Cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol - Estyn

Cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol

Arfer effeithiol

Bishopston Comprehensive School

Dau athro yn cerdded ac yn sgwrsio y tu allan i adeilad ysgol ar ddiwrnod heulog

Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr 

Mae Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11 i 16 sydd wedi’i lleoli ym Mro Gŵyr ger Abertawe. Mae 1128 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 6.12% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf, a daw’r rhan fwyaf ohonynt o gefndir gwyn Prydeinig. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yw 19.5%. Mae cyfleuster addysgu arbenigol (CAA) Llandeilo Ferwallt yn cefnogi disgyblion ag anawsterau lleferydd, cyfathrebu ac iaith. Yn ychwanegol, mae mwyafrif y disgyblion sy’n mynychu’r CAA wedi cael diagnosis o awtistiaeth. 

Mae strwythur arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys tîm o arweinwyr canol sydd â chyfrifoldeb am feysydd medrau allweddol, yn cynnwys llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, creadigrwydd, medrau corfforol a medrau metawybyddol. Mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn blaenoriaethu cydweithio, cysondeb, a gwelliant parhaus mewn addysgu a dysgu. Mae cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer medrau, dan arweiniad y Dirprwy Bennaeth, yn sicrhau ymagwedd amlhaen at sicrhau ansawdd, hunanwerthuso ac arfer effeithiol ar y cyd, sy’n cefnogi datblygiad medrau ar draws y cwricwlwm.  

Mae staff addysgu yn cydweithio i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm sy’n cefnogi datblygu medrau disgyblion yn raddol. Caiff hyn ei gydlynu’n ofalus ar draws yr holl bynciau fel bod llawer o gyfleoedd cyfoethog ar gyfer disgyblion, gan gynnwys disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a disgyblion yn y CAA, i ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer 

Fel rhan o drefn barhaus yr ysgol ar gyfer hunanwerthuso a datblygu’r cwricwlwm, nododd arweinwyr fod angen cryfhau cysondeb a dilyniant yn y ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm. Roedd gweithgareddau monitro mewnol rheolaidd, yn cynnwys edrych ar lyfrau, arsylwadau gwersi a theithiau dysgu, yn amlygu amrywioldeb o ran addysgu medrau. I ymateb i hynny, datblygodd arweinwyr ymagwedd strwythuredig at sicrhau ansawdd a dysgu proffesiynol, gyda ffocws ar gydweithio rhwng cymheiriaid ac arweinwyr canol. Y nod oedd sicrhau bod pob un o’r staff yn meddu ar ddealltwriaeth ar y cyd o fedrau, disgwyliadau uchel ar gyfer pob un o’r disgyblion a mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer addysgu ac asesu medrau. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei bod/ei fod yn arfer effeithiol neu arloesol 

Archwiliwyd darpariaeth gan gydlynwyr medrau ar draws y cwricwlwm. Galluogodd hyn yr ysgol i nodi cryfderau allweddol a meysydd i’w datblygu. Wedyn, rhannodd cydlynwyr medrau’r cryfderau allweddol a’r meysydd allweddol i’w datblygu gyda phob un o’r staff fel rhan o’r cynllun dysgu proffesiynol. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys pob un o’r staff, adrannau unigol ac athrawon unigol. Wrth archwilio medrau digidol, cydnabuwyd nad aethpwyd i’r afael â ‘hawlfraint’ ym meysydd y cwricwlwm lle credid y gallai ychwanegu gwerth sylweddol at ddealltwriaeth disgyblion. Roedd arweinwyr y celfyddydau mynegiannol yn credu ei bod yn bwysig fod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o oblygiadau hawlfraint gan fod ymwybyddiaeth o hawlfraint ar gyfer artistiaid a cherddorion, er enghraifft gallu gwarchod hawliau unigolion ac atal heriau cyfreithiol. Mae cydlynu medrau digidol yn effeithiol bellach wedi arwain at ddysgu dilys gwell yng nghwricwlwm y celfyddydau mynegiannol. 

Mae hunanwerthuso rheolaidd yn sicrhau bod meysydd cryfder ar draws y cwricwlwm a meysydd ffocws ysgol gyfan ar gyfer gwella yn cael eu nodi’n barhaus. Er enghraifft, canolbwyntiodd un daith ddysgu llythrennedd ar addysgu geirfa yn eglur ar draws cyfnodau allweddol, yn dilyn dysgu proffesiynol mewn HMS. Mae arweinwyr medrau yn defnyddio arsylwi ar y cyd, bwrw golwg ar lyfrau a ffurflen adrodd ar fedrau i gofnodi tystiolaeth o arfer effeithiol, ymgysylltu â disgyblion a chymhwyso medrau. 

Ar ôl pob taith ddysgu a sesiwn bwrw golwg ar lyfrau, mae staff yn cymryd rhan mewn trafodaethau myfyriol wedi’u hwyluso gan yr arweinydd canol. Mae’r sesiynau hyn yn ddatblygiadol ac nid ydynt yn feirniadol, gyda phwyslais ar rannu strategaethau a nodi meysydd i’w datblygu ymhellach. Caiff deilliannau o’r teithiau dysgu eu crynhoi a’u rhannu gyda phob un o’r staff i lywio cynllunio a datblygiad proffesiynol. 

Yn ychwanegol, mae’r arweinwyr medrau yn darparu sesiynau dysgu proffesiynol â ffocws yn gysylltiedig â chanfyddiadau ‘medrau’. Er enghraifft, cyflwynwyd sesiwn graffiau trwy ddilyn taith ddysgu rhifedd a oedd yn nodi anghysondebau yn nefnydd disgyblion o graffiau. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwyd arddangosiadau ymarferol, cynllunio ar y cyd a rhannu strategaethau addysgu a dysgu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar ddeilliannau ar gyfer dysgwyr a/neu’u teuluoedd? 

Mae cydlynu medrau, gweithredu’r calendr sicrhau ansawdd a’r strategaeth dysgu medrau dan arweiniad cymheiriaid wedi arwain at welliannau yng nghysondeb ac ansawdd addysgu medrau a deilliannau disgyblion. Mae pob un o’r staff addysgu yn cydweithio i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm sy’n cefnogi datblygu medrau disgyblion yn raddol. Caiff hyn ei gydlynu’n ofalus ar draws pob pwnc fel bod llawer o gyfleoedd cyfoethog i ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion ag ADY a disgyblion yn y CAA, ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm.  

Bu gwelliant ym medrau llythrennedd, rhifedd a FfCD disgyblion yn CA3 a CA4 o ganlyniad i waith y cydlynwyr. Ceir tystiolaeth o hyn wrth fwrw golwg ar lyfrau, data deilliannau CA3 a CA4, teithiau dysgu ac arsylwadau gwersi. 

Erbyn hyn, mae gan staff hyder gwell o ran datblygu medrau disgyblion, a bu gwelliant o ran cysondeb yn y ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau ar draws pob grŵp blwyddyn yn sgil tystiolaeth o fwrw golwg ar lyfrau / teithiau dysgu. Mae’r strategaeth dan arweiniad cymheiriaid wedi cryfhau cydweithio proffesiynol. Mae staff yn gwerthfawrogi’r cyfle i arsylwi arfer ei gilydd a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol fyfyriol. Mae rôl arweinwyr canol wedi bod yn allweddol o ran cydlynu’r ymdrechion hyn a sicrhau bod canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lywio gwelliant ysgol gyfan yn barhaus. Mae arweinwyr yn bwriadu datblygu rôl disgyblion ymhellach yn y broses werthuso.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae rhannu arfer dda yn rheolaidd mewn HMS ysgol gyfan wedi bod yn allweddol i fodel llwyddiannus cydlynu medrau dan arweiniad cymheiriaid. Yn ychwanegol, mae cydlynwyr wedi gweithio gydag ysgolion cynradd lleol i sicrhau datblygiad dilyniant medrau ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae arfer effeithiol wedi cael ei rhannu trwy gymunedau dysgu proffesiynol yr awdurdod lleol. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn