Darpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen a llafar disgyblion  - Estyn

Darpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen a llafar disgyblion 

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Rhydywaun

Mae person mewn gwisg ysgol las yn eistedd yn darllen llyfr mewn llyfrgell, gyda silffoedd yn llawn llyfrau ac unigolyn arall yn y cefndir.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun ym mis Medi 1995. Mae’n gwasanaethu plant a phobl ifanc Cwm Cynon a Merthyr Tudful. Mae 1026 o ddisgyblion yn yr ysgol, ynghyd â 118 yn y Chweched Dosbarth.  Mae 12.1% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Mewn ymateb i’r cwymp sylweddol yn safonau darllen disgyblion  a’r bwlch addysgol a ddaeth yn sgil Covid, mae’r ysgol wedi blaenoriaethu codi safonau darllen a llafar y disgyblion.  Aethpwyd ati i lunio dwy strategaeth ysgol gyfan – ‘Dim ond Darllen’ a ‘Llais Rhydywaun’.  

Mae ‘Dim ond Darllen’ wedi datblygu o gynllun peilot gan Brifysgol Sussex. Gweithiodd y brifysgol â 300 o ddisgyblion cynradd am 12 mis. Trwy ddarllen corawl dyddiol, gwelwyd gwelliant o 8.5 mis yn oedrannau darllen pob disgybl. Mae’r ysgol wedi adeiladu ar yr ymchwil hwn a chreu cynllun uwchradd, ble mae darllen corawl systematig yn digwydd ym mhob adran.  

Mae strategaeth llafar, ‘Llais Rhydywaun’, yn seiliedig ar egwyddorion profedig sy’n amlygu pedwar maes allweddol ar gyfer siarad effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys meithrin defnydd ymarferol o’r llais a mynegiant corfforol; datblygu iaith gyfoethog a strwythur iaith briodol i wahanol gyd-destunau; galluogi disgyblion i drefnu eu syniadau, ymresymu’n glir ac ymateb yn greadigol; ac adeiladu hyder i gymryd rhan, gwrando’n weithgar a chyfleu neges yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol. Trwy wreiddio’r egwyddorion hyn ar draws y cwricwlwm, mae’r ysgol yn hyrwyddo medrau llafar ymhob pwnc, gan annog defnydd o sgwrs archwiliol a llefaru ffurfiol. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu arferion gorau ac yn cefnogi disgyblion i fynegi’u hunain yn hyderus ac yn feirniadol mewn unrhyw gyd-destun. 

Disgrifiad o natur y strategaethau 

Mae’r holl staff yn cefnogi’r her i wella safonau darllen a llafar y disgyblion. Mae’r ddwy strategaeth wedi eu cyflwyno a’u gwreiddio trwy sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus, i sicrhau bod pob athro yn athro llythrennedd. 

Hoelion wyth y strategaethau:  

  • Gweithredir y strategaethau mewn modd systematig. Er enghraifft, mae pob sesiwn ddarllen yn dechrau trwy ymarfer llafar, sef ynganu’r Geiriau ‘Waw’ (geiriau haen 2 a 3). Mae’r eirfa yn cefnogi disgyblion i ddeall y testun ac i adeiladu geirfa goeth a hyder ar lafar. Dechreuir gwersi Cyfnod Allweddol 3 gyda sbardun llafar pwrpasol.  
  • Mae adrannau wedi gwau’r darnau darllen a thasgau llafar i’w cynlluniau gwaith ar draws y cwricwlwm. 
  • Mae rhieni yn gefnogol i’r cynllun: mae hyfforddiant llythrennedd a llyfrynnau ar gael iddynt weithio gyda’u plant. 
  • Cynhelir sesiynau darllen corawl ym mhob pwnc, unwaith bob cylch amserlen yng Nghyfnod Allweddol 3. 
  • Crëir deunyddiau darllen heriol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3. Maent yn adnodd dysgu, yn cynyddu stamina darllen ac yn modelu cywirdeb iaith.  
  • Mae pob athro yn athro llythrennedd, wedi derbyn hyfforddiant ac yn hyderus i arbrofi â strategaethau darllen a llafar amrywiol yn rheolaidd o fewn eu gwersi.  
  • Darllenir yn ystod cyfnodau tiwtor a thrafodir y deunydd darllen trwy ‘Rolau Trafod’. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi ei gael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Cryfder y ddwy strategaeth yw amlder y sesiynau a brwdfrydedd yr athrawon. Mae darllen corawl a dysgu ac addysgu trwy ddarllen yn norm yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae tasgau siarad a gwrando wedi eu cyflwyno a’u gwreiddio ym mhob pwnc.  

Mae’r deunyddiau darllen yn galon i’r dysgu ac yn hyrwyddo geirfa gyfoethog, sy’n arwain at waith llafar ac ysgrifennu cywir a choeth. Gwelir bod disgyblion yn hyderus i ddarllen ar goedd (corawl ac unigol) a chywiro eu hunain wrth ddarllen. Mae technegau ‘Llais Rhydywaun’, er enghraifft ‘Diwrnod dim Beiro’, yn cefnogi medrau llafar disgyblion ac yn sicrhau bod athrawon yn cyflwyno a rhannu arfer dda. 

Profwyd disgyblion Blwyddyn 7 ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth. Gwelwyd cynnydd sylweddol ym medrau darllen y disgyblion o fewn wyth mis cyntaf y prosiect – 78% o’r flwyddyn gyfan, 80% (merched), 77% (bechgyn), 71% (PYD).  Gwelwyd gwelliant yn y sgorau Asesiadau Personol Darllen, gyda chynnydd o 20 pwynt o leiaf yn sgorau cynnydd cymedrig darllen Cymraeg Blynyddoedd 7, 8 ,9. 

Mae’r ddwy strategaeth wedi sicrhau bod disgyblion yn fwy uchelgeisiol mewn gwersi. Oherwydd y gwelliant yn eu medrau darllen a llafar, mae’r arfau ganddynt i lwyddo. 

Mae dau fyfyriwr, un mewn gwisg ysgol, yn darllen llyfr gyda'i gilydd wrth eistedd mewn ystafell gyda ffenestr wydr lliw yn y cefndir.
Myfyrwyr mewn gwisgoedd coch yn darllen papurau mewn ystafell ddosbarth.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn