Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn lleoliadau nas cynhelir

Share document

Share this

Cyflwyniad

Share document

Share this

Nod yr arweiniad atodol hwn yw cynorthwyo arolygwyr yn ôl yr angen i arfarnu trefniadau diogelu lleoliadau wrth gynnal arolygiadau.  Dylid ei ddefnyddio er gwybodaeth yn ystod arolygiad ochr yn ochr â Pholisi a Gweithdrefnau Estyn ar gyfer Diogelu.

 

Cadw dysgwyr yn ddiogel: rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethol a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002

cadw-dysgwyr-yn-ddiogel-rol-awdurdodau-lleol-cyrff-llywodraethu-pherchnogion-ysgolion-annibynnol-o-dan-ddeddf-addysg.pdf

Nid yw’r arweiniad hwn yn trafod y modd y dylai arolygwyr ddelio â honiadau am ddiogelu a dderbynnir yn ystod arolygiad.  Rhaid i arolygwyr fod yn gyfarwydd â Pholisi a Gweithdrefnau Estyn ar gyfer Diogelu sy’n cynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed.  Dylai pob arolygydd wybod beth i’w wneud pe byddent yn derbyn honiadau am ddiogelu ac mae’r camau sy’n ofynnol wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon.  Cewch gopi o’r ddogfen ar wefan Estyn.

Rhagor o gyngor ac arweiniad

Dylai arolygwyr sydd angen cyngor neu arweiniad edrych i ddechrau ar y cofnod ymholiadau ‘parhaus’ a gynhelir ar Sharepoint, a’r adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan Estyn. Y rheswm am hyn yw y gellid bod wedi mynd i’r afael â’u hymholiad eisoes mewn lleoliad arall.  Gallwch weld y cofnod ymholiadau yma:

Rhoi gwybod am Broblem (sharepoint.com)

Gellir gweld atebion i gwestiynau cyffredin am arfarnu trefniadau darparwr ar gyfer diogelu yn:

Canllaw_diogelu_Estyn.pdf (llyw.cymru)

Pan fydd arweiniad presennol yn aneglur neu nid yw ar gael, dylai arolygwyr gysylltu â’r Arweinydd Sector neu’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol perthnasol ynglŷn ag ymholiadau ynghylch arfarnu trefniadau diogelu lleoliad.

Mewn achos o bryderon neu ymholiadau’n gysylltiedig â derbyn honiadau ynghylch diogelu, mae’r rhifau ffôn canlynol ar gael:

Swyddog Arweiniol Estyn ar gyfer diogelu: 02920 446482 (ar gael y tu allan i oriau swyddfa hefyd)

Dirprwy Swyddog Estyn ar gyfer diogelu: 02920 446484 (ar gael y tu allan i oriau swyddfa hefyd)

Prif swyddfa Estyn (yn ystod oriau swyddfa): 02920 446446

Share document

Share this