Arwain dysgwyr ledled Cymru trwy esiampl

Arfer effeithiol

ISA Training


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Sefydlwyd ISA Training (ISA) ym 1998 yn ddarparwr dysgu yn y gwaith preifat, sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru. Mae ISA yn cyflwyno rhaglenni dysgu yn y gwaith ledled Cymru a De Orllewin Lloegr, yn y sector gwallt a harddwch yn bennaf. Yng Nghymru, ariennir rhaglenni gan Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) Llywodraeth Cymru.

Mae rhaglenni yn cynnwys Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau, a Dysgu Hyblyg a Ariennir. Mae ISA yn cyflwyno hyfforddeiaethau mewn gwallt a harddwch ar ran ITEC hefyd, yn ogystal â rhaglenni ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed mewn ysgolion yng Nghymru. Yn ychwanegol i raglenni dysgu yn y gwaith, mae ISA yn cyflwyno ystod o gyrsiau masnachol i’r sector gwallt a harddwch hefyd.

Mae ISA Training yn rhoi golwg gyfannol i ddysgwyr o’u llwybr gyrfa dewisol yn y sector gwallt, ac mae ganddo enw rhagorol am gael ei adnabod fel y darparwr hyfforddiant arbenigol yn y maes hwn.

Un o dri phrif nod strategol ISA yw ‘cyflawni rhagoriaeth:- sicrhau cyflwyno o ansawdd da a nodi a dangos arferion sy’n arwain y sector yn y sector gwallt a harddwch’.

Yr hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd yw’r galw i reoleiddio’r diwydiant trwy gofrestru / rheoleiddio gan y wladwriaeth. Sefydlwyd y Cyngor Trin Gwallt gan Ddeddf Seneddol ym 1964. Bwriad y corff hwn oedd sicrhau ei bod yn orfodol i bobl trin gwallt gael eu cofrestru gan y wladwriaeth a sicrhau bod y DU yn debyg i broffesiynau eraill ledled Ewrop. Er na sicrhawyd adran orfodol y Ddeddf, cytunodd y Senedd i gofrestru gwirfoddol gan y wladwriaeth.

Mae’r Cyngor Sgiliau Sector Gwallt a Harddwch (HABIA) yn datgan mai rhaglen prentisiaeth trin gwallt lefel 3 yw’r lefel broffesiynol gydnabyddedig yn y sector. Yn y DU, mae cyfraddau dilyniant nodweddiadol o gymwysterau lefel 2 i lefel 3 yn llai na 28% ar gyfer trin gwallt.

Mae strategaeth ISA yn annog pob addysgwr a hyfforddwr sy’n gweithio yn y sector i ysbrydoli eu myfyrwyr a’u dysgwyr i gael eu cofrestru gan y wladwriaeth.

Amlygir pwysigrwydd cofrestru gan y wladwriaeth i broffesiynoldeb y diwydiant yn y cyfnod ymsefydlu fel bod dysgwyr yn deall gwerth eu galwedigaeth ar ddechrau’r dysgu.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Fel rhan o nod ISA i arwain yn ôl esiampl, er 2008 mae pob dysgwr ar raglenni hyfforddiant lefel 3, sy’n cwblhau eu prentisiaeth wedi cael eu cofrestru gan y wladwriaeth, ac mae eu ffioedd cofrestru yn cael eu hariannu gan ISA Training am y flwyddyn gofrestru gyntaf. Rhaid i staff trin gwallt ISA gael eu cofrestru gan y wladwriaeth er mwyn cael eu cyflogi gan y cwmni.

Yn 2011, penodwyd rheolwr gyfarwyddwr ISA, Shirley Davis-Fox, i’r Cyngor Trin Gwallt, sef yr unig aelod sy’n cynrychioli Cymru. Mae hwn yn gam cadarnhaol wrth ddylanwadu ar y sector gwallt a chodi proffil a’r nifer sy’n cael eu cofrestru gan y wladwriaeth yng Nghymru.

Mae Shirley yn cefnogi cofrestru yn y cyfryngau yn barhaus. Mae hyn wedi cynnwys ymddangosiadau proffil uchel ar BBC Radio Wales yn ogystal â chyfraniadau i’r Western Mail, cyfnodolion y sector ac mewn cynadleddau gwallt a harddwch cenedlaethol.

Fel rhan o daith ymgyrchu ddiweddar yng Nghymru, ymwelodd Shirley â salonau a cholegau addysg bellach i siarad â dysgwyr, cyflogwyr a darlithwyr gan amlygu pwysigrwydd iddynt gael eu cofrestru gan y wladwriaeth. Mae wedi cyfarfod ag Aelodau Cynulliad Cymru hefyd a addawodd eu cefnogaeth barhaus i hyrwyddo cofrestru gan y wladwriaeth.

Yn ychwanegol, llwyddodd ISA i sicrhau cytundeb gan Rwydwaith Gwallt a Harddwch Cymru Gyfan y bydd Cymru yn anelu at sicrhau bod tri chwarter o’r dysgwyr sy’n dilyn prentisiaeth uwch trwy ddysgu yn y gwaith neu addysg amser llawn wedi cael eu cofrestru gan y wladwriaeth erbyn 2015.

Dim ond arbenigwyr ac enwogion o’r byd trin gwallt sydd wedi eu cofrestru gan y wladwriaeth, sy’n cael eu gwahodd i fynychu Salon Cymru, sef cystadleuaeth trin gwallt flynyddol ISA. Mae’r gofyniad hwn yn helpu i atgyfnerthu’r neges mai cofrestru gan y wladwriaeth yw’r ffordd ymlaen i yrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Mae pwysleisio pwysigrwydd cofrestru gan y wladwriaeth yn gwella natur fawreddog cymhwyster lefel 3, gan ei gwneud yn fwy dymunol i ddysgwyr barhau â’u hyfforddiant. Bydd y dull hwn yn gwella lefelau medrau yn y sector yn y pen draw. Mae ISA yn falch o arloesi gyda’r strategaeth hon yng Nghymru.

Mae gweld yr ymgyrch yn cael sylw parhaus gan y cyfryngau yn rhoi hyder i ddysgwyr ISA fod eu hyfforddwyr ISA yn bobl broffesiynol gwbl frwdfrydig sy’n gofalu am ddyfodol y diwydiant y maent yn dechrau eu gyrfa ynddo.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Dros gyfnod o dair blynedd ers dechrau hyrwyddo a manteisio ar gofrestru gan y wladwriaeth, mae cyrhaeddiad dysgwyr ar raglen prentisiaeth trin gwallt lefel 3 wedi cynyddu 14%. Mae’r strategaeth hon wedi cael effaith sylweddol ar y safonau cyflogadwyedd yn y sector hefyd, gan fod cofrestru gan y wladwriaeth yn annog perchnogion salonau i broffesiynoli eu gweithlu a recriwtio personél o safon uchel.

Gwahoddir dysgwyr cofrestredig i seremoni fawreddog yn Salon Cymru ISA i gael eu tystysgrif o flaen tua 500 o broffesiynolion y sector. Cyflwynir y tystysgrifau gan gofrestrydd y Cyngor Trin Gwallt a phobl trin gwallt enwog sy’n cefnogi cofrestru gan y wladwriaeth. Cyhoeddir lluniau yng nghylchgrawn ISA, ‘Hot Gossip’ a chyfnodolyn y Cyngor Trin Gwallt, sy’n hyrwyddo cofrestru gan y wladwriaeth ymhlith pobl eraill.

O ganlyniad i’r ymgyrch, mae ISA Training wedi siarad â thros 1,000 o ddysgwyr ledled Cymru ynglŷn â phwysigrwydd cofrestru gan y wladwriaeth. Hyd yn hyn, mae 350 o ddysgwyr ledled Cymru wedi cael eu cofrestru gan y wladwriaeth er 2008.

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn