Darpariaeth i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o hanesion, storïau a chyfraniadau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol - Estyn

Darpariaeth i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o hanesion, storïau a chyfraniadau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol

Arfer effeithiol

Fitzalan High School

Pum myfyriwr yn gwisgo gwisg ysgol yn chwerthin ac yn cydweithio ar brosiect mewn ystafell ddosbarth llawn deunyddiau addysgol.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yn ysgol uwchradd fawr cyfrwng Saesneg ar gyfer disgyblion 11-18 oed yn ne Caerdydd. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned hynod amrywiol sydd â nifer sylweddol o ddisgyblion o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, a siaredir dros 70 o ieithoedd gwahanol yno. Mae tua 37% o’r holl ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ym mis Medi 2023, symudodd yr ysgol i adeilad newydd o’r radd flaenaf.       

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Yn 2021, gwnaed astudio hanesion a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn rhan orfodol o Cwricwlwm i Gymru gan Lywodraeth Cymru. Nod yr ymrwymiad hwn i gwricwlwm mwy cynrychioliadol yw sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn gweld bod nhw eu hunain a’u profiadau’n cael eu hadlewyrchu yn yr hyn sy’n cael ei addysgu iddynt. Yn yr un modd, rhaid i’r cwricwlwm helpu disgyblion i ddeall eu lle yn y Gymru gyfoes, gan feithrin ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn mewn cymdeithas amrywiol ac esblygol. 

Yn erbyn y cefndir hwn, adolygodd Ysgol Fitzalan ei chwricwlwm i sicrhau ei fod yn cynrychioli ei disgyblion ac yn cael ei hintegreiddio’n ystyrlon mewn hanes byd-eang. Nod yr ysgol oedd ymgorffori hanes pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y cwricwlwm fel elfen hanfodol a chydgysylltiedig, yn hytrach na thestun ar wahân neu thema atodol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Roedd yn flaenoriaeth i arweinwyr ac athrawon ymgysylltu â disgyblion a’r gymuned ehangach, gan wrando ar eu safbwyntiau tra’n elwa ar arbenigedd staff yr ysgol ei hun. Mae pob adran wedi cynnal adolygiad trylwyr o’i chwricwlwm, gan nodi cyfleoedd ystyrlon i integreiddio hanesion a phrofiadau cymunedau pobl Dduon, Asiaidd, ac Ethnig Lleiafrifol. Er enghraifft, mewn hanes, mae dysgwyr yn archwilio’r Ffordd Sidan a’r Ymerodraeth Otomanaidd, ochr yn ochr ag unedau ym meysydd eraill y cwricwlwm ar Islamoffobia, Mae Bywydau Du o Bwys, Prydain aml-ffydd, a phrofiadau ffoaduriaid. Mae gan y cwricwlwm rôl hanfodol mewn ffurfio dealltwriaeth disgyblion o’r hyn sy’n cael ei werthfawrogi mewn cymdeithas. O ystyried cymuned amrywiol yr ysgol, mae’n hanfodol bod y cwricwlwm yn adlewyrchu treftadaeth Gymreig a naratifau byd-eang ehangach, gan sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn gweld bod nhw eu hunain yn cael eu cynrychioli yn yr hyn maent yn ei astudio. 

Hefyd, bu’r ysgol yn adolygu ei llyfrgell i asesu ystod y llyfrau sydd ar gael i ddisgyblion. Mae hyn wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol mewn teitlau newydd sy’n adlewyrchu cefndiroedd a phrofiadau disgyblion Fitzalan yn well. Cafodd y gymuned ei chynnwys yn weithredol yn y broses hon, ac estynnwyd gwahoddiad i aelodau ddewis a rhoi llyfrau. Yn ystod amser dosbarth, mae tiwtoriaid yn darllen llyfr darllen gyda’u dysgwyr, gan ddewis llyfrau sy’n adlewyrchu ystod eang o leisiau a safbwyntiau. Yn ychwanegol, mae’r adran Saesneg, gyda chymorth gan arbenigwyr allanol, wedi adolygu a diweddaru ei chwricwlwm i wella cynwysoldeb. Er enghraifft, mae wedi cyflwyno drama Leave Taking gan Winsome Pinnock yn rhan o’r maes llafur TGAU newydd. Mae’r gwaith pwerus hwn yn archwilio profiadau cenhedlaeth Windrush a heriau hunaniaeth, mudo, a pherthyn. 

Mae cwricwlwm Prosiect yr ysgol—sef pwnc rhyngddisgyblaethol sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu meddwl beirniadol, medrau allweddol a gwybodaeth bwerus—wedi cael ei gynllunio â rhagolwg byd-eang. Caiff testunau fel democratiaeth a gwareiddiadau hynafol, gan gynnwys y Cilgant Ffrwythlon, eu harchwilio mewn ffyrdd sy’n cysylltu’n ystyrlon â phrofiadau a chefndiroedd disgyblion. 

Mewn ieithoedd modern, gwnaed ymdrechion i sicrhau bod deunyddiau darllen, ysgrifennu a gwrando yn cynrychioli ehangder llawn y byd Ffrangeg a Sbaeneg, sy’n atgyfnerthu ymrwymiad yr ysgol ymhellach i gwricwlwm sy’n gynhwysol ac yn berthnasol yn fyd-eang. Mae’r cwricwlwm Cymreig yn cynnwys astudiaeth leol o Gaerdydd ac yn ystyried cyfoeth hunaniaeth Gymreig gyfoes.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae’r newidiadau i’r cwricwlwm yn Fitzalan wedi dechrau meithrin amgylchedd dysgu mwy cynhwysol sy’n adlewyrchu’r byd i gyd. Trwy ymgorffori hanesion a phrofiadau cymunedau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol ar draws y cwricwlwm, yn hytrach na’u trin fel testunau ar wahân neu atodol, mae’r ysgol wedi cymryd camau ystyrlon tuag at gynrychiolaeth well. 

Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod yr ymdrechion hyn yn cael effaith gadarnhaol. Mae llawer o ddisgyblion wedi mynegi gwerthfawrogiad am weld eu hanesion a’u diwylliannau eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y cwricwlwm, a rhai ohonynt yn disgrifio ymdeimlad dyfnach o gysylltu â’u dysgu. Mae disgyblion eraill wedi nodi bod cynnwys naratifau amrywiol wedi gwneud eu hastudiaethau yn fwy difyr a pherthnasol i’r byd a welant o’u cwmpas. 

Mae hon yn broses barhaus. Mae angen myfyrio, mireinio ac ymatebolrwydd parhaus i anghenion a phrofiadau pob un o’r disgyblion i gael gwir gynwysoldeb. Er y bu’r adborth cychwynnol yn galonogol, mae’r ysgol wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu a dyfnhau’r gwaith hwn ymhellach, gan sicrhau bod cynrychiolaeth yn ystyrlon, wedi’i hymwreiddio ac yn adlewyrchu’r safbwyntiau amrywiol sy’n ffurfio Cymru a’r byd ehangach, fel ei gilydd. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn