Cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol. - Estyn

Cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Arfer effeithiol

Standing To Grow Playgroup

Oedolion yn goruchwylio plant yn chwarae gyda theganau mewn ystafell ddosbarth cyn-ysgol fywiog.

Gwybodaeth am y lleoliad 

 Mae Standing to Grow yn lleoliad gofal dydd sesiynol sydd wedi cofrestru i ddarparu gofal plant ac addysg i 32 o blant yn ddyddiol. Mae’r lleoliad wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Ar hyn o bryd, mae gan y lleoliad 53 o blant. Mae 17 o’r rhain yn cael cyllid addysg, gan gynnwys pump o blant sy’n cael y pecyn cymorth addysg 12 awr ac un sy’n cael 10 awr o gymorth ychwanegol, bob un ohonynt â Chynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae’r lleoliad mewn pentref cymunedol bach ac mae’r plant yn symud i naw ysgol wahanol o hyd at 10 milltir i ffwrdd. Saesneg yw iaith gyntaf yr holl blant gartref, ond mae Standing to Grow yn cyflwyno’r Gymraeg a Makaton i’w holl blant.   

Gweledigaeth y lleoliad yw cynnig gofal o’r ansawdd gorau am gost fforddiadwy i deuluoedd. Mae’r lleoliad yn gynhwysol ac yn sensitif i ddymuniadau ac anghenion pawb. Mae ymarferwyr yn darparu byrbryd am ddim i’r holl blant ac yn cynnig polisi drws agored i’r holl rieni / gwarcheidwaid.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae Standing To Grow wedi’i leoli mewn un ystafell fawr, sydd wedi’i rhannu’n dair ardal ar wahân i sicrhau bod holl ddymuniadau ac anghenion yr holl blant yn cael eu bodloni, ac mae’r holl adnoddau wedi’u teilwra i fodloni oedran a chyfnod pob plentyn. Mae ardal y Gwenyn yn un ardal. Dyma ofod tawelach llawn adnoddau synhwyraidd i fodloni anghenion a sgemâu plant unigol. Mae yno ffrâm ddringo, cadair droi, cadair siglo, chwarae meddal a bwrdd gweithgareddau ar y wal a ddefnyddir i helpu plant â rheoleiddio. Mae tîm o dri aelod staff wedi’u lleoli yn yr ardal hon bob dydd. Mae staff yn gyfrifol am ddarparu cymorth ychwanegol i blant unigol ac maent yn cynllunio gweithgareddau sydd wedi’u teilwra i CDUau a thargedau plant unigol. Mae ymarferwyr yn casglu’r wybodaeth hon o arsylwadau dyddiol, asesiadau Wellcomm a Threfniadau Asesu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir. Mae’r un gweithwyr allweddol â phrofiad a gwybodaeth sylweddol yn cefnogi plant yn ôl eu hanghenion datblygu cyfannol. Mae’r gweithwyr allweddol yn ardal y Gwenyn wrth law bob amser i gynorthwyo ymarferwyr eraill i ddatblygu iaith a dealltwriaeth gyffredin o ran sut i gefnogi anghenion unigol plant orau. Gall hyn fod trwy gymorth â gwybodaeth a safbwyntiau damcaniaethol, neu drwy syniadau a strategaethau ymarferol i gefnogi plant pan fyddant yn dewis mynd i’r brif ystafell chwarae. Mae staff yn teilwra’r ymyriadau a’r dysgu a chwarae sydd wedi’u hysgogi gan oedolion a’u harwain gan y plant. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Mae’r tîm yn cydnabod bod llawer o blant yn dod i’r lleoliad gydag anghenion sy’n dechrau dod i’r amlwg, anghenion ymddygiad, anghenion synhwyraidd ac oedi o ran iaith a lleferydd. Sefydlodd ymarferwyr ardal y Gwenyn i gefnogi pob plentyn, yn ôl yr angen. Mae ardal y Gwenyn yn ardal lai, i’r naill ochr i brif ystafell chwarae’r lleoliad. Mae’r grŵp chwarae yn rhoi rhwydd hynt i symud, gyda’r holl blant yn gallu defnyddio ystafell y Gwenyn os byddant yn dymuno. Mae’r ardal o fewn golwg y brif ystafell chwarae drwy’r adeg, felly gall plant barhau i weld eu cyfoedion ac arferion y brif ystafell chwarae. Fodd bynnag, mae ymarferwyr yn sylwi ei bod hi’n well gan blant â CDUau dreulio amser yn yr ardal hon a’u bod yn setlo’n dda i arferion dyddiol. Mae’r plant yn cael amser i archwilio a datblygu mewn ffordd sy’n briodol i oedran a chyfnod. Nid oes brys o ran y ffordd mae plant yn cael cymorth i ddatblygu. Mae’r plant yn cael cyfleoedd o hyd i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau chwarae a dysgu, y tu mewn a’r tu allan, y mae’r lleoliad yn eu darparu i’r holl blant. Mae ymarferwyr yn addasu eu dulliau yn ôl anghenion plant unigol ac maent yn annog ac yn cefnogi eu hyder a’u dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?  

Mae gan y lleoliad enghreifftiau grymus o blant yn trosglwyddo i ysgol arbennig leol gyda chymaint yn fwy o fedrau bywyd a ddatblygwyd gyda Standing to Grow. Roedd plentyn yn ddibynnol ar ddefnyddio cadair wthio pan gafodd ei drosglwyddo. Ar ôl defnyddio cadeiriau gwthio yn unig i gludo rhai o’n plant i’r awyr agored, trafododd ymarferwyr â rhieni y byddent yn dechrau heb gadair wthio ac yn defnyddio cadair siglo plentyn yn lle hynny i’w cynorthwyo â rheoleiddio. Flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl defnyddio’r un drefn, gweithgareddau a gwrthrychau go iawn i annog cyfathrebu a dealltwriaeth, mae plant yn eistedd yn y gadair siglo dim ond pan fydd angen iddynt reoleiddio. Maent yn gadael y gadair ac yn archwilio’r amgylchedd. Maent yn deall mai’r lliain bwrdd yw arwydd y ‘gwrthrych go iawn’ ar gyfer amser byrbryd ac yn eistedd wrth y bwrdd i fwyta’u byrbryd eu hunain wrth ymyl ffrindiau. Maent yn cerdded i mewn ac allan o’r grŵp chwarae, gan gwrdd â’u rhieni wrth y drws. Mae ymarferwyr o’r farn bod hyn yn gynnydd arwyddocaol iawn ac mae rhieni’n rhannu sut mae ein gwaith yn cefnogi eu harferion gartref. 

Mae plant yn dysgu eu bod yn gallu mynd i ystafell y Gwenyn pan fydd pethau wedi mynd yn ormod iddynt, i reoleiddio, a mynd yn ôl at eu ffrindiau yn eu hamser eu hunain. I ddechrau, roedd staff yn eu helpu i adnabod eu hemosiynau, ond ar ôl blwyddyn, maen nhw nawr yn adnabod eu hunain pan mae angen iddynt fynd i ystafell y Gwenyn.  

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda? 

Mae’r lleoliad yn rhannu ei waith gyda thîm cynghori’r awdurdod lleol ac mae’n cael ymwelwyr yn rheolaidd sy’n arsylwi ac yn rhoi sylwadau am y ffordd gadarnhaol y mae plant yn datblygu trwy’r cymorth a’r profiadau a gânt yn y lleoliad.