfoethogi ansawdd eu bywyd. Mae’r fideos ‘Sphero’  y mae’r disgyblion wedi eu paratoi ar gyfer addysgu a mentora eu cyd-ddisgyblion yn eu datblygu yn gyfranwyr mentrus.  Maent yn meithrin eu sgiliau a phriodoleddau ar gyfer llwyddo mewn gwaith â chymryd rhan mewn gwaith tîm a mentora a chynorthwyo eraill.  Gwnânt hyn yn hynod o lwyddiannus.

Effaith y gwaith hwn yw ei fod yn ysbrydoli ac ysgogi disgyblion gan ei fod yn dod â nhw i gysylltiad â phrosesau creadigol, perfformiadau a chynhyrchion pobl eraill ac yn eu symbylu i arbrofi a chreu eu hunain.  Mae’r celfyddydau mynegiannol yn yr ysgol yn fan cychwyn i gyfranogi trwy gydol oes ac mae hyn yn cyfrannu at les meddyliol y disgyblion trwy ddatblygu hyder, cadernid, gwydnwch ac empathi.  

Mae’r ysgol yn cydnabod arwyddocâd a photensial y celfyddydau mynegiannol a chreadigol ac yn grediniol eu bod wedi cael effaith gadarnhaol ar les a deilliannau disgyblion yn Ysgol Cefn Coch.