Effaith arweinyddiaeth i gynnwys ymarferwyr ymroddgar, rhieni cefnogol a chymuned agos ym mhrofiadau dysgu’r plant.
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Cae’r Ffair yn Feithrinfa Ddydd sydd wedi’i leoli ym mhentref Gorslas, Sir Gaerfyrddin. Mae’n feithrinfa cyfrwng Cymraeg sy’n darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel i blant ers 22 mlynedd. Mae’r lleoliad yn cynnig amgylchedd cynnes ac ystyriol lle caiff plant eu cefnogi i ddatblygu’n emosiynol, yn gymdeithasol ac yn wybyddol trwy brofiadau chwarae o safon uchel. Mae’r arferion yn seiliedig ar arweinyddiaeth arloesol, perthnasoedd cryf a gwaith tîm effeithiol. Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal partneriaeth agos â theuluoedd a pherthynas ystyrlon gyda’r gymuned ehangach. Mae’r tîm yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel, ac yn annog plant i archwilio, darganfod a thyfu.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
O dan arweinyddiaeth flaengar a ragweithiol, mae’r lleoliad wedi mabwysiadu dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn. Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ymarfer adlewyrchol a meithrin perthnasoedd cryf a hyderus ar draws y tîm. Mae’r diwylliant hwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn teimlo’n hyderus ac yn cael eu galluogi i ddefnyddio eu barn proffesiynol, gan arbrofi â dulliau ac arferion newydd sy’n seiliedig ar anghenion a diddordebau’r plant.
Mae’r nod cyfunol yn sicrhau profiadau o ansawdd cyson uchel sy’n meithrin datblygiad y plant. Mae cydweithrediad agos â rhieni a’r gymuned leol yn cryfhau’r dull hwn, gan greu ymdeimlad clir o bwrpas a pherthyn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae hyn yn cynnwys cyflwyno dulliau newydd o edrych ar ddatblygiad plant a dysgu drwy chwarae, yn ogystal â chryfhau cysondeb ar draws unedau’r feithrinfa trwy arferion, gwerthoedd a chynllunio cydweithredol a rennir. Mae arweinwyr hefyd yn darparu datblygiad proffesiynol wedi’i dargedu i gryfhau hyder, gwybodaeth a medrau ymarferwyr, tra’n meithrin amgylchedd cynhwysol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn annog eu lles a’u datblygiad. Mae ymarferwyr yn ganolog i’r weledigaeth hon, gan ddefnyddio perthnasoedd cryf â’r person allweddol a gweithgarwch adlewyrchol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ystyrlon ac yn ymatebol. Maent yn cydweithio ar draws unedau i gynnal safonau uchel, addasu’r amgylchedd dysgu a rhannu syniadau effeithiol.
Mae’r lleoliad yn cynnal cysylltiadau cryf ac ystyrlon gyda’r gymuned leol, gan gynnwys partneriaethau ac ysgolion lleol, Gorslas Welfare, elusennau, gwasanaethau brys, cartrefi gofal a grwpiau cymunedol. Trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd ar y cyd, nid yn unig y mae plant yn archwilio amgylcheddau go iawn, ond maent hefyd yn datblygu medrau ymarferol, hyder cymdeithasol ac ymdeimlad cryf o berthyn, gan gryfhau eu dealltwriaeth o’r byd ac yn cyfoethogi eu profiadau dysgu.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r dull cyfunnol o arweinyddiaeth arloesol, ymarferwyr medrus, cymorth gan deuluoedd a chysylltiadau cryf â’r gymuned wedi gwella ansawdd y ddarpariaeth yn sylweddol ar draws y lleoliad. O ganlyniad, mae’r plant yn elwa o amgylchedd emosiynol gadarn ac ysgogol, lle caiff eu chwilfrydedd a’u hymrwymiad eu meithrin. Mae’r ymarferwyr yn teimlo’n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ysbrydoli, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn rhyngweithiadau o ansawdd uchel a gweithgarwch ystyriol ac ymatebol.
Mae plant yn datblygu hyder, gwytnwch, chwilfrydedd ac annibyniaeth trwy brofiadau deniadol a gynllunnir yn effeithiol. Mae teuluoedd yn adrodd eu bod yn teimlo’n rhan o’r lleoliad ac yn cael eu parchu, gan sicrhau cymorth cyson rhwng y cartref a’r lleoliad. Mae cyfranogiad y gymuned yn cyfoethogi dysgu’r plant ymhellach, gan Feithrin empathi, ymwybyddiaeth a synnwyr o gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae bron pob plentyn yn dangos ymdeimlad cryf o les ac maent yn awyddus i archwilio, ymgysylltu ac i ddysgu.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad yn rhannu ei arfer effeithiol yn rheolaidd â rhieni, partneriaid cymunedol a sefydliadau lleol. Trwy gyfathrebu parhaus, digwyddiadau a chyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol, mae’r ymarferwyr yn tynnu sylw at fanteision eu dull cydweithredol a chanolbwyntio ar y plentyn. Mae’r lleoliad hefyd wedi rhannu ei arfer rhagorol mewn digwyddiad a drefnwyd gan yr Awdurdod Lleol, oedd yn canolbwyntio ar arfer effeithiol ar draws y sector Blynyddoedd Cynnar mewn lleoliadau ac ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd hyn yn darparu cyfle i ddangos effaith gadarnhaol ei dulliau i gynulleidfa broffesiynol ehangach. Mae partneriaethau a gwasanaethau lleol ac ysgolion yn cefnogi’r broses o rannu arfer da ymhellach ac yn helpu cryfhau cydweithio a pharhad i blant wrth iddynt symud ymlaen i’r cam nesaf o’u haddysg.