Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn lleoliadau nas cynhelir

Share document

Share this

Ychwanegiad 3

Share document

Share this

Delio â honiadau o gam-drin yn erbyn staff Cylchlythyr 009/2014 Llywodraeth Cymru

Dylai fod gweithdrefnau gan leoliadau ar gyfer delio â honiadau, a dylai pob un o’r staff a’r gwirfoddolwyr ddeall beth i’w wneud os byddant yn cael honiad neu os bydd ganddynt bryderon ynghylch aelod arall o staff.

Dylai’r gweithdrefnau ei gwneud yn glir y dylid rhoi gwybod am bob honiad ar unwaith, fel arfer i’r person diogelu dynodedig.

Dylai’r gweithdrefnau hefyd nodi’r unigolyn y dylid gwneud cyfeiriadau atynt yn eu habsenoldeb; neu mewn achosion lle’r person diogelu dynodedig yw testun yr honiad neu’r pryder.

Dylai gweithdrefnau hefyd gynnwys manylion cyswllt ar gyfer Swyddog yr Awdurdod Lleol sydd â’r cyfrifoldeb am ddarparu cyngor a monitro achosion o gam-drin proffesiynol ac arolygydd perthnasol AGC. Dylid rhoi gwybod i Swyddog yr Awdurdod Lleol ac arolygydd perthnasol AGC am yr holl honiadau sy’n dod i sylw lleoliad ac y mae’n ymddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf a nodir isod.

Honnir bod aelod o staff:

  • wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi gwneud niwed i blentyn, neu a allai fod wedi gwneud niwed i blentyn;
  • wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu’n gysylltiedig â phlentyn o bosibl; neu
  • wedi ymddwyn tuag at blentyn neu blant mewn ffordd sy’n dangos y byddai’n achosi risg o niwed os ydynt yn gweithio’n rheolaidd neu’n agos â phlant.

Mae’r gweithdrefnau uchod yn ymwneud ag aelodau o staff sy’n gweithio mewn unrhyw leoliad ar hyn o bryd, p’un ai’r lleoliad yw’r man lle digwyddodd y cam-drin honedig ai peidio.

Dylai honiadau yn erbyn aelod o staff nad yw’n gweithio yn y lleoliad mwyach gael eu cyfeirio at yr heddlu.

Share document

Share this