Datblygu technegau holi effeithiol - Estyn

Datblygu technegau holi effeithiol

Arfer effeithiol

Associated Community Training (ACT) Ltd

Mynychwyr yn eistedd wrth fwrdd, yn gwenu ac yn cymryd rhan mewn cyflwyniad. Maent mewn lleoliad modern gydag awyrgylch llachar ac awyrog.

Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr   

Mae Associated Community Training (ACT) yn ddarparwr hyfforddiant annibynnol, sy’n cyflwyno prentisiaethau, rhaglenni cyflogadwyedd a hyfforddiant datblygu medrau ar draws ystod eang o sectorau yng Nghymru.  

Mae ACT yn gweithio’n agos gyda 12 darparwr partner trwy rwydwaith ACT i gynorthwyo dysgwyr i ennill cymwysterau a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Cydnabu’r darparwr fod holi effeithiol yn hanfodol wrth sicrhau addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel. Amlygodd dadansoddiad o drafodaethau grŵp sector, canfyddiadau sicrhau ansawdd, ac adborth gan ddysgwyr fod angen: 

  • defnydd mwy cyson o dechnegau holi i ddatblygu medrau meddwl beirniadol a datrys problemau dysgwyr 
  • ymagwedd strwythuredig at ddefnyddio holi mewn asesiadau i gefnogi dysgu dyfnach a gwerthuso cymhwysedd yn gywir 
  • dysgu proffesiynol estynedig ar gyfer staff a darparwyr partner i fireinio’u dulliau holi mewn lleoliadau ystafell ddosbarth, ar-lein a gweithle 

Disgrifiad o’r strategaeth neu’r gweithgarwch  

  • Grwpiau Sector: Hwylusodd y darparwr gyfres o gyfarfodydd rheolaidd yn canolbwyntio ar rannu arferion gorau mewn technegau holi, gan gynnwys defnyddio cwestiynau penagored, holi Socratig, a holi yn seiliedig ar gymhwysedd i asesu medrau diwydiant. 
  • Prosesau Sicrhau Ansawdd: Mae’r prosesau ar gyfer arsylwi sesiynau a mecanweithiau ar gyfer cynnig adborth wedi cael eu mireinio i werthuso’n fwy effeithiol sut mae ymarferwyr yn defnyddio holi i ymgysylltu â dysgwyr, gwirio dealltwriaeth, a hyrwyddo dysgu dyfnach. 
  • Trefniadau partner: Mae’r darparwr yn hwyluso cydweithio effeithiol rhwng ei rwydwaith o ddarparwyr partner – ac yn sicrhau bod sicrhau ansawdd partneriaid yn effeithiol yn cefnogi safoni technegau holi effeithiol mewn addysgu, asesiadau, a thrafodaethau proffesiynol. 
  • Hyfforddiant a DPP Targedig: Mae’r darparwr wedi sicrhau bod ymarferwyr ar draws rhwydwaith ACT yn cael hyfforddiant arbenigol ar strategaethau holi, gan sicrhau eu bod yn gallu: 
  1. Addasu holi i weddu i wahanol anghenion a lefelau dysgwyr. 
  2. Defnyddio cwestiynau lefel uwch i annog dadansoddi a gwerthuso. 
  3. Gweithredu holi myfyriol i ddatblygu medrau metawybyddiaeth a hunanasesu dysgwyr. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae’r ffocws clir ar wella technegau holi wedi arwain at welliannau mesuradwy yn neilliannau dysgwyr, boddhad dysgwyr ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws rhwydwaith ACT. 

Mae dysgwyr yn dweud bod lefelau uwch o ymgysylltu a her, a’r rhan fwyaf ohonynt yn teimlo’u bod yn gwneud cynnydd da, ac yn datgan bod eu rhaglen yn bodloni’r disgwyliadau, neu’n rhagori arnynt. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn teimlo’u bod yn cael eu hymestyn a’u herio, a bod defnyddio strategaethau holi lefel uwch a strwythuredig sy’n hyrwyddo meddwl beirniadol, yn cyfrannu at hyn. 

Mae ymarferwyr yn fwy hyderus o ran defnyddio holi gwahaniaethol i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol erbyn hyn, gan arwain at gyflwyno mwy cynhwysol ac ymatebol. Mae’r dull teilwredig hwn yn sicrhau bod dysgwyr ar draws y rhwydwaith yn cael eu cefnogi a’u hymestyn yn briodol, gan gyfrannu at fwy o hyder, annibyniaeth, a dealltwriaeth fanwl ymhlith dysgwyr. 

Mae arferion asesu wedi dod yn fwy cadarn, gyda symud i ffwrdd o alw gwybodaeth i gof ar lefel arwynebol tuag at ddysgwyr yn dangos eu bod yn cymhwyso, yn rhesymu, a bod ganddynt ddealltwriaeth gysyniadol ddyfnach. Mae hyn wedi gwella cywirdeb yr asesu ac yn sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn cael ei gofnodi’n fwy ystyrlon. 

Mae’r fenter wedi meithrin diwylliant cryfach o gydweithio proffesiynol, gyda thiwtoriaid, aseswyr, a grwpiau sector yn gweithio’n agosach i rannu ac ymgorffori arfer effeithiol. Mae’r ffocws cyfunol hwn ar holi o ansawdd uchel yn cyfrannu at iaith addysgu a dysgu ar y cyd ar draws y rhwydwaith. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

  • Ymgorffori technegau holi mewn gweithdai dysgu proffesiynol a sesiynau hyfforddi ar gyfer ACT a staff partner 
  • Datblygu pecynnau cymorth adnoddau gyda fframweithiau holi, enghreifftiau, ac astudiaethau achos effeithiol 
  • Defnyddio arsylwi cymheiriaid a dolenni adborth i fireinio strategaethau holi 
  • Lledaenu arferion gorau trwy grwpiau sector a sesiynau hyfforddi