Effaith barnau disgyblion ar gyfeiriad strategol Ysgol David Hughes a’r buddion i’r gymuned ehangach

Quick links:
- Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
Mae Ysgol David Hughes yn ysgol uwchradd ddwyieithog sy’n gwasanaethu De Ynys Môn. Mae 1097 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae 11.0% yn gymwys i brydau ysgol am ddim. Gweledigaeth arweinwyr yr ysgol yw i gynnig yr addysg ddwyieithog orau a mwyaf perthnasol i bob disgybl yn ddiwahân a chreu cymdeithas agored a chynhwysol sy’n parchu safbwyntiau, dyheadau a gobeithion pawb sy’n rhan o gymuned yr ysgol.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Roedd yr ysgol yn awyddus i gryfhau cyfranogiad disgyblion i fod yn fwy ystyrlon a dilys. Yn dilyn ymweliad ag ysgol Gymraeg yn Abertawe, sefydlwyd nifer o bwyllgorau disgyblion gan gynnwys y Pwyllgor UNICEF. Mae arweinwyr yn ceisio sicrhau bod hawliau plant yn dylanwadu ar bob agwedd o fywyd yr ysgol a theimlant ei fod wedi arwain at dwf, nid yn unig mewn hyder disgyblion i leisio barn ond hefyd yn eu hymdeimlad o gyfrifoldeb dros sicrhau hawliau plant ac oedolion. Yn ogystal, roedd arweinwyr yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd ehangach i greu cyd-destunau dilys ar gyfer cyfranogiad ac i hybu cydweithio ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i weithio gyda pharc gwyddoniaeth a chartref henoed lleol ar brosiectau technoleg i gefnogi’r boblogaeth sy’n heneiddio, ynghyd â phrosiect y Cyngor Prydeinig ar gynaliadwyedd gydag ysgolion eraill o Ewrop.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Roedd disgyblion yn teimlo bod angen i gymuned yr ysgol wella’r modd roedd yn amlygu ei hymrwymiad i fod yn ysgol gynhwysol sydd yn dathlu amrywiaeth. Roedd yr ysgol eisoes wedi dechrau ar ei thaith gwrth-hiliaeth ac roedd holl staff yr ysgol wedi derbyn hyfforddiant perthnasol. Daeth y Grŵp UNICEF i’r casgliad bod angen gwella cynrychiolaeth yn y coridorau a’r ystafelloedd dysgu. Gweithiasant ar brosiect creu posteri digidol sydd yn dathlu llwyddiant unigolion amlwg o wahanol gefndiroedd ethnig, crefydd a chyfeiriadedd rhywiol gan gynnwys unigolion fel Betty Campbell, Tayce, a Hanan Issa. Bu ail grŵp yn gweithio gyda’r adran gelf ac artist lleol i baratoi darnau celf sy’n dathlu llwyddiant Cymry amlwg, yn arbennig merched fel Tanni Grey-Thompson a Marina Diamandis. Roedd y Grŵp UNICEF hefyd wedi dylanwadu ar strategaeth gwrth-hiliaeth yr ysgol ac mae aelodau o’r grŵp yn rhan o’r Fforwm Rhieni Gwrth-Hiliaeth yr ysgol. Mae barnau disgyblion a rhieni ar y Fforwm wedi dylanwadu ar agweddau fel y dull mae’r ysgol yn ymateb i sylw hiliol gan ddisgyblion. Bu aelodau o’r grŵp hefyd yn hyfforddi athrawon dan hyfforddiant Prifysgol Bangor er mwyn sicrhau eu bod yn dechrau eu gyrfa yn llwyr ymwybodol o’u rôl hwythau mewn creu ysgol sydd yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant.
Yn ogystal ag ymateb i amryw faterion sydd yn codi yn ystod y flwyddyn, mae’r Cyngor Ysgol bob tro yn canolbwyntio ar un agwedd benodol er mwyn mynd i’r afael â hi, a hyn yn seiliedig ar ddata holiaduron. Roedd adroddiad gan Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) yn awgrymu bod angen i’r ysgol i fynd i’r afael â sut mae disgyblion yn adrodd ar fwlio. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, penderfynodd y Cyngor Ysgol bod angen gwneud hyn yn haws i ddisgyblon. Lluniwyd safle we ‘Llais y Dysgwr’ sydd yn cynnwys dolen lle mae disgyblion yn gallu e-bostio unrhyw bryder sydd ganddynt os nad ydynt yn teimlo’n hyderus i ddechrau sgwrs wyneb yn wyneb amdano. Ceir hefyd codau QR i’r ddolen hon ar hysbysfyrddau ar draws yr ysgol. Mae prif hysbysfwrdd yr ysgol hefyd yn cynnwys posteri gwrth-fwlio yn y deunaw o ieithoedd a siaredir gan ddysgwyr yr ysgol.
Mae’r Grŵp Cymreictod yn gweithio’n rheolaidd gyda rhieni ac aelodau o’r gymuned leol er mwyn hyrwyddo’r iaith. Mae hyn yn cynnwys trefnu cystadleuaeth addurno ffenestri busnesau’r stryd fawr ar gyfer Gorymdaith Gŵyl Ddewi ac hefyd annog busnesau i arddangos posteri Rydym Ni’n Siarad Cymraeg / Rydym Ni’n Dysgu Cymraeg yn eu siopau. Yn ogystal, mae busnesau lleol yn cefnogi digwyddiadau hyrwyddo’r Gymraeg a diwrnodau a dathliadau yn yr ysgol, er enghraifft Diwrnod Shwmae/Sumae, Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd trwy gynnig gwobrau ar gyfer cystadlaethau amrywiol. Yn ystod nosweithiau rhieni, mae’r grŵp Cymreictod yn cynnal stondin er mwyn rhannu taflenni gwybodaeth â rieni er mwyn eu cynorthwyo i gael mynediad i apiau a gwefannau defnyddiol i helpu nhw i ddysgu Cymraeg. Mae’r Grŵp Cymreictod yn gweithio’n annibynnol a nhw sydd yn llwyr gyfrifol am drefnu’r digwyddiadau hyn. Maent hefyd wedi cysylltu gyda chwmni teledu er mwyn ffilmio eitem ar waith y grŵp ar gyfer rhaglen deledu.
Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau allanol, yn arbennig yn y byd digidol a thechnolegol. Mae disgyblion yn cydweithio gyda pharc gwyddoniaeth lleol ar brosiect realiti rhithwir (VR) i gefnogi’r boblogaeth sydd yn heneiddio ar Ynys Môn. Mae disgyblion yn rhoi cyfle i drigolion cartref henoed lleol i ddefnyddio’r VR i ddychmygu eu bod yn beicio ar hyd lonydd eu mebyd neu fynd am dro ar draeth lleol gan glywed sŵn y môr a’r adar.
Yn dilyn ymweliad criw o ddisgyblion â Siapan yn sgil derbyn grant Taith Llywodraeth Cymru, bu grŵp o ugain o ddisgyblion Blwyddyn 12 yn cydweithio ag unigolion o’r parc gwyddoniaeth er mwyn datblygu gêm gyfrifiadurol yn seiliedig ar gymeriadau chwedlau Cymru a Siapan. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ddisgyblion datblygu medrau newydd wrth weithio gydag arbenigwyr yn y maes hwn, ond maent hefyd wedi deall bod modd gweithio yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol tra’n aros ar Ynys Môn. Er mwyn ehangu ar hyn a sicrhau bod grŵp ehangach o ddisgyblion yn elwa o’r daith i Siapan, mae’r disgyblion a fu’n ymweld â Gardd Goffa Heddwch Hiroshima wedi rhannu eu profiadau ac mae’r Grŵp ECO yn cydweithio â chymdeithas gerddi Siapaneaidd er mwyn cynllunio a chreu gardd heddwch.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
Mae’r cyfle i gydweithio gyda’r parc gwyddoniaeth wedi arwain at nifer o ddeilliannau arwyddocaol i ddisgyblion yr ysgol. Yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu medrau cyfrifiadurol mwy arbenigol a dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni anghyfarwydd, mae’r disgyblion hefyd wedi meithrin ymdeimlad o falchder yn niwylliant Cymru ac wedi deall bod cyfleoedd i weithio yn y byd technolegol ar brosiectau byd-eang a bod yn gyflogedig ar Ynys Môn. Mae rhai o’r disgyblion wedi creu cysylltiadau gyda chwmnïau gemau cyfrifiadurol lleol/rhyngwladol gan sicrhau cyfleoedd am brofiad gwaith.
Mae’r ysgol wedi manteisio ar y cyfle i feithrin ymwybyddiaeth y disgyblion a’u teuluoedd o bwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau 2015 a chodi ymwybyddiaeth o’r boblogaeth sydd yn heneiddio – yn arbennig ar Ynys Môn fel yn Ōsakikamijima yn nhalaith Hiroshima. Mae’r prosiectau beic a gogls realiti rhithiol wedi esgor ar gyfleoedd pellach, er enghraifft mae disgyblion Blwyddyn 7 yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu robotiaid a fyddai’n cynorthwyo’r henoed gyda thasgau beunyddiol yn eu cartrefi. Mae’r gwaith o bontio’r cenedlaethau a chreu gofod i’r hen a’r ifanc i gymdeithasu a dysgu oddi wrth ei gilydd wedi cynnig cyfleoedd ehangach i greu cyd-destunau dilys ar gyfer cyfranogiad ac i hybu cydweithio.
Mae’r Grŵp Fforwm Gwrth-Hiliaeth Rhieni wedi grymuso rhieni a theuluoedd i ddylanwadu ar bolisiau a gweithdrefnau’r ysgol. Mae gwaith y Grŵp UNICEF a’r Cyngor Ysgol wedi atgyfnerthu cyfranogiad y disgyblion a’u cynorthwyo i arwain ac ysgogi gweithredu mewn ymateb i flaenoriaeth ysgol-gyfan.
Mae’r Grŵp Cymreictod wedi llwyddo i gynyddu’r nifer o gyfleoedd amrywiol y gall disgyblion gyfranogi mewn digwyddiadau cymdeithasol yn y Gymraeg, boed yn gig, cystadleuaeth bobi neu wrth ddathlu Wythnos Miwsig Cymru. Maent hefyd wedi hyrwyddo’r Gymraeg yn nhref Porthaethwy ac wedi ysgogi diddordeb a brwdfrydedd dros ddathlu’r iaith drwy gydol y flwyddyn. Mae rhieni a theuluoedd yr ysgol wedi manteisio ar yr arweiniad ar sut y gallent ddatblygu eu gallu yn y Gymraeg.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
- Mae Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu y dylai pob un o’r ysgolion uwchradd weithio ar brosiect tebyg i’r un realiti rhithwir yn dilyn ein llwyddiant
- Mae aelodau o Gynghorau Ysgol ysgolion uwchradd Ynys Môn wedi cyfarfod i rannu syniadau.
- Rhannwyd gwaith gwrth-hiliaeth y Grŵp UNICEF mewn seremoni gan Ysgolion Heddwch yng Nghymru yn Eisteddfod Llangollen.