Datblygu arweinyddiaeth ganol

Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yn ysgol uwchradd fawr cyfrwng Saesneg ar gyfer disgyblion 11-18 oed yn ne Caerdydd. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned amrywiol sydd â nifer sylweddol o ddisgyblion o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, a siaredir dros 70 o ieithoedd gwahanol yno. Mae tua 37% o’r holl ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ym mis Medi 2023, symudodd yr ysgol i adeilad newydd o’r radd flaenaf.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae timau arweinyddiaeth ganol yn hanfodol mewn ysgolion, yn ysgogi gwelliant, yn rhoi arweiniad i staff, ac yn sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer disgyblion. Maent yn ffurfio cyflwyno’r cwricwlwm, yn ysgogi cynnydd, ac yn meithrin diwylliant ysgol cadarnhaol. Mae eu gallu i fentora cydweithwyr, rhoi newid ar waith, a mynd i’r afael â heriau yn sicrhau safonau uchel a datblygiad parhaus.
Yn 2017, cydnabu Estyn fod gan dîm arweinyddiaeth ganol Fitzalan rolau diffiniedig a dealltwriaeth gref o gryfderau ac anghenion datblygu eu meysydd. Fodd bynnag, weithiau, roeddent yn goramcangyfrif ansawdd yr addysgu, ac er bod cynllunio gwelliant yn effeithiol, ar y cyfan, roedd diffyg manwl gywirdeb a ffocws clir ar ddeilliannau disgyblion mewn rhai meini prawf llwyddiant.
I gryfhau arweinyddiaeth ganol a sicrhau ei bod yn parhau i ysgogi cynnydd yr ysgol gyfan, canolbwyntiodd Fitzalan ar y canlynol:
- Dysgu proffesiynol i arweinwyr canol ddatblygu’r medrau arwain a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer arwain gwelliant.
- Mentrau yn benodol i Fitzalan wedi’u hanelu at:
a. Ymestyn gallu arweinwyr canol i werthuso ansawdd yr addysgu a chynnydd disgyblion gyda chywirdeb a thrylwyredd.
b. Cryfhau eu gallu i asesu effaith y ddarpariaeth yn eu meysydd cyfrifoldeb.
c. Cynnal atebolrwydd cryf tra’n meithrin diwylliant lle caiff datrys problemau ar y cyd ei annog.
Yn Fitzalan, mae adolygu perfformiad yn chwarae rôl hanfodol mewn ffurfio dysgu proffesiynol ar gyfer arweinwyr canol. Mae’r ysgol yn defnyddio system arfarnu strwythuredig sydd nid yn unig yn gwerthuso effeithiolrwydd arweinyddiaeth ond hefyd yn nodi meysydd ar gyfer datblygiad targedig. Trwy adolygiadau perfformiad rheolaidd, mae arweinwyr canol yn cael adborth ar eu gallu i arwain timau, gwerthuso ansawdd addysgu, ac ysgogi gwelliannau yn neilliannau disgyblion.
Mae canfyddiadau o drafodaethau am reoli perfformiad yn llywio blaenoriaethau dysgu proffesiynol yn uniongyrchol. Er enghraifft, os oes angen mwy o gymorth ar arweinwyr canol i ddefnyddio data i asesu effaith addysgu, cyflwynir sesiynau hyfforddiant targedig. Yn yr un modd, os yw deilliannau arfarnu yn amlygu’r angen am fedrau hyfforddi gwell ymhlith arweinwyr canol, caiff gweithdai mentora a hyfforddi eu hymgorffori mewn rhaglenni dysgu proffesiynol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod datblygiad arweinyddiaeth yn cyd-fynd yn agos ag anghenion gwelliant unigolion ac anghenion yr ysgol gyfan.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
1) Dysgu Proffesiynol Arweinyddiaeth Ganol
Ochr yn ochr â dysgu proffesiynol ysgol gyfan, mae arweinwyr canol (a darpar arweinwyr canol) yn cymryd rhan mewn hyfforddiant targedig i ymestyn eu medrau arwain. Cyflwynir yr hyfforddiant hwn gan bartneriaid mewnol ac allanol. Er enghraifft, cynhaliodd hwylusydd allanol gyfres o weithdai ar reoli timau, yn cwmpasu testunau fel hunanymwybyddiaeth arweinyddiaeth, hyfforddi a mentora, a datrys gwrthdaro. Roedd sesiynau eraill yn cynnwys rheoli cyllideb yn effeithiol a chynllunio strategol.
Datblygodd Fitzalan lwybr pwrpasol ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd, sy’n cynnwys:
- Rhaglen Symud at Ragoriaeth (Moving to Excellence), sydd wedi’i chynllunio i gryfhau arfer yn yr ystafell ddosbarth.
- Rhaglen ARWAIN, sy’n archwilio rôl arweinydd canol ac yn darparu sylfaen ar gyfer dilyniant arweinyddiaeth.
- Rhaglen MEWNWELEDIAD (INSIGHT), sydd wedi’i hanelu at ddatblygu medrau hyfforddi a mentora ar gyfer arweinwyr canol presennol sy’n paratoi ar gyfer rolau uwch.
Mae’r dull strwythuredig hwn yn sicrhau bod pob un o’r darpar arweinwyr canol a’r arweinwyr canol presennol yn meddu ar ddealltwriaeth glir o ddisgwyliadau a’r cymorth angenrheidiol i ddatblygu eu medrau arwain.
2) Newidiadau sy’n benodol i Fitzalan
a. Ymestyn gallu arweinwyr canol i werthuso addysgu a chynnydd disgyblion
I sicrhau bod arweinwyr canol yn llunio gwerthusiadau trylwyr a chywir, datblygodd Fitzalan ddealltwriaeth ar y cyd o ragoriaeth ac iaith gyffredin ar gyfer disgrifio ansawdd addysgu. Roedd hyn yn cynnwys rhannu meysydd allweddol yn elfennau penodol a dangos sut mae’r rhain yn datblygu ar hyd continwwm. Er enghraifft, creodd y Grŵp Ffocws ar Addysgu a Dysgu Hanfodion Addysgu Gwych Fitzalan (Fitzalan Fundamentals of Great Teaching), sef fframwaith yn seiliedig ar ymchwil yn amlinellu elfennau hanfodol arfer ragorol. Daeth y fframwaith hwn yn sylfaen ar gyfer trafodaethau am ansawdd yr addysgu. Canolbwyntiodd menter arall ar fapio dilyniant medrau, gan roi mwy o eglurder ar sut mae disgyblion yn datblygu cymwyseddau allweddol dros gyfnod.
I gefnogi hyn, cafodd arweinwyr canol hyfforddiant ar y canlynol:
- Dewis samplau trylwyr o dystiolaeth.
- Defnyddio triongli i sicrhau gwerthusiadau cytbwys.
- Ysgrifennu datganiadau gwerthusol sy’n canolbwyntio ar effaith yn hytrach na chamau gweithredu.
Hefyd, darparwyd modelau arfer orau ar gyfer arweinwyr canol i’w harwain wrth gynnal gwerthusiadau o ansawdd uchel o fewn eu meysydd cyfrifoldeb.
b. Cryfhau gallu arweinwyr canol i asesu effaith y ddarpariaeth
Un o’r symudiadau allweddol yn null Fitzalan oedd symud o werthuso darpariaeth yn seiliedig ar y camau a gymerwyd i asesu ei effaith wirioneddol ar ddysgu’r disgyblion. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn roedd athrawon yn ei wneud, canolbwyntiodd y trafodaethau ar yr hyn roedd disgyblion yn ei wybod, yn ei ddeall, ac yn gallu ei wneud o ganlyniad i’r ddarpariaeth.
Er enghraifft, yn hytrach na datgan, “Rydym yn darparu amryfal gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer llythrennedd,” byddai hyn yn ddatganiad mwy ystyrlon, wedi’i yrru gan effaith: “Gall bron pob un o’r disgyblion sillafu geiriau allweddol a thermau sy’n benodol i bwnc yn gywir. Fodd bynnag, mae lleiafrif ohonyn nhw’n cael trafferth â geirfa Haen 2, sy’n effeithio ar eu gallu i gymhwyso iaith fwy soffistigedig mewn ysgrifennu estynedig. Mae angen ymyriadau targedig i fynd i’r afael â’r bwlch hwn.”
I ymgorffori’r dull hwn, mae arweinwyr canol yn cael hyfforddiant ar y canlynol:
- Dadansoddi data asesu.
- Craffu ar waith disgyblion yn effeithiol.
- Defnyddio tystiolaeth ansoddol a meintiol i lunio casgliadau cywir am addysgu a dysgu.
- Ysgrifennu gwerthusiadau clir, wedi’u gyrru gan dystiolaeth sy’n nodi cryfderau, meysydd i’w gwella a’r camau nesaf.
c. Cynnal atebolrwydd cryf tra’n meithrin diwylliant cydweithredol
Mae arweinwyr canol yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp bach ddwywaith yr wythnos gydag agendâu strwythuredig yn cael eu gosod ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae’r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel:
- Adolygu cynnydd disgyblion ar ôl pwyntiau asesu.
- Gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau.
- Mynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg (e.e. asesu effaith system ymddygiad newydd).
Mae’r fformat grŵp bach yn caniatáu ar gyfer trafodaethau ystyrlon, rhannu arfer orau, a datrys problemau ar y cyd. Mae’r cyfarfodydd hyn hefyd yn helpu nodi arweinwyr canol y gallai fod angen mwy o gymorth arnynt, gan ganiatáu ar gyfer ymyrraeth amserol a chynlluniau datblygu teilwredig. Mae uwch arweinwyr yn sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn parhau yn adeiladol a datblygiadol yn hytrach na’u bod yn canolbwyntio ar atebolrwydd yn unig. Ceir systemau a phrosesau i fonitro a gwerthuso effaith y cymorth, i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r gwaith hwn wedi cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth ac ar ddeilliannau disgyblion. Trwy symud trafodaethau oddi wrth yr hyn y mae athrawon yn ei wneud i’r hyn mae disgyblion yn ei ddysgu, mae arweinwyr canol wedi ennill dealltwriaeth graffach o effaith eu gwaith. Mae hyn wedi arwain at strategaethau gwella mwy manwl ac effeithiol sy’n mynd i’r afael â meysydd angen yn uniongyrchol.
Mae’r ffocws ar werthuso yn seiliedig ar dystiolaeth wedi arwain at ddull mwy trylwyr a dadansoddol ar gyfer asesu addysgu a dysgu. Erbyn hyn, mae arweinwyr canol wedi’u harfogi’n well i nodi cryfderau, canfod gwendidau, a gweithredu ymyriadau targedig sy’n gyrru gwelliant. Gwelwyd effaith yr ymagwedd hon yn y canlynol:
- Gwerthusiadau mwy cywir a dibynadwy o ansawdd yr addysgu.
- Mwy o gysondeb mewn safonau ar draws adrannau.
- Cydweithio a didwylledd parhaus o ran dysgu proffesiynol.
Mae’r diwylliant atebolrwydd yn parhau i fod yn gryf, ac wedi’i gydbwyso â chymorth ac ethos cyfrifoldeb ar y cyd. Mae staff yn teimlo’u bod wedi eu grymuso i ddwyn perchnogaeth dros eu datblygiad, gan arwain at lefelau ymgysylltu uwch mewn dysgu proffesiynol a deilliannau gwell ar gyfer disgyblion, yn y pen draw. Trwy ymgorffori dysgu proffesiynol o fewn cylch gwella’r ysgol, mae Fitzalan yn sicrhau bod arweinyddiaeth ar bob lefel yn parhau i fod yn sbardun wrth sicrhau rhagoriaeth.