Cwricwlwm iechyd a lles a darpariaeth ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol disgyblion

Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gyfun Bryntirion yn ysgol cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11-18 oed, a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi’i lleoli ar ochr orllewinol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae arwyddair yr ysgol, “Dysgwn Sut i Fyw”, yn cwmpasu’r gwerthoedd traddodiadol sy’n ysbrydoli’r disgyblion – dysgu gyda’n gilydd, trwy gydbarch a pherthnasoedd cadarnhaol sydd wedi’u hadeiladu ar ymddiriedaeth a chefnogaeth.
Mae 1,246 o fyfyrwyr ar y gofrestr, gan gynnwys 204 yn y chweched dosbarth. Mae bron pob un o’r myfyrwyr yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Mae canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tuag 16.8%, ar gyfartaledd, dros y tair blynedd diwethaf, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Canran y disgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol yw 3%.
Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth (UDRh) yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, pedwar pennaeth cynorthwyol a rheolwr busnes.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Yn Ysgol Gyfun Bryntirion, caiff datblygiad personol a chymdeithasol ei feithrin trwy ystod o strategaethau sydd wedi’u cynllunio’n ofalus ac mae’r cwricwlwm Iechyd a Lles yn chwarae rôl sylweddol yn y broses hon. Mae’r tîm arweinyddiaeth yn sicrhau bod pob grŵp blwyddyn yn cael gwersi ABaCh ac Iechyd a Lles ar yr amserlen, sy’n cefnogi cyflwyniad themâu allweddol mewn modd strwythuredig a chyson ar draws yr ysgol.
Caiff gwersi Iechyd a Lles eu cyflwyno gan athrawon arbenigol dynodedig sy’n arweinwyr ac arbenigwyr cydnabyddedig mewn ABaCh ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae’r athrawon hyn yn addysgu ar draws pob grŵp blwyddyn, yn archwilio cynnwys y cwricwlwm, yn cefnogi ac yn hyfforddi staff ac yn sicrhau cysondeb o ran geirfa a chyfleu negeseuon iechyd hanfodol. Er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion disgyblion, mae arweinwyr yn y maes hwn yn ymgymryd ag ymchwil sy’n seiliedig ar arfer ac yn cydweithio’n agos â thimau bugeiliol a diogelu. Mae hyn yn sicrhau bod dylunio gwersi a dewis adnoddau yn adlewyrchu cyd-destun yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Mae data lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gwybodaeth gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn llywio cynllunio’r cwricwlwm i greu profiad dysgu dilys ac ystyrlon. Mae barn disgyblion yn chwarae rôl hollbwysig wrth lunio cwricwlwm myfyriol sy’n esblygu yn unol ag anghenion a safbwyntiau myfyrwyr.
Mae cyfathrebu a chydweithio effeithiol â rhieni a gofalwyr yn hanfodol o ran cyflwyno’r cwricwlwm yn effeithiol. Er enghraifft, pan fydd pynciau sensitif wedi’u trefnu, mae rhieni’n cael gwybod ymlaen llaw ac yn cael adnoddau perthnasol. Caiff cyfarfodydd eu cynnal hefyd i fynd i’r afael â chwestiynau neu bryderon, gan sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth cyson gartref ac yn yr ysgol.
Elfen allweddol wrth lunio darpariaeth ehangach yr ysgol ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol fu casglu adborth helaeth gan ddisgyblion a staff, sydd wedi helpu i sefydlu dull ysgol gyfan cyson ac effeithiol. Mewn partneriaeth â chymuned ehangach yr ysgol, cyflwynodd yr ysgol y llinyn ‘Be Successful’, yn rhan o weledigaeth gyffredinol ‘Be Bryntirion’ – ochr yn ochr â’r disgwyliadau craidd: ‘Be Ready’, ‘Be Respectful’ a ‘Be Safe’. Mae meini prawf ‘Be Successful’ yn ffurfio sylfaen datblygiad personol a chymdeithasol o fewn ethos ehangach yr ysgol. Mae’r weledigaeth hon yn cael ei hadlewyrchu trwy ffocws thematig a gwasanaethau ysgol gyfan, sydd â’r nod o feithrin unigolion hyderus, cydnerth a myfyriol trwy roi lles disgyblion wrth wraidd pob arfer. Mae amser cofrestru wedi’i strwythuro’n strategol i gefnogi’r weledigaeth hon, gan gynnwys rhaglen wedi’i dylunio’n ofalus sy’n cynnwys mentrau fel ‘Let’s Talk Tuesday’ a ‘Well-being Wednesday’. Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau lles, archwilio materion cymdeithasol pwysig a chymryd rhan mewn trafodaethau agored ac ystyrlon.
Nodwyd arweinyddiaeth disgyblion yn flaenoriaeth allweddol yng nghynllun datblygu’r ysgol. Mae proses ymgeisio a dethol gynhwysol a difyr yn annog pob disgybl i gymryd rhan mewn rolau arweinyddiaeth. Mae cyngor yr ysgol, a sefydlwyd ac yn cael ei arwain gan ddisgyblion, wedi’i drefnu’n is-bwyllgorau sy’n canolbwyntio ar agweddau amrywiol ar fywyd yr ysgol. Mae’r strwythur hwn yn grymuso disgyblion i chwarae rôl weithredol mewn ysgogi gwelliant yn yr ysgol a’r gymuned ehangach. I ategu hyn a sicrhau cyfleoedd i bob disgybl, mae’r ysgol hefyd yn cynnig ystod o grwpiau strategol, gan gynnwys y Bwrdd Diogelu Iau, Arweinwyr Lles, Criw Cymraeg a Llysgenhadon Pwnc. Mae pob grŵp yn pennu ei flaenoriaethau ei hun ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ac mae cynnydd yn cael ei fonitro a’i werthuso drwyddi draw. Mae’r dull hwn yn galluogi disgyblion i gael effaith bwrpasol a mesuradwy ar wella’r ysgol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r ymagwedd strategol a strwythuredig tuag at ddatblygiad personol a chymdeithasol yn Ysgol Gyfun Bryntirion wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau disgyblion. Mae archwiliadau’r cwricwlwm a hyfforddiant staff wedi cefnogi geirfa a dull cytûn, gan godi safon gyffredinol yr addysgu a’r dysgu yn y maes hwn. Mae defnyddio athro arbenigol wedi sicrhau y caiff addysg Iechyd a Lles ei chyflwyno mewn modd cyson, o ansawdd uchel ar draws pob grŵp blwyddyn.
Mae’r cwricwlwm yn parhau’n berthnasol ac yn ymatebol i anghenion disgyblion trwy ddefnyddio barn disgyblion yn rheolaidd, dadansoddi data lleol a chenedlaethol a chydweithio’n agos â thimau bugeiliol a diogelu. Mae hyn wedi arwain at ddysgwyr mwy ymgysylltiedig a myfyriol, sy’n gallu cysylltu eu dysgu â phrofiadau go iawn. Mae mentrau fel ‘Let’s Talk Tuesday’ a ‘Well-being Wednesday’ yn darparu cyfleoedd strwythuredig i ddisgyblion archwilio materion cymdeithasol allweddol, datblygu llythrennedd emosiynol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl, corfforol ac emosiynol. O ganlyniad, mae lles disgyblion wedi cryfhau’n sylweddol.
Mae ymgysylltu â disgyblion a’u grymuso hefyd wedi gwella trwy ymrwymiad yr ysgol i arweinyddiaeth disgyblion. Trwy’r cyngor ysgol ac ystod o grwpiau strategol, caiff disgyblion rolau ystyrlon mewn llunio bywyd yr ysgol. Mae hyn yn annog hyder, cyfrifoldeb a dinasyddiaeth weithredol, wrth feithrin ymdeimlad cryf o falchder a pherthyn yng nghymuned yr ysgol.
Mae cyfathrebu agored yr ysgol â rhieni, yn enwedig ynghylch pynciau sensitif, wedi cryfhau partneriaethau rhwng y cartref a’r ysgol, gan helpu i sicrhau y caiff disgyblion gefnogaeth gyson y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Ar ben hynny, mae integreiddio gweledigaeth ‘Be Bryntirion’—yn enwedig y llinyn ‘Be Successful’—wedi cyfrannu at ddiwylliant ysgol cadarnhaol sydd wedi’i ymwreiddio mewn gwerthoedd a disgwyliadau cytûn. Mae’r ethos hwn wedi’i adlewyrchu mewn ymddygiad gwell gan ddisgyblion, perthnasoedd cryfach ac amgylchedd dysgu mwy cynhwysol a pharchus.
At ei gilydd, mae’r gwaith hwn wedi arwain at les cryfach ymhlith disgyblion, lefelau uwch o ymgysylltiad a datblygiad personol a chymdeithasol gwell. Mae disgyblion wedi’u harfogi’n well â’r hyder, medrau a’r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr ysgol a’r tu hwnt.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi hybu ei harferion yn weithredol yn lleol trwy gylchlythyr yr ysgol, cyfarfodydd llywodraethwyr, gwasanaethau penodedig, ymgysylltu trwy gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu rheolaidd â rhieni. Yn genedlaethol, mae’r ysgol wedi rhannu agweddau ar ei dull trwy flogiau ac erthyglau, wedi ymddangos mewn sawl podlediad ac wedi cyfrannu at ymchwiliadau’r BBC i faterion cyfredol yn ymwneud ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.