Cefnogaeth y bartneriaeth i les myfyrwyr - Estyn

Cefnogaeth y bartneriaeth i les myfyrwyr

Arfer effeithiol

Swansea University Schools’ Partnership

Myfyriwr sy'n cymryd rhan mewn cyfarfod rhithwir, gan ddefnyddio clustffonau a gweithio ar liniadur mewn lleoliad cartref.

Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr 

Mae Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cynnwys Prifysgol Abertawe, 14 prif ysgol a 50 o ysgolion rhwydwaith ar draws de a gorllewin Cymru. Yn y brifysgol, mae’r bartneriaeth wedi’i lleoli yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.  

Mae’r bartneriaeth yn darparu dwy raglen. Achredwyd y rhaglen TAR Uwchradd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn 2020 i gynnig naw pwnc: bioleg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg, dylunio a thechnoleg, Saesneg, mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern, a’r Gymraeg. Yn dilyn achredu, dechreuodd y rhaglen TAR Cynradd yn 2022. 

Mae’r ddwy raglen TAR yn gyrsiau blwyddyn amser llawn. Cynigir y rhaglen gynradd a holl lwybrau pwnc y rhaglen uwchradd gydag opsiynau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Fe wnaeth Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) flaenoriaethu lles myfyrwyr a staff pan gyflwynwyd y rhaglenni TAR uwchradd a chynradd yn 2020 a 2022, yn y drefn honno. Diben moesol PYPA oedd creu cymuned ddiogel, gynhwysol a chefnogol wrth i’r bartneriaeth addasu i ‘normal newydd’ yn sgil pandemig COVID-19. Roedd hyn yn golygu ystyried a gwreiddio lles ym mhob agwedd ar gynllunio rhaglenni. Er enghraifft, adeiladodd arweinwyr ar fuddion dysgu o bell trwy gynllunio sesiynau ar-lein yn ystod ‘Dydd Mercher Lles’. Fe wnaeth hyn helpu myfyrwyr i reoli cydbwysedd rhwng astudio a bywyd gartref, a lleihaodd eu treuliau teithio.

Ystyriodd timau’r rhaglenni oblygiadau ymarferol pob elfen o’r rhaglen. Cafodd calendr o ddigwyddiadau cyn y rhaglen, sefydlu, yn ystod y rhaglen a digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr er mwyn cefnogi lles myfyrwyr ei adeiladu ar y cyd â phartneriaid mewn ysgolion a rhanddeiliaid eraill. I sicrhau bod lles a’r gymuned yn cael eu blaenoriaethu, gosodwyd y dyddiadau cychwyn dair wythnos cyn y rhaglenni israddedig. Fe wnaeth hyn alluogi myfyrwyr TAR i ymgynefino mewn amgylchedd tawelach ar y campws, cael lleoedd parcio’n haws, elwa o fannau addysgu arbenigol, fel labordai gwyddoniaeth, ac ymgyfarwyddo â’r campws. Gwnaed ymdrechion i liniaru adegau straen posibl, er enghraifft o ran natur, amseru a nifer yr aseiniadau y mae eu hangen, er mwyn cefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Datblygwyd ffeithluniau defnyddiol i grynhoi a rhannu negeseuon allweddol am gynnal lles personol ar draws y bartneriaeth. Yn anad dim, rhoddwyd pwyslais cadarn ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol, gan wybod eu pwysigrwydd mewn rhaglenni AGA llwyddiannus (Tabberer, 2013).

Yn ystod lleoliadau ysgol, aeth arweinwyr y bartneriaeth ati i wella’r perthnasoedd hyn trwy ddeialog rhwng athrawon dan hyfforddiant a staff, gan leihau teimladau unigedd myfyrwyr a chynnal ymdeimlad o gymuned. Felly, cyd-gynlluniwyd rhaglen o 10 Diwrnod Ymarfer a Theori i sicrhau y gallai cymheiriaid, tiwtoriaid a phartneriaid ysgol ddod ynghyd mewn amrywiol leoliadau addysgol i drafod themâu penodol, fel mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’u heffaith ar les plant.

Buddsoddodd arweinwyr y Brifysgol yn strategol mewn adnoddau i gefnogi lles athrawon dan hyfforddiant. Adeiladwyd dwy ystafell ddosbarth arsylwi arloesol, sydd wedi galluogi myfyrwyr cynradd i wylio athrawon profiadol ac ymarfer eu haddysgu eu hunain mewn amgylchedd diogel, heb feirniadaeth. O ganlyniad, dywed myfyrwyr fod ganddynt fwy o hyder. Hefyd, paratowyd labordai ar gyfer arbenigwyr gwyddoniaeth TAR uwchradd, adnodd sy’n unigryw yng Nghymru.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ymagwedd holistig y bartneriaeth at les (Ffigur 1) wedi cael effaith gadarnhaol, sydd i’w gweld yng nghynnydd a deilliannau myfyrwyr. Ers dechrau’r rhaglenni, mae myfyrwyr wedi datgan bod cymorth yn y brifysgol a’r ysgol ar gyfer eu lles yn gadarn.

Ffigur 1

Mae lles cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr wedi elwa o nifer o arloesiadau, ynghyd â threfniadau confensiynol ar draws y Brifysgol, fel tiwtorialau personol a mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol. Penodwyd arbenigwyr pwnc a chyfnod a Chydlynydd Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod lles academaidd myfyrwyr wedi’i gefnogi’n llawn. Er enghraifft, mae’r Cydlynydd Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn arwain sesiynau Clwb Cymraeg, lle mae myfyrwyr cynradd yn cymdeithasu’n anffurfiol trwy wneud pancos neu chwarae cardiau dros ginio. Mae amrywiaeth o arferion yn cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr, fel ymwybyddiaeth ofalgar a sgyrsiau agored ynghylch rheoli llwyth gwaith trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn synhwyrol i helpu cynllunio gwersi. Hefyd, dywed myfyrwyr bod cymryd rhan mewn sesiynau’n cynnwys cŵn lles, sef arloesiad cenedlaethol yn y sector, yn gostwng eu lefelau straen.

Ymhlith yr arfer effeithiol sy’n ategu lles academaidd myfyrwyr y mae darparu adborth ffurfiannol ar eu prosiectau ymchwil. Caiff myfyrwyr uwchradd sylwadau adeiladol gan diwtoriaid, cymheiriaid a phartneriaid ysgol yn ystod cyflwyniadau i’r rhwydwaith ysgolion. Mae plant ac athrawon ymhlith y rhai sy’n cynnig adborth i helpu myfyrwyr cynradd i wella’u posteri ymchwil.  Arloesiad sector cyfan yw’r cyfle i fyfyrwyr cynradd ddiwygio aseiniad eu portffolio terfynol, ar sail graddau dangosol, cyn y cyflwyniad terfynol. Mae hyn wedi cynyddu eu sylw i adborth yn sylweddol ac mae wedi arwain at gyfran uwch o ddyfarniadau teilyngdod a rhagoriaeth ym marciau terfynol yr aseiniad. Mae diddordebau ymchwil y myfyrwyr eu hunain mewn lles wedi cael effaith gadarnhaol yn yr ysgol, er enghraifft trwy lywio polisïau iechyd a ffitrwydd a gwerthuso rhaglenni penodol.

Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r trefniadau lleoli sy’n ystyried eu hanghenion ac sy’n lleihau pryder naturiol, fel cyfarfodydd rhagarweiniol gyda mentoriaid cyn ymweliadau ag ysgolion. Yn ystod lleoliadau, defnyddir amrywiol fesurau i fonitro lles myfyrwyr trwy gyfathrebu rheolaidd, gan gynnwys sesiynau galw heibio ar-lein wythnosol, cyfarfodydd mentoriaid a bwletinau sy’n sicrhau bod negeseuon craidd yn cael eu rhannu gyda phawb. Pan fydd angen, mae cynlluniau’n darparu cymorth wedi’i bersonoleiddio.

Caiff effaith gyffredinol cefnogaeth y bartneriaeth ar gyfer lles ei hadlewyrchu yn adborth myfyrwyr a mentoriaid, a gwobrau addysgu’r brifysgol gyfan i’r tîm cynradd yn 2023 a’r tîm uwchradd yn 2024.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Caiff arfer effeithiol wrth gefnogi lles athrawon dan hyfforddiant ei rhannu ar draws y Brifysgol a thu hwnt yn rheolaidd. Cynhelir cyfarfodydd misol lle mae’r timau cynradd ac uwchradd yn cyfnewid syniadau mewn meysydd fel dylunio arolygon lles. Lle bo’n briodol, caiff ymarfer ei rannu hefyd mewn cyfarfodydd adrannol, cyfadran a phrifysgol gyfan. Er enghraifft, mae cydweithwyr cynradd ac uwchradd wedi rhoi cyflwyniadau yng Nghynhadledd flynyddol Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe ar amrywiaeth o agweddau at gefnogi lles myfyrwyr cyflwyno.

Mae cynhadledd flynyddol yr adran, y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer, yn galluogi partneriaid ysgol, consortia lleol, Llywodraeth Cymru, Estyn ac eraill i ddysgu am ymchwil sy’n berthnasol i les, sef un o themâu craidd y Ganolfan. Mae diwrnodau Ymarfer a Theori yn cynnig cyfleoedd i’r brifysgol a phartneriaid mewn ysgolion weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr allanol i rannu eu gwybodaeth am agweddau ar les, fel hybu gweithredoedd gwrth-hiliol i adeiladu cymunedau cryfach.

Cyfeiriadau 

Tabberer, R. (2013). Adolygiad o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn