Cydweithio effeithiol ar gyfer hybu’r Gymraeg yng Ngheredigion

Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol / darparwr
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion gyfanswm poblogaeth o tua 71,500. Mae cyfran sylweddol o boblogaeth y Sir, 45.6%wedi’u geni y tu allan i Gymru gyda 37.3% wedi eu geni yn Lloegr ac 8.3% wedi eu geni y tu allan i Gymru a Lloegr. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 45.3% o boblogaeth Ceredigion yn siarad Cymraeg. Mae 71.8% o’r garfan 3-15 oed yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2021). Hwn yw’r gyfran fwyaf ar draws y grwpiau oedran.
Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 14 adnodd meithrin o fewn ysgolion yn ogystal ag addysg mewn 20 cylch meithrin. Mae 36 ysgol gynradd, pedair ysgol uwchradd a un ysgol pob oed sy’n darparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 16 oed a dau ysgol pob oed sy’n darparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed. Mae’r awdurdod hefyd yn cynnal un uned cyfeirio disgyblion rhwng dau safle.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Gweledigaeth Awdurdod Lleol Ceredigion yw sicrhau bod disgyblion yn ddysgwyr dwyieithog hyderus. Mae Arolwg Lles Ceredigion yn dangos bod llawer o bobl iau yn teimlo cysylltiad cryf â’r Gymraeg a diwylliant Cymru, ynghyd ag awydd yr un mor gryf i gynnal hynny dros genedlaethau’r dyfodol.
Trosolwg o sefyllfa’r Gymraeg yng Ngheredigion
Mae’r diagram isod (Ffigur 1) yn crynhoi prosesau cynllunio strategol Cyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â’r Gymraeg a’r berthynas rhwng elfennau Corfforaethol ac Addysgiadol. Mae’r cydweithio rhwng y gwahanol elfennau yn greiddiol i ddatblygiad y Gymraeg yng Ngheredigion.
Ffigur 1: Prosesau cynllunio strategol Cyngor Sir Ceredigion – Iaith Gymraeg

Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 45.3% o boblogaeth Ceredigion yn siarad Cymraeg gyda 71.8% o’r garfan 3-15 oed yn siarad Cymraeg (Ffigur 2).
Ffigur 2: Siaradwyr Cymraeg yn ôl grwpiau oedran – Ceredigion, 2021

Ffynhonnell: SYG – Cyfrifiad 2021: Tabl TS076
Mae cyfran sylweddol o boblogaeth y Sir, 45.6%,wedi’u geni y tu allan i Gymru, 37.3% wedi eu geni yn Lloegr ac 8.3% wedi eu geni y tu allan i Gymru a Lloegr (Ffigur 3).
Ffigur 3: Gwlad Enedigol Poblogaeth Ceredigion, 2021

Ffynhonnell: SYG –Cyfrifiad 2021: Tabl TS012
Mae canlyniadau arolwg lles Ceredigion yn dangos bod llawer o bobl iau yn teimlo cysylltiad cryf â’r Gymraeg a diwylliant Cymru, ynghyd ag awydd yr un mor gryf i gynnal hynny dros genedlaethau’r dyfodol.
Proffil Ysgolion
Yn yr awdurdod ceir:
- 29 Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg (Categori 3),
- 5 Ysgol Gynradd T2,
- 3 Ysgol Gydol Oed, ( un 3P, un 3 ac un T3) a
- 4 Ysgol Uwchradd (tair T3 ac un Categori 1)
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Gweledigaeth Awdurdod Lleol Ceredigion yw sicrhau bod disgyblion yn ddysgwyr dwyieithog hyderus. Mae’r cydweithio ar draws adrannau yn gryfder ac yn galluogi cynllunio strategol er mwyn datblygu’r Gymraeg gan sicrhau ei bod yn elfen greiddiol o fyw a bod yng Ngheredigion. Ceir dwy ddogfen allweddol sy’n cyd-blethu er mwyn rhoi cyfeiriad strategol clir ac uchelgeisiol er mwyn cefnogi a datblygu’r Gymraeg sef :
- Strategaeth Hybu a Hyrwyddo – gosod nodau clir ar gyfer cynyddu defnydd a chyfleoedd i siarad y Gymraeg ar draws y sir. Rhoddir pwyslais ar gynllun fydd yn mynd i’r afael â datblygu’r Gymraeg ar draws pob agwedd o fywyd yng Ngheredigion gan ddefnyddio y bedair prif thema: Dysgu, Byw, Perthyn a Llwyddo.
- Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) – yn uchelgeisiol ac wedi pennu ffocws clir ar symud ysgolion ar hyd y continwwm a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Cytunwyd ar gategori trosiannol 2 ar gyfer 5 ysgol gynradd a gosodwyd y weithred o ymgynghori ar addasu cyfrwng Iaith y Dysgu Sylfaen yn y 5. Mae’r ALl wedi gweithredu’n gyflym ac yn rymus i gwrdd â thargedau uchelgeisiol y CSCA, a bellach mae disgyblion meithrin yr ysgolion hyn yn derbyn addysg drochi cyfrwng Cymraeg
Cefnogi Ysgolion
Mae gweithredoedd y CSCA yn llywio gwaith tîm Cefnogi’r Gymraeg Ceredigion. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
- Tîm profiadol o ymarferwyr canolog
- Tair Canolfan Iaith Cynradd er mwyn integreiddio newydd-ddyfodiaid i addysg Gymraeg
- Arwain a chydweithio gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion Trosiannol gan lunio Cynlluniau Gweithredu miniog yn sgil Categoreiddio Ysgolion
- Cefnogi Ymarferwyr Ysgolion Trosiannol mewn Methodoleg Trochi, cyd ddysgu a pharatoi adnoddau
- Cefnogi rhieni a chymuned yr ysgol wrth ddysgu Cymraeg mewn cydweithrediad â Dysgu Cymraeg Ceredigion drwy Brifysgol Aberystwyth
- Adnabod y gweithlu a’u anghenion ieithyddol personol a’u gosod ar lwybr addas o ddysgu Cymraeg
- Peilota diwygio cyfrwng iaith mewn un ysgol dwy ffrwd gan werthuso’r camau yn arfarnol
- Priodi gwaith y Siarter Iaith gyda gwaith cwricwlaidd gan benodi swyddog penodol i arwain ar y gwaith
- Llunio adnoddau safonol sy’n cefnogi blaenoriaethau lleol a chenedlaethol gan greu, lawnsio a rhannu gwefan gynhwysfawr – CÂR-DI-IAITH
- Defnydd effeithiol o Grant Trochi wedi ei dargedu er mwyn cyrraedd nodau CSCA a’r sector Uwchradd yn benodol
Cyfoethogi a Chefnogi
Cyfoethogir y ddarpariaeth addysgiadol gan ystod o bartneriaethau ond yn fwy penodol trwy Adran Ddiwylliant y Cyngor Sir sydd yn rhan o’r Gwasanaeth Ysgolion a Dysgu Gydol Oes. Mae hybu y Gymraeg a diwylliant Cymreig yn greiddiol i waith yr Adran a cheir cyd-weithio agos i hwyluso profiadau creadigol a diwylliannol, sy’n cwrdd â gofynion Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi darpariaethau megis ADY a rhieni sy’n addysgu yn y cartref.
Tabl 1: Enghreifftiau o brosiectau cyfoethogi addysgiadol
Theatr Felinfach | Gwasanaeth Cerdd | CERED |
---|---|---|
Cynllun Cynefin – uwchsgilio athrawon yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru gan ffocysu ar iaith, diwylliant a chynefin | Darpariaeth Therapi Cerdd cyfrwng Cymraeg | Cyfleoedd allgyrsiol – Theatr Fach Llandysul, Clybiau Lego, Cynllun Gohebwyr Ifanc, Gweithdai cerddoriaeth Gymraeg |
Bore da Drama/Creu yn y coed – cynllun creadigol sy’n hyrwyddo iaith a diwylliant i rieni a disgyblion sy’n addysgu gartref | Cyfleoedd perfformio a gweithdai cerddorol gan gynnwys cynllun Profiad Cyntaf yn hybu Cerddoriaeth Cymraeg a Diwylliant Cymreig | Cefnogi cynlluniau Tîm Cefnogi’r Gymraeg a’r CSCA trwy gynnig gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg/Cymreig penodol ar gyfer rhieni a theuluoedd yn yr ysgolion trosiannol |
Rhaglen o brosiectau creadigol i Ganolfannau ADY gyda phwyslais ar iaith a diwylliant | Targedu ardal Aberteifi ar gyfer perfformiadau er mwyn hybu cerddoriaeth Gymraeg i ddisgyblion Uwchradd yr ardal |
Yn ogystal:
- Cytundebau gyda phartneriaid allanol e.e. Cwmni theatr leol, y Gwasanaeth Ieuenctid, yr Urdd a Chlwb Ffermwyr Ifanc.
- Grŵp Prifio’r Gymraeg y Cyngor – yn tynnu partneriaid at ei gilydd i drafod darpariaeth all- gyrsiol Cymraeg i blant a phobl ifanc ac adnabod cyfleoedd i gydweithio
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r cydweithio ar draws adrannau yn gryfder ac yn galluogi cynllunio strategol er mwyn datblygu’r Gymraeg gan sicrhau ei bod yn elfen greiddiol o fyw a bod yng Ngheredigion.
Cyfoethogir y ddarpariaeth addysgiadol gan ystod o bartneriaethau ond yn fwy penodol trwy Adran Ddiwylliant y Cyngor Sir sydd yn rhan o’r Gwasanaeth Ysgolion a Dysgu Gydol Oes.
Mae gweithredu targedau’r CSCA wedi sicrhau darpariaeth gyson ar draws yr Awdurdod gan roi cyfle cyfartal i bob disgybl yng Ngheredigion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae canrannau disgyblion 3 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg wedi cyrraedd 100% ers Medi 2024.
Dros y bum mlynedd ddiwethaf mae 3 Canolfan Iaith y Sir wedi darparu addysg drochi hwyr-ddyfodiaid i 190 disgybl i’w galluogi i gael mynediad at addysg Gymraeg yn eu hysgolion.
O ganlyniad i ddefnydd effeithiol o Grant y Gymraeg 2050 a chefnogaeth Tîm Cefnogi’r Gymraeg mae niferoedd yr ymarferwyr ysgol sydd yn parhau ar eu siwrnai ieithyddol ers Haf 2022 fel a ganlyn:
Tabl 2: Cyrsiau Cymraeg/ ategol yn ôl nifer yr athrawon a’r cynorthwywyr (2022 ymlaen)
Cwrs | Athrawon | Cynorthwywyr |
---|---|---|
Sabothol Uwch | 5 | |
Sabothol Canolradd | 9 | |
Sabothol Sylfaen | 2 | |
Cyrsiau ategol | ||
Blas ar y Gymraeg( Lefel Mynediad) | 19 | |
Codi Hyder ( 2 ddiwrnod dwys) | 5 | 6 |
Ymwybyddiaeth Iaith | Staff cyfan 4 Ysgol Gynradd a 5 Ysgol Uwchradd/Gydol oed | |
60 awr Sylfaen gyda chefnogaeth Tiwtor | 11 | |
Codi Hyder Ymarferwyr Uwchradd -Nant Gwrtheyrn | 2 |
Yn gorfforaethol mae’r Cyngor yn darparu gwersi Cymraeg ar bob lefel i weithwyr ar draws y Cyngor yn ogystal a darparu sesiynau grŵp wedi eu teilwra i weithwyr mewn meysydd arbenigol megis Gofalwyr, Gweithwyr Hamdden ayb. Yn 2024 rhoddwyd cynllun gwersi Cymraeg penodol ar waith i Gwnselwyr plant a phobl ifanc.
Ar gyfer 2023/24 mae nifer y gwersi a ddarperir fel a ganlyn:
Lefel | Nifer |
---|---|
Mynediad – Blasu | 10 |
Mynediad | 24 |
Sylfaen | 13 |
Canolradd | 15 |
Uwch 1 | 7 |
Uwch 2 | 5 |
Uwch 3 | 5 |
CYFANSWM | 79 |
Mesur Effaith: Adborth a dderbyniwyd
Diwylliant
“It was creative, fun, brilliant introduction to Welsh. Variety of activities.” (Theatr Felinfach- Cynllun i rieni sy’n addysgu adref – Adborth Rhiant) | “I like that all the teachers are there because it’s fun and I like how they help us to learn Welsh. One of the things I liked best of all the activities was the story about the giant.” (Theatr Felinfach- Cynllun i rieni sy’n addysgu adref – Adborth Disgybl) |
“Rydym yn defnyddio’r Gymraeg yma i ymarfer ac ysbrydoli ein gilydd. Mae’n brofiad arbennig i ni fel teulu.” (Clwb Lego Cered- Adborth Rhiant) | “Mae drama’n gwneud i fi deimlo fel superhero, mae’n helpu gyda fy nerfau ac yn gwneud fi’n fwy hyderus i siarad Cymraeg!” (Theatr Fach CERED – Adborth disgybl) |
“Yr uchafbwynt oedd gweld y plant yn perfformio ar y p-buzz yn hyderus yn ystod yr Eisteddfod ac yn ystod achlysur Cawl a Chan.” (Cynllun Profiad Cyntaf Cerdd – Adborth Athro) | “Mae’r cynllun yma wedi bod yn antur newydd i ni o ran y Gwasanaeth ADY yng Ngheredigion, ac mae’n sicr yn sylfaen gadarn ar gyfer gwaith y dyfodol.” (Cynllun ADY Theatr Felinfach – Adborth Athro) |
“Ardderchog, bywiog, creadigol a chwbl gymwys” (Cynllun ADY Theatr Felinfach – Adborth Athro) | “It’s great that my children pick up the Welsh language before they start Meithrin and it’s a safe place for me to hear Welsh being spoken and to ymarfer my Cymraeg without feeling anxious or worried about making a mistake” (Clwb Tic Toc Theatr Felinfach – Adborth rhiant) |
Addysg
“Mae’r disgyblion i gyd yn fwy hyderus wrth ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg ac mae eu patrymau brawddegol wedi gwella llawer.” (Canolfannau Iaith – Adborth Pennaeth) | “My daughter reads better and faster, her vocabulary has expanded … And is not afraid to communicate.” (Canolfannau Iaith – Adborth Rhiant) |
“I feel extremely lucky to have had this support for my family and it far exceeded my expectations . The benefit of this course was immeasurable . The small group , supportive environment and dedication of the staff was amazing . I don’t know how to thank you enough.” (Canolfannau Iaith – Adborth Rhiant) | “I feel like a proper Welsh speaker.” (PYPC – Gemau Buarth – Adborth Disgybl) |
“Happy and surprised because when I came I thought that I would never be able to speak Welsh…but now I feel I could speak to someone fluently and understand what they are saying.” (PYPC – Gemau Buarth – Adborth Disgybl) | “Mae hwn yn rili cŵl miss, ni mynd i rhoi Tregaron ar y map!” (Hac y Gymraeg – Ysgol Henry Richard– Adborth Disgybl) |
“Rydw i’n hapus iawn bod ni wedi cael gwneud tudalen ar gyfer y stori gadwyn, ni yn awduron. Roedd y lawnsiad yn hwyl. Mae llyfrau yn gallu dysgu llawer i ti ond nawr dwi’n teimlo bod fi’n gallu creu llyfrau hefyd! Dwi’n mynd i gofio’r diwrnod yma am byth.” (Bant a Ni – Seren a Sbarc – Adborth Disgybl) | “Mae’r dyddiau trochi yn helpu gan ei fod yn rhoi llawer o weithgareddau i ni ddefnyddio yn y dosbarth, ac mae llawer o syniadau da.” (Rhwydwaith Datblygu Ysgolion Trosiannol T2- Adborth Athro) |
“Un o brif effeithiau y weithgaredd oedd yr effaith a gafwyd ar unigolyn penodol. Mae XXXX yn dod o Bakistan yn wreiddiol ac wedi symud i Aberystwyth gan fod eu rhieni yn gweithio yn yr Ysbyty. Doedd XXXX cyn y weithgaredd ddim yn meddwl fod y Gymraeg yn berthnasol iddo nac o fawr ddiddordeb. Fodd bynnag wrth i Ameer siarad am ei berthynas ef a’r Gymraeg a’r ffaith ei fod wedi medru cyfathrebu gyda XXXXX yn ei famiaith, gwelwyd newid agwedd sylweddol a dywedodd XXXX “He’s just like me, and he can speak Welsh” Ers y weithgaredd mae XXXX yn sylweddoli bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac yn fwy parod i ddysgu mwy ac i ddefnyddio y Gymraeg sydd ganddo.” (Digwyddiad “1 miliwn o siaradwyr” – Ysgol Plascrug) |