Addfwyn gyda’r plentyn, cadarn ar y ffiniau: Effaith cadarnhaol gosod lles yn ganolig mewn cyd-destun datblygu iaith dysgwyr o fewn darpariaethau trochi hwyr yn Wrecsam. - Estyn

Addfwyn gyda’r plentyn, cadarn ar y ffiniau: Effaith cadarnhaol gosod lles yn ganolig mewn cyd-destun datblygu iaith dysgwyr o fewn darpariaethau trochi hwyr yn Wrecsam.

Arfer effeithiol

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam/Wrexham County Borough Council

Letters spelling 'cymraeg' which means 'Welsh' in the Welsh language, hanging on a line against a clear blue sky.

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Sefydlwyd gwasanaeth cefnogi hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg yn y sector cynradd gan awdurdod lleol Wrecsam yn 2018 gyda chynnig cefnogaeth allgymorth wythnosol ar gyfer hwyrddyfodiaid cynradd.  Yn 2021 daeth yr uned drochi uwchradd dan ofal yr awdurdod lleol ac yn 2023 sefydlwyd canolfan iaith gynradd ‘Cynefin’. Erbyn hyn, mae 2 ddosbarth trochi uwchradd gyda’r trydydd dosbarth yn agor ym Mehefin 2025, canolfan iaith gynradd a gwasanaeth allgymorth i gefnogi hwyrddyfodiaid. Mae 7 aelod o staff yn perthyn i’r gwasanaeth ac mae’r niferoedd yn cynyddu yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. O ran demograffeg, mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd yn Wrecsam yn ardaloedd ble mae llai na 12% o’r boblogaeth yn gallu’r Gymraeg ac mae cyfradd amddifadedd a thlodi sylweddol ar draws yr awdurdod. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn ystod cyfnod pontio’r disgyblion, amlygodd bod proffil amlwg ar gyfer canran helaeth y dysgwyr oedd yn dymuno mynediad at ein darpariaethau trochi hwyr / cefnogaeth hwyrddyfodiaid. Roedd y proffil yn amlygu bod y rhan fwyaf o’r plant yn dod o deuluoedd dan anfantais, gyda sgôr o 3 ACE (profiad plentyndod niweidiol). Yn ogystal, nid oeddynt wedi llwyddo i feithrin perthynas cryf gyda’u cyfoedion yn ystod eu cyfnod addysg gynradd. Roedd canran uchel o’r plant gyda diagnosis niwro-amrywiol neu wedi profi trawma sylweddol a oedd wedi cael dylanwad ar eu cyrhaeddiad academaidd. 

Mae ein darpariaeth llesol, sydd wedi’i fodelu ar fodel ardaloedd dysgu cynradd a’n grwpiau trochi bach yn apelio i’r teuluoedd, gyda’r Gymraeg yn aml yn eilradd i’r dewis. Wrth osod strategaethau a chreu darpariaethau sydd yn ystyriol o drawma ac yn gosod lles wrth wraidd ein cynllun caffael iaith, crëwyd awyrgylch ddysgu cefnogol, cynhwysol a llesol sy’n arfogi dysgwyr i oresgyn unrhyw rwystrau i lwyddo yn eu huchelgais i gaffael yr iaith. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae plethu prif egwyddorion cefnogi caffael iaith yn unol â rhaglen sy’n ystyriol o drawma yn rhan greiddiol o’n gweledigaeth. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cynhwysol, llesol ac uchelgeisiol sydd yn meithrin balchder, ymdeimlad o berthyn ac ymrwymiad tuag at yr iaith. Ein prif flaenoriaeth ydy adeiladu perthnasau cryf a chysylltiadau positif gyda’r disgyblion er mwyn meithrin ymddiriedaeth ac ymdeimlad diogel. Yn y cynradd, mae ymweliadau ymgyfarwyddo yn digwydd rhwng y cydlynydd cynradd a’r disgyblion, a gwahoddiad iddynt ddod i ymweld â’r ganolfan cyn cychwyn ar y cwrs dwys. Yn yr uwchradd, mae’r broses bontio cadarn yn cynnwys ymweliadau cyson, cyn trosglwyddo am ragflas o’r cynnig ac yna ymrwymo yn llawn, yn arwain y disgyblion yn raddol tuag at y cyfnod trochi dwys wrth drosglwyddo.   

Mae amgylchedd yr unedau wedi’u cynllunio i greu gofod diogel ble gall disgyblion fynegi eu hunain heb gael eu barnu. Mae ffiniau a disgwyliadau ymddygiad cadarn, ond mae cyfleoedd i ddisgyblion gael mynegi pryder, gofyn am amser oddi ar dasg a thrafod eu hemosiynau yn agored yn yr uned.  Mae pob disgybl yn cael ei gyfarch wrth y drws ac yn penderfynu ar eu cyfarchiad – boed yn ysgwyd llaw, pawen lawen neu’n chwifio llaw. Mae’r ymgysylltu pwrpasol yn treiddio o’r cychwyn cyntaf nes y gloch olaf. Yn unol â’r amgylchedd, mae strategaethau rheoli emosiynau, datblygu gwytnwch ac ymgysylltiad a chadw diddordeb a meddylfryd positif wedi’u plethu i’r cynllun dysgu. Mae pwyslais ar ddysgu wrth chwarae, ymchwilio a bod yn greadigol a chynigir cyfnodau ‘brain break’ yn aml i’r disgyblion. Defnyddir iaith sy’n ystyriol o drawma ac mae’r gwasanaeth yn cefnogi’r ysgol i fabwysiadu’r un dulliau ac iaith cefnogi fel bod cysondeb wrth bontio.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu medrau llafar gan eu bod wedi datblygu hyder a gwytnwch i roi cynnig arni ac i gyfathrebu’n effeithiol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu, yn barod i ddyfalbarhau ac yn ymddiried yn y gefnogaeth sydd ar gael. Mae gwelliant mawr i’w weld yn ymddygiad y rhan fwyaf o ddisgyblion ac mae eu presenoldeb yn dda.  

Mae’r strategaethau wedi arwain at dwf yn niferoedd y disgyblion sy’n trosglwyddo i addysg uwchradd Gymraeg yn flynyddol. Bellach, mae hyn yn sylweddol uwch na’r targed a osodwyd gan yr awdurdod yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA). Yn ogystal, mae 100% o ddisgyblion yn trosglwyddo yn ystod y cyfnod pontio i’r ddarpariaeth uwchradd. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg Wrecsam gan gynnig adnoddau, hyfforddiant a chyfle i ddod i arsylwi arferion yr unedau. Yn ogystal â hyn, mae’r awdurdod lleol wedi cynllunio a chyllido hyfforddiant lles ar gyfer staff ysgolion clwstwr Ysgol Morgan Llwyd. Mae rheolwr y ddarpariaeth yn rhannu arfer dda yn genedlaethol fel rhan o rwydwaith sector trochi iaith.