Cysylltiadau cymunedol cadarn sy’n cefnogi medrau cymdeithasol, emosiynol a phrofiadau ehangach plant yn hynod effeithiol - Estyn

Cysylltiadau cymunedol cadarn sy’n cefnogi medrau cymdeithasol, emosiynol a phrofiadau ehangach plant yn hynod effeithiol

Arfer effeithiol

Cylch Meithrin Machynlleth

Plentyn yn dal llusern â phatrwm seren ar bolyn, yn gwisgo siaced felen a sgarff las, yn sefyll y tu allan.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae Cylch Meithrin Machynlleth yn lleoliad blynyddoedd cynnar a reolir yn wirfoddol sy’n cynnig darpariaeth addysg, gofal plant a Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r lleoliad yn nhref Machynlleth, o fewn tir Ysgol Bro Hyddgen. Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 24 o blant fesul sesiwn, rhwng dwy a phedair oed.  

Mae’r lleoliad yn croesawu plant o amrywiaeth o gefndiroedd, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn dod o deuluoedd sy’n siarad Saesneg. Mae’r dull cynhwysol hwn yn cynorthwyo plant i ddatblygu medrau Cymraeg tra’n annog eu datblygiad cyffredinol.  

Mae gweledigaeth y lleoliad wedi’i seilio ar y gred y dylai pob plentyn fod: yn llawen, yn hyderus, ac yn annibynnol (joyful, confident, and independent). Mae’r ethos yn sail i arfer ddyddiol a nodau hirdymor y lleoliad ar gyfer twf pob plentyn.  

Cefnogir y lleoliad gan dîm ymroddedig o staff profiadol, unigolyn cyfrifol ymroddgar, a phwyllgor rheoli gweithgar. Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth, gofal, a brwdfrydedd i greu amgylchedd gwresog a difyr ar gyfer pob plentyn.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Gwelir un o gryfderau allweddol Cylch Meithrin Machynlleth yn y partneriaethau cryf y mae wedi’u datblygu o fewn y gymuned leol. Mae ymarferwyr yn rhoi gwerth uchel ar y cysylltiadau hyn ac yn eu defnyddio i gynllunio profiadau cyfoethog ac ystyrlon sy’n helpu plant i ymgysylltu â’u hardal leol, a’i deall. Mae’r profiadau hyn yn rhoi ymdeimlad cryf o berthyn a balchder i blant, gan hefyd ddathlu diwylliant amrywiol y Gymru fodern a meithrin ymdeimlad dwfn o gynefin

Mae ymweliadau rheolaidd â siopau cyfagos, marchnad y dref, Gerddi Bro Ddyfi, yr eglwys leol, y llyfrgell a’r parc wedi’u gwreiddio mewn arferion. Uchafbwynt arbennig y llynedd oedd yr orymdaith llusernau, a grëwyd fel y gallai teuluoedd barhau â thraddodiad yr oeddent yn hoff iawn ohono pan gafodd y digwyddiad yn y dref ei ganslo. Gan gario’u llusernau cartref, cerddodd y plant a’u teuluoedd gyda’i gilydd trwy’r dref. Ar y ffordd, arhosodd yr orymdaith yn y cartref gofal lleol, lle bu’r preswylwyr yn codi llaw ar y plant trwy’r ffenestri wrth iddynt basio. Bu’r preswylwyr yn edmygu golau, lliwiau a siapiau’r llusernau, a diolchon nhw i’r plant am ymweld, gan greu ennyd o lawenydd ar y cyd. Wedyn, parhaodd yr orymdaith at gloc y dref, lle ymunodd y plant â’r gymuned ehangach ar gyfer cynnau’r goleuadau Nadolig, gan orffen ag ymdeimlad o lawenydd, perthyn, a dathlu. Yn yr oriau a’r dyddiau a oedd yn dilyn, bu’r plant, y teuluoedd, a’r staff yn myfyrio ar ba mor arbennig oedd y noson. 

Mae’r profiadau hyn yn cryfhau medrau cymdeithasol ac emosiynol plant, yn ymestyn eu lles, ac yn ehangu eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. Trwy wreiddio bywyd cymunedol mewn arferion bob dydd, mae’r lleoliad yn helpu plant i ddatblygu’r hyder, y gwydnwch a’r ymdeimlad o hunaniaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Yng Nghylch Meithrin Machynlleth, mae cysylltiadau â’r gymuned yn ganolog i ethos y lleoliad, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, lles a balchder. Mae ymarferwyr yn adeiladu ar brofiadau cartref plant trwy ymweld â siopau, y farchnad, gerddi, y llyfrgell, yr eglwys a’r parc, gan annog cynefin, hyder a llythrennedd emosiynol. Mae cysylltiadau rhwng y cenedlaethau yn ffynnu yn y cartref gofal preswyl, lle mae plant yn canu, yn chwarae, ac yn ffurfio cysylltiadau diffuant gyda phreswylwyr, sy’n aml yn cynnwys aelodau o’r teulu. Mae ymweliadau â’r eglwys a gweithgareddau tymhorol yn dyfnhau dealltwriaeth o draddodiadau a gofalu am bobl eraill. Mae cyfleoedd rheolaidd, fel yr orymdaith llusernau, Diwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell, a gwaith gyda Gerddi Bro Ddyfi, yn parhau i gyfoethogi dysgu a chryfhau cysylltiadau â’r gymuned.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Caiff arfer dda yng Nghylch Meithrin Machynlleth ei rhannu ar lafar gwlad gyda theuluoedd, staff, a phartneriaid cymunedol, gan gydnabod effaith ymglymiad cymunedol ar dwf cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae cyfryngau cymdeithasol yn arddangos ymweliadau, digwyddiadau a dathliadau ymhellach, gan amlygu’r modd y mae’r profiadau hyn yn cyfoethogi dysgu a pherthyn.