Dull ysgol gyfan i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun ym mis Medi 1995. Mae’n gwasanaethu plant a phobl ifanc Cwm Cynon a Merthyr Tudful. Mae 1026 o ddisgyblion yn yr ysgol, ynghyd â 118 yn y Chweched Dosbarth. Mae 12.1% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r adran ADY, Yr Hafan, yn gweithio i sicrhau bod disgyblion sydd ag ADY yn dangos y cynnydd disgwyliedig. Mae staff yr adran yn darparu ymyraethau penodol dros amrywiaeth o feysydd. Mae hyn yn cynnwys ymyraethau rhifedd, llythrennedd, lles ac anghenion corfforol. Mae ethos gofalgar yr ysgol a’r ymrwymiad i hyfforddiant ADY yn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd gan bob aelod o staff i adnabod y disgyblion a’u hanghenion unigol. Mae hyn yn strategaeth ysgol gyfan sy’n cryfhau’r ddarpariaeth i gefnogi pob disgybl, yn enwedig disgyblion ag ADY, i lwyddo ar eu taith addysgiadol.
Disgrifiad o natur y strategaethau
Mae’r ysgol yn hyrwyddo’r egwyddor a diwylliant o ‘pawb yn athro ADY’. Mae gan staff ystod o wybodaeth er mwyn gallu cynllunio’n bwrpasol ar gyfer disgyblion ag ADY a disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.
Mae’r ysgol wedi datblygu ffynhonnell ganolig a hygyrch o wybodaeth glir a pherthnasol ynghylch disgyblion ag ADY. Mae hyn yn caniatáu i staff gaffael gwybodaeth am ddisgyblion unigol, sy’n cryfhau cynllunio ac addysgeg ar lawr yr ystafell ddosbarth. Er enghraifft, mae’n cynnwys Proffiliau Un Tudalen sydd yn cynnig llais i’r disgyblion, sy’n arfogi staff i gynllunio’n benodol ar eu cyfer.
Mae’r ysgol wedi buddsoddi’n strategol er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth ADY. Mae adnoddau a staff arbenigol, megis athrawes dyslecsia ac ystafelloedd lles a synhwyraidd. Darperir adnoddau cefnogol gwerthfawr i staff, er enghraifft fideo ‘Diwrnod ym Mywyd Disgybl ASD.’ Mae’r adnoddau yn rhoi mewnwelediad i staff er mwyn codi eu hymwybyddiaeth a’u hyder wrth addysgu disgyblion ag ADY. Mae cryfhau rolau athrawon yn y ddarpariaeth wedi caniatáu i staff yr Hafan ganolbwyntio ar ymyraethau ychwanegol pwrpasol ac atgyfeiriadau strategol i asiantaethau allanol. Yn ogystal, mae gan bob adran aelod o staff cyswllt i’r CADY ac mae cyfarfodydd pwrpasol i drafod a gwerthuso’r ddarpariaeth.
Mae strategaethau dysgu ac addysgu ysgol gyfan megis ‘Dysgu i’r Brig’ ac ‘Adalw Gwybodaeth’ yn cefnogi pob disgybl. Mae ‘Dysgu i’r Brig’ yn strategaeth lle mae athrawon yn cynllunio gwersi gyda’r lefel uchaf o her mewn golwg, gan sicrhau bod pob disgybl — gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) — yn cael mynediad at ddysgu uchelgeisiol. Trwy ddarparu sgaffaldiau fel modelu a chymorth gweledol, mae disgyblion ag ADY yn cymryd rhan mewn tasgau cymhleth heb eu llethu. Mae’r dull hwn yn osgoi cyfyngu ar eu potensial ac yn eu hannog i ymestyn eu meddwl ochr yn ochr â’u cyfoedion. Yn hytrach na chreu tasgau symlach, mae’r ffocws ar greu llwybrau hygyrch i gynnwys mwy heriol, gan feithrin hyder, ymdeimlad o lwyddiant ac uchelgais academaidd.
Mae ‘Adalw Gwybodaeth’ yn strategaeth sy’n cynnwys gofyn i ddisgyblion adfer gwybodaeth o’u cof yn rheolaidd, gan gryfhau’r cof tymor hir a meithrin dealltwriaeth ddofn. I ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae’r dull hwn yn arbennig o werthfawr gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt ymarfer ac atgyfnerthu dysgu mewn ffordd strwythuredig a chyson. Trwy ddefnyddio gweithgareddau fel cwisiau byr, cardiau fflach neu dasgau cof ar ddechrau gwersi, mae disgyblion ag ADY yn datblygu eu hyder, gwella eu gallu i gadw gwybodaeth, a chael ymdeimlad cliriach o gynnydd. Mae’r strategaeth hefyd yn lleihau gorbryder drwy greu trefn ddisgwyliedig, gan gefnogi dysgwyr i ddod yn fwy annibynnol yn eu dysgu.
Mae system gyfeirio ADY hygyrch sy’n cynnwys camau gweithredu pwrpasol i staff ac arweinwyr o fewn cadwyn ymateb graddedig. Gall y camau gynnwys staff yn treialu strategaethau gan y CADY am gyfnod penodol a phroses fonitro effeithiol. Mae system ganolog effeithiol i adnabod anghenion yn fanwl ac yn gynnar yn caniatáu i’r tîm graffu ar dystiolaeth a gwneud penderfynu ar gamau gweithredu ac ymyraethau pellach. Mae tracio a monitro tynn a rheolaidd o gynnydd ac agweddau at ddysgu disgyblion, gan gynnwys disgyblion ag ADY.
Mae’r ysgol wedi sefydlu partneriaethau cynradd llwyddiannus i sicrhau adnabyddiaeth gref o’r disgyblion fel rhan o’r broses drosglwyddo. Yn ogystal mae’r ysgol wedi darparu hyfforddiant dyslecsia, ACEs a dyscalcwlia i’r ysgolion partner cynradd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi ei gael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Drwy weithredu strategaethau addysgu fel ‘dysgu i’r brig’ ac ‘adalw gwybodaeth’ ochr yn ochr â chefnogaeth bwrpasol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae’r ysgol yn llwyddo i greu amgylchedd dysgu lle mae disgwyliadau uchel yn cyd-fynd â mynediad hygyrch. Mae hyn yn galluogi disgyblion ag ADY i ymgysylltu â her academaidd, datblygu eu cof a’u dealltwriaeth dros amser, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion sydd ag ADY yn gwneud cynnydd sydd o leiaf yn addas o gymharu a’u mannau cychwyn. Wrth iddynt dderbyn cymorth strwythuredig i gyrraedd y lefelau uchaf, ac ymarfer adalw gwybodaeth yn rheolaidd, mae’r disgyblion hyn yn meithrin hyder, ymreolaeth a gallu cynyddol i gymryd rhan weithredol yn eu dysgu, gan osod sylfeini cryf ar gyfer llwyddiant tymor hir.
Cryfder nodedig arall y strategaethau yw’r ffordd mae’r holl staff yn perchnogi’r gwaith er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol i bob disgybl wneud cynnydd dros amser. Mae safonau cyrhaeddiad y disgyblion wedi gwella yn sgil y strategaethau dysgu ac addysgu ysgol gyfan.