Darpariaeth sy’n ysbrydoli chwilfrydedd a medrau plant trwy brofiadau dysgu yn yr ardal goedwig.
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Meithrinfa Plas Gogerddan wedi’i lleoli mewn man gwledig prydferth ar gyrion Aberystwyth. Caiff y feithrinfa ei hamgylchynu gan fywyd cefn gwlad gydag ardaloedd awyr agored penigamp i’w harchwilio, gan gynnwys gofod coetir datblygedig lle mae’r ymagwedd at ddysgu awyr agored yn meithrin chwilfrydedd a datblygiad medrau plant mewn amgylchedd naturiol. Mae ei hathroniaeth yn pwysleisio pwysigrwydd natur mewn datblygiad plant, gan annog archwilio a darganfod trwy brofiadau ymarferol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Sicrhaodd y lleoliad grant ar gyfer profiad cysgodi a chyfnewid yn y Ffindir, lle arsylwodd ymarferwyr yn uniongyrchol ar yr effaith gadarnhaol y gallai dysgu yn yr awyr agored ym mhob tywydd ei chael ar blant. Yn dilyn yr ymweliad ysbrydoledig hwn â’r Ffindir, roeddent yn benderfynol o wneud defnydd llawn o’r amgylchedd naturiol sydd ar garreg eu drws. Cyflogodd y lleoliad Arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3, a gynorthwyodd â symud pethau ymhellach yn eu blaen. I ddechrau, dechreuodd ymarferwyr archwilio’u hamgylchedd naturiol eu hunain, gan arsylwi a monitro’r effaith gadarnhaol roedd yr awyr agored yn ei chael ar grwpiau bach o blant.
Y cam nesaf oedd sefydlu safle gerllaw’r lleoliad y gellid ei ddatblygu i’w ddefnyddio gyda’r plant. Gweithiodd y lleoliad yn agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n berchen ar y coetir o gwmpas y feithrinfa, i ddod o hyd i ardal addas. Mae ymarferwyr yn parhau i weithio’n agos gyda CNC, gyda’r lleoliad yn gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio’u coetir yn flynyddol ac yn cael caniatâd.
I ddatblygu’r gofod ymhellach, gan ei wneud yn hygyrch a diogel, fe wnaeth yr ymarferwyr gais am gyllid grant a datblygont brosiect cymunedol lle gweithion nhw’n agos gyda grwpiau coedwigaeth lleol, grŵp MIND a chontractwyr lleol. O’r dechrau’n deg, roedd y plant yn ymwneud yn weithgar â datblygu ardal y coetir. Arsylwodd yr ymarferwyr yn fanwl sut y defnyddion nhw’r gofod naturiol a wnaeth, yn ei dro, gynorthwyo’r lleoliad i ddatblygu’r safle. Maent yn parhau i chwarae rhan wrth i ymarferwyr wella a datblygu’r ardal. Nid yn unig y mae cymryd rhan yn ymarferol fel hyn yn grymuso’r plant, mae hefyd yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb. Trwy gyfrannu at greu a chynnal a chadw’r gofod naturiol, mae plant yn dysgu medrau corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol gwerthfawr, ac yn datblygu cysylltiad dyfnach â’r amgylchedd a gwerthfawrogiad dyfnach ohono.
Mae’r plant yn chwarae rhan hanfodol mewn sefydlu’r rheolau. Maent yn cymryd rhan mewn trafodaethau i greu canllawiau ac atgoffa’i gilydd i gadw at y rheolau hyn sydd, o ganlyniad, yn meithrin ymdeimlad o barch tuag at ei gilydd.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Ym Mhlas Gogerddan, mae ymarferwyr yn sicrhau bod medrau a chwilfrydedd plant yn cael eu hysbrydoli trwy greu amgylcheddau ysgogol sy’n cael eu defnyddio ym mhob tywydd ac am gyfnodau estynedig. Mae’r plant yn troi am safle’r coetir yn y bore ac yn aros yno am sesiynau estynedig ym mhob tywydd bron, heblaw pan fydd hi’n stormus neu’n wyntog am resymau diogelwch. Yn ystod y misoedd cynhesach, mae’r plant yn treulio hyd at ddiwrnodau llawn ar y safle, gan gael byrbryd, cinio ac amser cysgu yn y coetir. Mae’r amlygiad cyson hwn yn caniatáu i blant ddod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’r amgylchedd naturiol ac addasu a gwerthfawrogi natur, ni waeth am y tywydd.
Wrth i’r plant ddod yn barod yn ddatblygiadol, mae ymarferwyr yn eu hannog i baratoi ar gyfer y coetir trwy baratoi eu hunain a newid i ddillad priodol. Mae ymarferwr yn defnyddio bwrdd dilyniannu i’w cynorthwyo i ddeall pa ddillad y mae eu hangen yn ôl y tywydd, a pha eitemau i’w gwisgo gyntaf. Hefyd, maen nhw’n helpu’r staff i bacio’r troli gydag unrhyw eitemau y mae eu hangen ar gyfer y sesiwn, gan gynnwys dŵr i olchi dwylo. Mae hyn yn helpu’r plant i feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ac annibyniaeth.
Pan fyddant yn y coetir, mae’r plant yn cael rhyddid i archwilio’r ardal yn llawn, wrth eu pwysau. Mae ymarferwyr wedi gwella ac addasu’r amgylchedd naturiol trwy roi mwy o gyfleoedd heriol i rolio, cydbwyso, siglo, dringo coed, cerdded ar arwynebau anwastad, cloddio, gwthio a hongian, trwy ychwanegu llinellau slac, pontydd crog ac amrywiaeth o setiau o siglenni gwahanol ar amrywiol uchderau, a rhwydau sgrialu, rhawiau â handlenni hir a berfâu. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu’r plant i ddysgu rheoli eu corff, asesu a rheoli eu risgiau eu hunain, gwneud penderfyniadau a datblygu craidd cadarn. Mae’r plant yn aml yn mwynhau gwneud lloches lle maen nhw’n hoffi ymlacio gyda blancedi, clustogau a sachau cysgu. Ar safle’r coetir, gallant ddefnyddio hamogau a llochesi a mannau tawel i ‘fod’.
Yn ystod ein sesiynau coetir, mae ymarferwyr yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu ymddygiad cadarnhaol trwy gyflwyno gweithgareddau sy’n gofyn am rannu, trafod a chydweithredu. Maent yn annog plant yn weithgar i gymryd cyfrifoldeb am ofalu am eraill yn ogystal â’r amgylchedd naturiol, sy’n cynnwys parch tuag at blanhigion ac anifeiliaid. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwilio am chwilod, helfeydd trysor, sesiynau creadigol, cloddio ar raddfa fawr, coginio ar y tân a defnyddio amrywiaeth o offer. Mae’r gweithgareddau hyn yn tanio’u chwilfrydedd ac yn eu hannog i ofyn cwestiynau a cheisio atebion. Mae straeon yn aml yn dod yn fyw wrth i’r plant ail-greu ac ailadrodd straeon gan ddefnyddio’u dychymyg, a hynny’n llawn cyffro. Mae’r plant yn gweithio gyda’i gilydd yn naturiol i ddatrys problemau yn weithgar; er enghraifft pan gwympodd plentyn dros fonyn bach yn y coetir, ystyrion nhw beth y gallent ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto. Rhannon nhw syniadau a gweithion nhw gyda’i gilydd i gloddio’r bonyn. Fe wnaethant ganolbwyntio ar y dasg hon am gyfnod hir ac roedd yr ymdeimlad o gyflawniad a llwyddiant pan ddaeth y bonyn allan o’r diwedd yn wych i’w weld.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae buddion dirifedi i ddefnyddio’r coetir a’r amgylchedd awyr agored naturiol. Er enghraifft, yn ystod sesiynau chwarae di-dor hir, bydd y plant yn dyfalbarhau â thasgau, hyd yn oed pan fydd pethau’n mynd yn eithaf heriol. Mae ymarferwyr wedi dysgu bod rhoi i’r plant yr amser y mae ei angen arnynt i gwblhau tasgau yn hanfodol.
Gydag amser, mae arsylwyr wedi arsylwi’n uniongyrchol yr effaith gadarnhaol y mae’r sesiynau coetir wedi’i chael ar feithrin ac adeiladu gwydnwch y plant. Er enghraifft trwy reoli eu medrau corfforol mewn amgylchedd heriol, mae’r plant yn aml yn baglu neu gwympo wrth iddynt anelu at gyrchfan. Yn sydyn, byddant yn codi, yn tacluso’u hunain ac yn parhau ar eu taith, heb ddeigryn i’w gweld.
Hefyd, mae ymarferwyr wedi gweld nad yw’r plant yn sylwi ar y tywydd mwyach, gan sefyll wrth y drws, mewn dillad gwrth-ddŵr, a hithau’n arllwys y glaw, yn barod i droi am y goedwig.
Dros y blynyddoedd, mae’r lleoliad wedi gwneud cais am grantiau pellach i sicrhau bod ei ymagwedd at ddysgu yn yr awyr agored yn parhau i ddatblygu a thyfu yn y dyfodol. Mae hyder tîm y staff a’u hymgysylliad ag arwain sesiynau yn yr awyr agored wedi tyfu wrth iddynt weld cymaint o fuddion i’r plant.
Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad yn rhannu ei arfer yn rheolaidd gyda theuluoedd, y gymuned leol, myfyrwyr, lleoliadau, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae’n cynnal ffair feithrin flynyddol, gyda phob teulu a’r gymuned ehangach yn cael eu gwahodd i’r lleoliad am ddiwrnod llawn hwyl. Yn rhan o’r ffair, mae ymarferwyr yn cynnwys llwybr trwy’r coetir, lle gall teuluoedd archwilio’r gofod gyda’u plant, gan ddarganfod holl anifeiliaid y coetir ar y ffordd.
Mae’r lleoliad yn arwain sesiynau rhannu i grwpiau o fyfyrwyr a thiwtoriaid TAR o Brifysgol Aberystwyth, grwpiau o athrawon ac arweinwyr o leoliadau eraill o fewn y sir, myfyrwyr o wledydd eraill a gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae ymarferwyr wedi cael adborth gwych o’r sesiynau hyn, sydd wedi cynnig ysbrydoliaeth i eraill a’u symbylu i fynd â dysgu i’r awyr agored; bydd hyn, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar gymaint mwy o blant yn y dyfodol.