Defnydd effeithiol yr ymarferwyr o iaith arwyddo er mwyn annog medrau cyfathrebu’r plant. - Estyn

Defnydd effeithiol yr ymarferwyr o iaith arwyddo er mwyn annog medrau cyfathrebu’r plant.

Arfer effeithiol

Ysgol Feithrin y Trallwng Ltd

Mae dau berson, un oedolyn ac un plentyn, yn eistedd wrth fwrdd yn chwarae gyda blociau adeiladu lliwgar. Maent yn ymddangos yn brysur ac yn hapus wrth iddynt ryngweithio â'i gilydd. Mae'r cefndir yn cynnwys ystafell daclus gyda silff bren.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Mae Ysgol Feithrin y Trallwng yn lleoliad blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i gydleoli ag Ysgol Gymraeg y Trallwng. Yr ystod oedran yw 2 i 4 oed. Mae’n cynnig lleoedd i Dechrau’n Deg, y Cynnig Addysgol ar gyfer Plant 3 oed ac yn hŷn, a’r Cynnig Gofal Plant. 

Mae Makaton yn rhaglen iaith sy’n defnyddio arwyddion, symbolau a lleferydd i helpu pobl i gyfathrebu, yn enwedig y rhai ag anawsterau cyfathrebu a dysgu, gan gynnig cymorth gweledol a chlywedol ar gyfer datblygiad iaith.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cyflwynwyd Makaton ar ôl i arweinwyr o’r lleoliad fynychu hyfforddiant Makaton penodol i lefel 2. Mae wedi’i gynllunio i gynorthwyo unigolion sy’n cael anhawster yn deall neu’n mynegi eu hunain ar lafar, gan eu helpu i gynyddu geirfa, gwella amgyffrediad, ac ymestyn eu medrau cyfathrebu cyffredinol. Gwelodd staff fod yr iaith yn hawdd i’w defnyddio ac maent wedi ymestyn eu gwybodaeth trwy DPP ac adnoddau dysgu ychwanegol. Mae staff yn hyderus o ran defnyddio Makaton, ac fe gaiff ei ymgorffori yn y drefn ddyddiol. Caiff ei ddefnyddio’n gyson ar draws pob ardal o’r lleoliad. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae carfan y plant yn dod o gefndir Saesneg yn bennaf, ac mae defnyddio Makaton yn galluogi plant sy’n dechrau yn y lleoliad ac nad ydynt wedi cael eu cyflwyno i’r Gymraeg o gwbl i gyfleu eu hanghenion trwy Makaton. Mae plant o amrywiaeth o ieithoedd cefndir cartref yn dechrau ar yr un lefel ieithyddol gyda Makaton ac mae hyn yn helpu datblygu amgylchedd cynhwysol – nid oes unrhyw blentyn dan anfantais oherwydd anallu i gyfathrebu’n yn Gymraeg gan fod Makaton yn pontio’r bylchau cyfathrebu. 

Caiff adnoddau gweledol Makaton eu harddangos ar draws y lleoliad, ac arddangosir cyfeiriadau hanfodol Makaton ym mhob ardal gweithgaredd. Pan fydd ardaloedd yn cael eu newid neu feysydd testun newydd yn cael eu cyflwyno, mae cynhyrchu adnodd Makaton yn rhan annatod o’r broses.  

Caiff Makaton ei integreiddio ym mhob gweithgaredd, amseroedd prydau bwyd, amser cylch, adrodd storïau, canu a chwarae yn yr awyr agored. Mae defnyddio Makaton yn helpu plant i gysylltu’r gair llafar gyda’r arwydd cysylltiedig, ac yn hynod ddefnyddiol ar yr adegau prin lle mae plentyn sy’n “ddieiriau” yn dechrau yn y lleoliad. Wedyn, mae Makaton yn galluogi cyfathrebu dwy ffordd rhwng staff a’r plentyn, a rhwng y plant. Felly, roedd yn lleihau’r rhwystredigaeth a’r teimlad o eithrio y mae plant dieiriau’n ei brofi. 

Wrth asesu cynnydd plant, mae eu hyder yn defnyddio arwyddion yn arwydd arall wrth i arweinwyr ystyried a oes angen asesiad llawn. Gall hefyd fod yn arwydd o oedi datblygiadol. 

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae’r awdurdod lleol wedi rhannu elfennau o waith y lleoliad ar gyfryngau cymdeithasol, gan helpu amlygu gwerth y gwaith. 

Mae’r lleoliad wedi cynnal cyfarfodydd ‘Rhwydwaith a Sgwrsio’ (‘Network & Natter’) yr awdurdod lleol. O ganlyniad, mae ymarferwyr wedi gallu arsylwi’r amgylchedd dysgu i hyrwyddo Makaton a’i effaith ar gyfathrebu plant.   

Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal ac yn mynychu cyfarfodydd Mudiad Meithrin yn rheolaidd lle maent yn trafod ac yn rhannu arfer effeithiol gyda lleoliadau eraill.