Archwilio’r Potensial: Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Bellach
Crynodeb Gweithredol
At ei gilydd, mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu sector addysg bellach sy’n mynd ati i ymgysylltu â’r cyfleoedd a’r heriau a gyflwynir gan ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Mae colegau’n cydnabod bod deallusrwydd artiffisial (AI) yn dylanwadu’n gynyddol ar sut mae dysgwyr yn dysgu, sut mae staff yn gweithio, a sut mae sefydliadau’n gweithredu. Er bod arfer yn parhau i fod mewn cyfnod cynnar ac anwastad o hyd, a hyder yn amrywio ar draws meysydd y cwricwlwm a rolau, mae momentwm clir tuag at ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gefnogi addysgu, dysgu, lles dysgwyr, ac effeithlonrwydd sefydliadol. Ar yr un pryd, mae colegau’n dod yn fwy ymwybodol o’r ystyriaethau moesegol, diogelwch a diogelu sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial, er nad yw’r rhain yn cael eu hymgorffori’n gyson ym mhrofiad y dysgwr eto.
Roedd staff a dysgwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gynyddol i gefnogi dysgu, cynllunio, adborth ac effeithlonrwydd sefydliadol. Roedd dysgwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn aml i grynhoi gwybodaeth, cefnogi dealltwriaeth a strwythuro gwaith ysgrifenedig, yn enwedig wrth weithio’n annibynnol. Disgrifiodd llawer o ddysgwyr, yn cynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, y modd yr oedd deallusrwydd artiffisial yn eu helpu i fagu hyder a rheoli gofynion eu cyrsiau. Roedd defnydd athrawon o ddeallusrwydd artiffisial yn datblygu, ac roedd mabwysiadwyr cynnar yn defnyddio offer i gefnogi cynllunio gwersi, gwahaniaethu, creu adnoddau, ac adborth ffurfiannol. Fodd bynnag, roedd arfer yn anwastad ar draws meysydd y cwricwlwm.
Mater cryf a mynych ar draws colegau oedd diffyg eglurder i ddysgwyr ynghylch defnydd derbyniol o ddeallusrwydd artiffisial, yn enwedig o ran gwaith asesedig. Dywedodd dysgwyr eu bod yn derbyn negeseuon cymysg gan athrawon, yn aml wedi’u hatgyfnerthu gan naratifau yn seiliedig ar ofn ynghylch offer darganfod deallusrwydd artiffisial. Mewn llawer o achosion, roedd arweiniad yn cael ei gyflwyno yn y cyfnod ymsefydlu yn y lle cyntaf, ond nad aethpwyd yn ôl ato fel mater o drefn, gan gyfrannu at orbryder, ac i rai dysgwyr, osgoi deallusrwydd artiffisial hyd yn oed ble gallai gefnogi dysgu. Roedd yr ansicrwydd hwn yn cael ei gymhlethu gan arweiniad anghyson gan gyrff dyfarnu, gan arwain at ymagweddau gofalus at asesu crynodol a chydnabyddiaeth ddatblygol mewn ychydig o golegau y gallai ailgynllunio asesu yn y tymor hwy fod yn angenrheidiol.
Roedd arweinyddiaeth ac ymagweddau strategol at ddeallusrwydd artiffisial yn amrywio. Mewn enghreifftiau cryfach, roedd uwch arweinwyr yn gosod deallusrwydd artiffisial fel galluogwr strategol sy’n cyd-fynd ag addysgu, dysgu, cynhwysiant ac effeithlonrwydd sefydliadol, wedi’i gefnogi gan strwythurau llywodraethu a dysgu proffesiynol. Mewn mannau eraill, roedd y gweithredu yn fwy tameidiog ac yn cael ei yrru gan frwdfrydedd unigolion. Roedd deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol i gefnogi swyddogaethau cymorth busnes a swyddogaethau gweinyddol, gan wella effeithlonrwydd a mynediad at wasanaethau. Roedd arweinwyr hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o heriau datblygol yn gysylltiedig â chost, mynediad a chynaliadwyedd, gyda thrafodaethau cynnar ynglŷn â ph’un a allai ymagweddau mwy cydweithredol neu ar draws sectorau gefnogi cysondeb a thegwch.
Roedd ystyriaethau moesegol, diogelwch a diogelu yn cael eu cydnabod yn gynyddol ond yn cael eu hymgorffori’n llai cyson ym mhrofiad y dysgwr. Roedd dysgwyr yn dangos ymwybyddiaeth foesegol ddatblygol, yn cynnwys pryderon am or-ddibyniaeth, rhagfarn a gwreiddioldeb, ond roedd cyfleoedd i ddatblygu llythrennedd deallusrwydd artiffisial beirniadol mewn ffordd systematig yn gyfyngedig.
Dangosodd y canfyddiadau, er ei bod yn ddyddiau cynnar ac anwastad i’r sector addysg bellach o ran mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, roedd momentwm clir. Roedd yr effaith fwyaf yn amlwg lle roedd defnyddio deallusrwydd artiffisial yn cael ei arwain gan ddiben clir, negeseuon cyson a deialog barhaus â dysgwyr, wedi’u hategu gan arweinyddiaeth, eglurder moesegol a chydweithio ar draws y sector.