Diwygio (ADY) mewn sefydliadau addysg bellach
Cyd-destun
Yn ystod tymor yr hydref 2024 a thymor y gwanwyn 2025, cafodd sefydliadau addysg bellach (SABau) ymweliad gan eu harolygwyr cyswllt Estyn ac arolygydd sydd â phrofiad mewn gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Yn ystod pob ymweliad, cyfarfu arolygwyr â staff allweddol i drafod gweithredu cyfrifoldebau statudol colegau yn barhaus o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio trafodaethau o’r cyfarfodydd hyn ynghyd â thystiolaeth o weithgarwch arolygu i roi diweddariad ar adroddiad mewnwelediadau 2024 Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn Colegau Addysg Bellach.
Canfyddiadau allweddol
Mae gan bron bob coleg strwythurau a phrosesau sefydledig ar waith i ddiwallu anghenion dysgwyr â chynlluniau datblygu unigol (CDUau).
Dywed bron pob un o’r colegau fod yr amser a gymerwyd i gyflawni eu rhwymedigaethau wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau a bod pwysau ar feichiau gwaith yn cael eu cymhlethu gan ddiffyg platfform electronig CDU Cymru gyfan yn barhaus.
Mae cydweithio wedi cynyddu, ac mae’r rhan fwyaf o golegau bellach yn gweithio’n effeithiol gydag ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i gynllunio cyfnodau pontio llwyddiannus i’r coleg ar gyfer dysgwyr ag ADY.
Dywed y rhan fwyaf o golegau fod cynnydd yn nifer y dysgwyr sydd angen cymorth na nodwyd yn ffurfiol bod ganddynt ADY neu sydd wedi dewis peidio â chael CDU.