Gwella addysgu a dysgu trwy rymuso dysgu proffesiynol - Estyn

Gwella addysgu a dysgu trwy rymuso dysgu proffesiynol

Arfer effeithiol

The College Merthyr Tydfil

Ystafell ddosbarth gyda nifer o fyfyrwyr yn codi eu dwylo i ateb cwestiwn, tra bod athro yn sefyll o flaen bwrdd gwyn gyda diagramau a nodiadau.

Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn goleg addysg bellach cyffredinol sy’n cynnig amrywiaeth eang o raglenni addysgu galwedigaethol a chyffredinol. Agorodd campws y coleg yn Ynysfach, Merthyr Tudful, ym mis Medi 2013 yn sgil ad-drefnu trydyddol yn yr awdurdod lleol. Mae’r coleg yn is-gwmni i Brifysgol De Cymru, gyda bwrdd cyfarwyddwyr wedi’u penodi gan y Brifysgol. 

Mae’r coleg wedi’i leoli ym Merthyr Tudful, sef yr awdurdod lleol lleiaf yng Nghymru gyda phoblogaeth gyfan o ryw 58,000 o bobl, a saif o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae gan Ferthyr Tudful rai o’r ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru, gyda chofnod bod 28 o’i 36 is-ardal yn yr 50% uchaf o ardaloedd amddifad yng Nghymru, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Cenhadaeth y coleg yw ‘Trawsnewid Bywydau trwy Gydweithio’. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cyflwynodd arweinyddiaeth y coleg dîm dysgu ac addysgu, yn cynnwys dau gydlynydd dysgu ac addysgu a chwe anogwr dysgu ac addysgu, i gynorthwyo athrawon â datblygu a gwreiddio amrywiaeth o strategaethau allweddol yn canolbwyntio ar ymgysylltu dysgwyr, amrywiaeth, cyflymder priodol, ymestyn a her, a holi effeithiol. Y tîm addysgu a dysgu sy’n gyfrifol am yrru strategaeth dysgu ac addysgu’r coleg, sy’n canolbwyntio ar bedair elfen allweddol:  

  •  Grymuso Ymarferwyr  
  • Effaith ar Ddysgu  
  • Dysgu ac Addysgu Eithriadol  
  • Rhannu Arfer Dda  

Yn sylfaen i’r strategaeth hon y mae rhaglen dysgu proffesiynol gynhwysfawr, gan sicrhau bod staff yn gallu cael at y technolegau addysgu, yr arloesiadau, yr offer asesu a’r cyfleoedd diweddaraf i gymryd rhan mewn mentrau dysgu ac addysgu’r coleg. Mae staff yn cael adborth rheolaidd ar eu darpariaeth addysgu a mynediad rheolaidd at anogaeth 1:1 a chylchoedd anogaeth fel ffordd o ddatblygu athrawon yn arweinwyr dysgu. 

Bu newid mewn ffocws, gyda dysgu proffesiynol grymusol sy’n meithrin ymarferwyr ac yn eu paratoi â’r offer angenrheidiol i hwyluso sesiynau effeithiol a difyr. O’r newid diwylliannol hwn y deilliodd y Cynllun Dysgu a Datblygu Proffesiynol (PLDP). 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Trefnodd arweinwyr y coleg i hwylusydd allanol weithio gyda’r tîm dysgu ac addysgu, yn ogystal â gweithgor ehangach, i archwilio fframweithiau dysgu proffesiynol a sefydlu dull cyson a fyddai’n darparu meysydd ffocws unigoledig sy’n cael eu dewis a’u harwain gan yr athro. Mae’r PLDP yn mynnu ymgysylltiad ag ymholi academaidd ac ymchwil weithredol, sy’n cael eu harsylwi, eu gwerthuso a’u rhannu.  

Mae’r broses gytunedig fel a ganlyn: 

  1. Penderfynu beth rydych chi am ei wneud.  
  2.   Cofnodi a chyflwyno eich bwriadau, er enghraifft ‘gwella ymgysylltiad dysgwyr trwy holi’.  
  3. Cwrdd â’ch Pennaeth Is-adran i drafod eich bwriadau.  
  4. Dechrau’r broses ymholi academaidd/ymchwil weithredol.   
  5. Dewis Arsyllydd o’r Rhestr Arsyllwyr Swyddogol. 
  6. Mynychu cyfarfod cyn-arsylwi gyda’r arsyllydd o’ch dewis.  
  7. Cyflwyno sesiwn wedi’i harsylwi.     
  8. Gwerthuso’r broses.  
  9. Cyflwyno eich PLDP terfynol i’ch Pennaeth Is-adran.  
  10. Rhannu eich canfyddiadau yn y fformat cytunedig. 

Mae’r broses yn un ddatblygiadol ac ar wahân i brosesau ansawdd y coleg. Cefnogir y PLDP gan amrywiaeth o fentrau ategol ac ymgysylltu â phartneriaid allanol. Caiff y broses ei hadolygu’n flynyddol i sicrhau ei bod yn berthnasol ac i ymateb i awgrymiadau’r staff am welliannau posibl, yn enwedig i’r ddogfennaeth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a’r deilliannau i ddysgwyr a/neu eu teuluoedd?

Mae effaith y strategaeth ddysgu ac addysgu a’r PLPD yn weladwy a gellir dangos tystiolaeth ohonynt trwy amrywiaeth o ddulliau. Mewn arolwg diweddar o’r staff, mae mwyafrif o’r staff wedi darganfod bod dull y PLDP yn eu grymuso ac yn cefnogi gwelliannau mewn arfer fyfyriol yn effeithiol. Ymatebodd y rhan fwyaf ohonynt fod y drafodaeth gyda’u rheolwr llinell yn ddefnyddiol cyn cwblhau eu PLDP. Mae llawer o staff o’r farn bod y PLDP yn fwy effeithiol wrth gefnogi’u dysgu a’u datblygiad na’r system arsylwi gwersi a oedd yn cael ei graddio yn flaenorol. Mae mwyafrif y staff hefyd o’r farn bod y PLDP wedi gwella ymgysylltiad dysgwyr o gymharu â’r system flaenorol o raddio arsylwadau. Mae mentrau dysgu proffesiynol atodol i ategu’r PLDP wedi cael croeso mawr hefyd, gyda’r rhan fwyaf o athrawon yn dweud bod y rhaglenni’n rhagorol. Mae salwch ymhlith athrawon yn isel ac mae lefelau cadw staff yn uchel.  

Mae’n bosibl bod yr effaith ar ddysgwyr yn fwy arwyddocaol fyth. Mae boddhad dysgwyr wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n 97% ar gyfer y flwyddyn bresennol. Mae dysgwyr sy’n sgorio bod ansawdd dysgu ac addysgu yn dda neu’n rhagorol yn 93% ar gyfer y flwyddyn bresennol. Mae deilliannau cyffredinol wedi gwella ar bob lefel ar draws rhaglenni galwedigaethol, mynediad, medrau a Safon Uwch.  

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda o fewn yr ysgol, y sector neu’r tu hwnt?

Mae athrawon yn rhannu proses a deilliannau eu PLDP yn ffurfiol fel rhan o gynhadledd dysgu ac addysgu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae ychydig o athrawon yn cyflwyno eu canfyddiadau mewn ‘Dysgyrddau’ sy’n cael eu trefnu gan Rwydwaith Dysgu ac Addysgu De-ddwyrain Cymru. Yn 2024-2025, mae grŵp bach o staff wedi gweithio gyda hwylusydd allanol i ddatblygu llyfr cyhoeddedig o strategaethau sy’n canolbwyntio ar weithio gyda dysgwyr ar raglenni lefel is. Ar gyfer 2025-2026, mae rhai athrawon profiadol yn cael eu gwahodd i gyflwyno Cynnig Arloesi yn lle PDLP, lle gall eu syniadau ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac, o bosibl, gael effaith y tu hwnt i’w hunain a’u maes pwnc. 

Mae’r coleg wedi agor ei ddrysau i ymarferwyr ar draws llawer o sectorau addysgu, gan gynnwys ysgolion arbennig, cynradd, uwchradd a chynrychiolwyr o golegau AB eraill i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu proffesiynol ac arsylwi ymarfer mewn ystafelloedd dosbarth, gweithdai a stiwdios. 

Er bod y cyfleoedd ffurfiol hyn i rannu arfer dda ar gael, mae’n bwysig nodi mai’r rhannu arfer lai ffurfiol trwy ddeialog broffesiynol a sgyrsiau yn y coridor sydd efallai’n cael yr effaith fwyaf arwyddocaol. Mae hwn yn ddatblygiad diwylliannol gwreiddiedig sy’n adlewyrchu gwerthoedd a dyheadau Coleg Merthyr Tudful.