Effaith tlodi ar addysg - Estyn

Effaith tlodi ar addysg

Podlediadau

Mae pennod ddiweddaraf ein podlediad, Sgwrs, yn trafod sut mae ysgolion yng Nghymru yn gweithio i leihau effaith tlodi ar ddysgwyr a sicrhau bod gan bob disgybl y cyfle i lwyddo. Mae Ceri Jones AEF yn cael cwmni Rhydian Lloyd, Pennaeth Ysgol Gwaun y Nant a Carys Morgan o Ysgol Bro Pedr. Mae’r ddwy ysgol wedi cael eu cydnabod am eu gwaith cryf o gefnogi disgyblion a theuluoedd. Gyda’i gilydd, maent yn trafod dulliau ymarferol y mae ysgolion yn eu defnyddio i chwalu rhwystrau at ddysgu, cryfhau perthnasoedd â theuluoedd a chymunedau, a chreu amgylcheddau cefnogol lle gall pob disgybl ffynnu.