Effaith arweinyddiaeth ar ddarpariaeth i blant - Estyn

Effaith arweinyddiaeth ar ddarpariaeth i blant

Arfer effeithiol

Cylch Meithrin Llanrhaeadr Ym Mochnant

Mae tri gweithiwr gofal plant yn gwisgo crysau glas yn rhyngweithio â phlant ifanc mewn ystafell ddosbarth llachar wedi'i haddurno â chelf plant.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae Cylch Meithrin Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn lleoliad cyfrwng Cymraeg sy’n darparu addysg y blynyddoedd cynnar ac oriau gofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed. Mae wedi’i leoli ym mhentref bach Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae’r lleoliad yn elusen gofrestredig ac yn cael ei reoli gan bwyllgor rheoli gwirfoddol. Mae ganddo ddau ymarferwr. Mae’r lleoliad yn croesawu plant o bob cefndir, ac mae mwyafrif y plant yn dod o gartrefi Saesneg eu hiaith, felly mae hyrwyddo’r Gymraeg yn bwysig iawn i’r lleoliad. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Gweledigaeth y lleoliad yw: ‘Cylch diogel a hapus, lle gall plant ddatblygu eu hannibyniaeth, eu hyder a’u perthnasoedd trwy brofiadau hwyliog a chadarnhaol’. 

Mae’r lleoliad yn deall pwysigrwydd cael tîm Arweinyddiaeth a Rheolaeth cryf, sy’n gweithio’n agos gyda Mudiad Meithrin, tîm Blynyddoedd Cynnar Powys, yr ysgol a’r gymuned leol.

Mae’r pwyllgor presennol wedi bod yn eu rolau ers 2 flynedd, maent i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ac yn rhannu gweledigaeth glir â’r staff ar gyfer cynnal darpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer y plant. Mae pob aelod yn deall ei rôl o fewn y pwyllgor, ac mae gan bob un ohonynt faes cyfrifoldeb penodol.  

Disgrifiad o’r strategaeth neu’r gweithgarwch 

Mae’r pwyllgor rheoli a’r staff yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd. Mae’r rhain yn cynnwys agenda benodol sydd bob amser yn cynnwys adroddiad yr arweinydd, adroddiad y trysorydd a thrafodaeth am faterion diogelu ac iechyd a diogelwch. Caiff cofnodion eu cofnodi, ac fe gaiff camau gweithredu eu cytuno a’u rhannu â holl aelodau’r pwyllgor a’r staff. 

Caiff arfarniadau staff eu cwblhau bob blwyddyn, a goruchwyliadau bob tymor, i sicrhau bod y staff yn cael eu cefnogi’n dda yn eu rôl ac yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Caiff yr holl hyfforddiant a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol eu trafod a’u cytuno ar sail yr effaith bosibl ar staff a phlant. Wedyn, gosodir targedau cyflawnadwy o fewn llinell amser amserlenedig, ac fe gaiff cynnydd ei fonitro’n rheolaidd.  

Mae’r lleoliad yn deall pwysigrwydd cynlluniau hunanwerthuso a datblygu parhaus, sy’n ystyried barn rheini, plant a staff. Mae arweinwyr yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’r lleoliad yn ei wneud yn dda, cyn nodi meysydd i’w datblygu, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r lleoliad ar hyn o bryd. Mae’r cynllun datblygu yn amlygu camau gweithredu yn gysylltiedig â meysydd blaenoriaeth ac fe gaiff yr holl dargedau eu monitro gan y pwyllgor rheoli a’u trafod yn rheolaidd mewn cyfarfodydd. 

Mae aelodau o’r pwyllgor rheoli yn ymweld â’r lleoliad yn rheolaidd i wirio bod y staff yn iawn, dathlu’r hyn sy’n gweithio’n dda a thrafod pa feysydd sydd angen eu gwella. Er enghraifft, nododd y Cadeirydd a’r staff fod angen gwneud gwelliannau i ardal awyr agored y lleoliad. Arweiniodd hyn at gyfleoedd i holl aelodau’r pwyllgor drafod syniadau, cyllideb a chyfnod amser i greu amgylchedd croesawgar sy’n darparu profiadau cadarnhaol ar gyfer plant.  

Mae’r staff yn cyfathrebu’n rheolaidd â’r ysgol i sicrhau bod mesurau ar waith i sicrhau cyfnod pontio di-dor ar gyfer pob un o’r plant. Er enghraifft, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda staff yr ysgol, sy’n ymweld â’r ysgol yn aml, ac mae plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ochr yn ochr â’r ysgol. O ganlyniad, mae plant yn mynd i mewn i’r ysgol yn hapus, ac maent yn gyfarwydd â lleoliad a staff yr ysgol. 

Mae’r pwyllgor rheoli a’r ymarferwyr yn angerddol am eu rolau, ac mae lles y plant yn bwysig iddynt. Mae bod yn rhan o’r gymuned leol yn ganolog i’r lleoliad ac mae’r staff yn sicrhau bod gan y plant ymdeimlad cryf o berthyn i’w cymuned Gymraeg leol. Er enghraifft, cynhaliodd y lleoliad a’r pwyllgor rheoli ddigwyddiad ‘Rhywbeth Neis Neis i de’ yn gwerthu cacennau, te a choffi, gan wahodd pob aelod o’r gymuned i ymuno. Mae staff hefyd yn trefnu ymweliadau rheolaidd â’r siopau, yr eglwys a’r caffi lleol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’r lleoliad yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer plant o bob cefndir, gan ddarparu gwasanaeth lle mae plant yn teimlo’u bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi, yn hapus ac yn datblygu eu medrau’n llwyddiannus.

Mae staff yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi’n dda ac yn gweithio’n effeithiol fel tîm ochr yn ochr â’r pwyllgor rheoli.

Mae gan y plant ymdeimlad cryf o berthyn ac mae eu hymwybyddiaeth o’r gymuned leol yn dda iawn. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae arfer dda wedi cael ei rhannu yng nghyfarfodydd sirol Mudiad Meithrin. 

Mae’r awdurdod lleol yn aml yn rhannu arfer dda’r lleoliad ar ei dudalen ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â rhannu defnydd effeithiol o Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar ar ei becynnau arweiniad a gwybodaeth. 

Rhennir arfer dda gyda rhieni ac aelodau o’r gymuned trwy gyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a boreau agored.