Datblygu medrau Cymraeg athrawon dan hyfforddiant
Quick links:
Gwybodaeth am y bartneriaeth
Mae Partneriaeth Caerdydd yn darparu tair rhaglen AGA, sef:
- TAR Uwchradd (11-18), gyda llwybrau mewn cerddoriaeth, drama, celf a dylunio, addysg gorfforol, hanes, addysg grefyddol, daearyddiaeth, Cymraeg, Saesneg, ieithoedd tramor modern, mathemateg, bioleg gyda gwyddoniaeth, cemeg gyda gwyddoniaeth, ffiseg gyda gwyddoniaeth, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chyfrifiadura, a dylunio a thechnoleg)
- TAR Cynradd (3-11)
- BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11)
Mae pob un o’r rhaglenni yn rhai amser llawn, a phob un ohonynt yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Mae’r rhaglen addysg gynradd BA (Anrhydedd) yn gwrs tair blynedd, mae’r rhaglenni TAR cynradd ac uwchradd yn gyrsiau blwyddyn.
Yn 2021-2022, roedd 315 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen BA Cynradd, a dilynodd 47 ohonynt y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 190 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen TAR Cynradd, gyda 43 ohonynt yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 260 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen TAR Uwchradd, gyda 45 ohonynt yn dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae darpariaeth Pontio yn cynnwys dau grŵp pwrpasol o athrawon dan hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg sy’n dewis peidio â hyfforddi yn y sector cyfrwng Cymraeg. Cynigir rhaglen Gymraeg deilwredig i’r myfyrwyr hyn, sy’n eu galluogi i ddatblygu eu medrau Cymraeg ar eu cyflymdra eu hunain, gan fagu cymhwysedd a hyder yn eu taith yn y Gymraeg tuag at ruglder gwell. ‘Grwpiau pontio’ yw’r grwpiau hyn, sy’n targedu siaradwyr Cymraeg sydd angen mwy o gymorth yn eu medrau iaith proffesiynol a phersonol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Datblygu’r Gymraeg yn nodwedd allweddol o’r holl raglenni AGA TAR a BA ym Mhartneriaeth Caerdydd. Mae’r holl fyfyrwyr TAR yn derbyn 25 awr o gymorth Cymraeg, sy’n codi i 36 awr o amser cyswllt yn y BA Cynradd. Mae’r rhaglenni hyn wedi cael eu cynllunio ar y cyd â thiwtoriaid Prifysgol Cymru a staff sy’n siarad Cymraeg mewn ysgolion a Chydlynwyr y Gymraeg. Lleolir myfyrwyr mewn grwpiau iaith gwahaniaethol yn unol â lefelau hyfedredd yn y Gymraeg, o grwpiau Dechreuwyr i grwpiau Pontio a Gloywi. Mae sesiynau Datblygu’r Gymraeg yn cynnwys ymwybyddiaeth ddiwylliannol, y Cwricwlwm Cymreig, datblygiadau medrau Cymraeg a’r defnydd o addysgeg effeithiol i ddatblygu defnydd y disgyblion o’r Gymraeg. Mae pob un o’r myfyrwyr yn creu portffolio teilwredig Datblygu’r Gymraeg, dan arweiniad y tiwtor Cymraeg, gan olrhain cynnydd, datblygiad personol yn y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destun addysgegol.
Caiff cysylltiadau ag arferion yn yr ysgol eu cryfhau trwy ddyrannu wyth awr o Ymchwil ac Ymholi fesul Arfer Glinigol (profiad ysgol), lle mae myfyrwyr yn creu cofnodion myfyriol, gan ganolbwyntio ar agweddau ar y Gymraeg yn eu sefydliadau lleoli unigol. Mae Cydlynwyr y Gymraeg yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg yng nghyd-destun eu hysgol.
Mae pob un o’r myfyrwyr yn cwblhau hunanasesiad cyn rhaglen o fedrau Cymraeg, gan alluogi tiwtoriaid i grwpio myfyrwyr yn unol â chymhwysedd a gallu. Mae tiwtoriaid Cymraeg yn mynd ati i dargedu siaradwyr Cymraeg ar gyfer grwpiau Gloywi a Phontio, sy’n anelu at uchafu niferoedd y myfyrwyr ar lwybrau cyfrwng Cymraeg. Bob blwyddyn, nodir carfan fach o fyfyrwyr TAR fel siaradwyr Cymraeg sy’n dewis llwybrau cyfrwng Saesneg, ac mae’r myfyrwyr hyn yn ffurfio grŵp Pontio. Mae’r rhesymau pam mae siaradwyr Cymraeg yn dewis lleoliad addysgu cyfrwng Saesneg yn gymhleth a phersonol, a nod y grŵp pontio hwn yw cynnig cymorth personol i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael y cymorth Cymraeg priodol, yn ogystal â chymorth personol i ddatblygu hyder a chymhwysedd fel athrawon cyfrwng Cymraeg datblygol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22, dewisodd naw o fyfyrwyr TAR Cynradd ac wyth o fyfyrwyr TAR Uwchradd ymuno â grŵp datblygu’r Gymraeg, Pontio. Yn 2022-23, mae 13 o fyfyrwyr TAR Cynradd a phump o fyfyrwyr TAR Uwchradd yn dilyn elfen datblygu’r Gymraeg, Pontio, eu rhaglen, sy’n dangos bod cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg sy’n dymuno pontio eu medrau iaith.
Mae myfyrwyr Pontio yn meddu ar amgyffrediad da o’r Gymraeg yn draddodiadol, ond yn dymuno cwblhau eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Saesneg. Mae nodi’r myfyrwyr hyn yn gynnar yn hollbwysig. Mae derbyniadau’n hysbysu tiwtoriaid Cymraeg am fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg sydd â phroffil Pontio cyn i’r rhaglen ddechrau, ac mae hyn yn galluogi tiwtoriaid i dargedu myfyrwyr yn unigol i drafod eu medrau Cymraeg, eu lefelau hyder a llwybrau posibl at y llwybr cyfrwng Cymraeg. Cefnogir grŵp Pontio mewn cyd-destun teilwredig fel bod y llwybr tuag at weithio yn y sector cyfrwng Cymraeg yn cael ei gadw’n agored. Nod yr ymyrraeth hon yw mynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu cyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, CGA a phenaethiaid yn ein hysgolion partner.
Mae Datblygu’r Gymraeg yn digwydd mewn cyd-destun llyfn ac anffurfiol iawn yn y ddarpariaeth Pontio yn y brifysgol. Mae myfyrwyr a thiwtoriaid yn trafod anghenion a nodir trwy waith llafar ac ysgrifenedig. Mae pob sesiwn, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr cynradd, yn canolbwyntio ar adnoddau iaith a methodoleg ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Hefyd, mae pob sesiwn yn cynnwys gwaith iaith ar lefel y myfyrwyr eu hunain yn yr holl fedrau. Caiff y myfyrwyr eu haddysgu mewn grwpiau bach i feithrin amgylchedd cefnogol lle mae’r tiwtor yn deall anghenion, cymhelliant a gallu iaith athrawon dan hyfforddiant yn dda. Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar hybu hyder a rhuglder llafar trwy gyfleoedd rheolaidd i sgwrsio â’r tiwtor ac â’i gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. I lawer o athrawon dan hyfforddiant, mae hyn yn gyfle i ailafael ar fedrau iaith a gollwyd.
Mae myfyrwyr yn olrhain eu cynnydd personol mewn medrau Cymraeg ac addysgeg ar dair adeg asesu allweddol bob blwyddyn, gan alluogi iddynt gofnodi safonau a gosod targedau. Mae hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar agweddau craidd ar eu datblygiad iaith a chwarae rôl weithredol mewn gwella’u defnydd o Gymraeg llafar ac ysgrifenedig.
Mae siaradwyr gwadd yn cyfrannu at ddarpariaeth Pontio. Yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd recriwtio cyfrwng Cymraeg gyda phenaethiaid y bartneriaeth, cydnabyddir bod gan staff yn yr ysgol rôl allweddol mewn cefnogi’r grŵp pontio hwn, a chefnogi eu taith tuag at y sector cyfrwng Cymraeg. Gwahoddir pennaeth uwchradd i gyfarfod â’r grŵp i drafod y cyfleoedd sydd ar gael mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae cyflwyniadau hefyd yn cynnwys cyfweliadau â staff sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae pwysigrwydd modelau rôl fel pobl sy’n ysbrydoliaeth yn hanfodol wrth fagu hyder ac yn dangos bod athrawon eraill wedi dilyn y llwybr yn llwyddiannus o’r cyfrwng Saesneg i addysgu cyfrwng Cymraeg.
Gwahoddir cyd-fyfyrwyr o’r sector cyfrwng Cymraeg i gyfrannu at sesiynau Pontio hefyd. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ennill dealltwriaeth o’r disgwyliadau ieithyddol yn y sector cyfrwng Cymraeg, ac ystod y cymorth a gynigir yn y sector hwn.
Cynigir cyfle i holl fyfyrwyr Pontio fynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg, ond maent yn tueddu i fod yn ddihyder i gymryd y cam hwn â’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae’r rhaglen TAR yn cynnwys profiad cyfoethogi am dair wythnos ar ddiwedd y rhaglen. Caiff myfyrwyr Pontio eu hannog i fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg (cynradd neu uwchradd) i ennill profiad o addysgu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, heb fod pwysau o ran asesu a chynllunio ffurfiol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig strwythur wrth symud ymlaen tuag at y sector cyfrwng Cymraeg, gan alluogi myfyrwyr i fagu hyder trwy gydol eu taith yn y Gymraeg.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Gyda hyder a chymhwysedd sy’n datblygu, mae rhai o fyfyrwyr Pontio yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn gam clir ymlaen yn eu hyder a’u defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng hyfforddi.
Mae myfyrwyr yn olrhain eu safonau fel rhan o system Fframwaith, sy’n dangos hyder datblygol myfyrwyr Pontio wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg. Mae hyn yn bwydo i Safonau Fframwaith Cymru gyfan, gan arwain at ddatblygu medrau Cymraeg yn y dyfodol fel athrawon newydd gymhwyso.
Caiff y safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) eu holrhain fel rhan o’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae holl fyfyrwyr Pontio wedi creu portffolio llawn o dystiolaeth o fedrau (darllen / ysgrifennu / gwrando / siarad) a thystiolaeth o strategaethau effeithiol i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion.
Mae adborth gan fyfyrwyr Pontio yn nodi’r pwyntiau canlynol, gan bwysleisio effaith y grŵp hwn ar fedrau iaith personol ac ymdeimlad o berthyn:
‘y cyfle i ddyrchafu fy Nghymraeg a’i defnyddio o fewn fy ystafell ddosbarth i helpu cenhedlaeth y dyfodol’
‘Rydw i wedi mwynhau’r sesiynau gyda’r tiwtor. Mae hi’n gwneud i’r grŵp deimlo fel teulu’.
‘Rydw i wedi mwynhau’r sesiynau yn fawr iawn. Mae’r tiwtor yn rhoi’r cyfle i ni loywi ein hiaith wrth greu awyrgylch cyfforddus a chyfeillgar’.
‘Mae’r tiwtor wedi helpu i mi ddatblygu fy sgiliau Cymraeg a gwella fy hyder yn siarad Cymraeg’.
‘Dw i wedi dysgu llawer o bethau newydd am fy mod i wedi gwrando ar bobl yn siarad Cymraeg yn rhugl’.
Mae’r dyfyniadau uchod yn dangos gwerth darpariaeth bersonol i’r siaradwyr Cymraeg hyn sy’n datblygu, a phwysigrwydd y ddarpariaeth hon o ran datblygu siaradwyr Cymraeg hyderus a chymwys ac athrawon y dyfodol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Trwy waith Grŵp Recriwtio a Marchnata cyfrwng Cymraeg y bartneriaeth, rhennir yr arfer dda hon gyda phenaethiaid ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, a’r consortia rhanbarthol.
Mae gwaith y bartneriaeth gyda Chonsortiwm Canolbarth y De yn cefnogi cysylltiadau gwell o SAC i Athro Newydd Gymhwyso (ANG) a datblygiad proffesiynol parhaus o ran Datblygu’r Gymraeg.
Nodwyd y camau nesaf posibl i ddatblygu effaith darpariaeth Pontio ymhellach:
- Cyfrannu at bodlediad ‘Tom and Emma’ y bartneriaeth fel rhan o gyfres Research Bites i hyrwyddo’r cyfleoedd a gynigir trwy ddarpariaeth Pontio.
- Cydweithio ymhellach ag ysgolion, o bosibl gan fynd â myfyrwyr Pontio i ysgol cyfrwng Cymraeg yn ystod cyfnod ymsefydlu AGA, fel bod myfyrwyr yn fwy gwybodus am y sector cyn ymrwymo i hyfforddiant trwy gyfrwng un iaith neu’r llall.
- Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Pontio gymryd rhan mewn rhai agweddau ar y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys paratoi ar gyfer gwneud cais am swyddi addysgu.