Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn lleoliadau nas cynhelir

Share document

Share this

Diffiniad o ddiogelu

Share document

Share this

Mae gan bob lleoliad ddyletswyddau statudol i weithredu mewn ffordd sy’n ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae angen i’r trefniadau sydd gan leoliadau ar waith sicrhau:

  • y rhoddir mesurau rhesymol ar waith i leihau risg niwed i les plant
  • y cymerir camau priodol i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â lles plentyn neu blant, gan weithio i bolisïau a gweithdrefnau lleol cytûn mewn partneriaeth lawn ag asiantaethau lleol eraill
Diogelu a hyrwyddo lles plant

Mae diogelu a hyrwyddo lles plant yn ymwneud â’r canlynol:

  • amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
  • atal nam ar eu hiechyd neu’u datblygiad
  • sicrhau eu bod yn cael gofal diogel ac effeithiol

A hynny er mwyn galluogi plant i gael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.

Mae pawb sy’n gweithio mewn addysg yn rhannu amcan i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. Wrth arolygu trefniadau diogelu darparwr, dylai arolygwyr ystyried pa mor effeithiol yw’r lleoliad o ran y canlynol;

  • creu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant
  • nodi ble mae pryderon ynghylch lles plant a chymryd camau i fynd i’r afael â’r rhain, lle bo’n briodol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
  • datblygu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gwydnwch plant trwy’r cwricwlwm

I gyflawni’r amcan hwn, mae angen cael systemau a gynlluniwyd i:

  • atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant
  • hyrwyddo arfer ddiogel a herio arfer wael ac anniogel o fewn y ddarpariaeth
  • nodi achosion lle mae achos i bryderu am les plentyn yn deillio o’r cartref, y gymuned neu’r lleoliad, a dechrau neu gymryd camau priodol i’w gadw/chadw’n ddiogel
  • cyfrannu at weithio mewn partneriaeth yn effeithiol rhwng pawb sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i blant
Amddiffyn plant

Mae amddiffyn plant yn rhan o ddiogelu a hyrwyddo lles. Mae hyn yn cyfeirio at y gweithgarwch a gynhelir i amddiffyn plant penodol sy’n dioddef neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol o ganlyniad i gael eu cam-drin neu’u hesgeuluso.

Diogelu

Mae diogelu yn cynnwys mwy na’r cyfraniad a wneir at amddiffyn plant mewn perthynas â phlant unigol. Mae hefyd yn cwmpasu materion fel:

  • recriwtio diogel, goruchwylio, hyfforddi a rheoli staff
  • sut mae staff yn rheoli ymddygiad plant
  • pa mor dda y mae’r darparwr yn monitro patrwm presenoldeb plant ac ymgysylltiad â’r ddarpariaeth, sy’n gallu nodi’n gyflym unrhyw gyflyrau meddygol di-esboniad, absenoldebau anarferol, a diflaniadau
  • iechyd a diogelwch a lles plant, ar y safle ac oddi ar y safle
  • bwlio, gan gynnwys seiberfwlio
  • trefniadau ar gyfer bodloni anghenion plant â chyflyrau meddygol
  • hyrwyddo perthnasoedd iach
  • cam-fanteisio’n rhywiol ar blant
  • priodas dan orfod
  • atal radicaleiddio ac eithafiaeth
  • masnachu pobl
  • cyfeirio dioddefwyr camdriniaeth at gymorth a chefnogaeth briodol
  • dyletswydd adrodd gorfodol ar gyfer anffurfio organau cenhedlu benywod
  • camddefnyddio cyffuriau a sylweddau
  • e-ddiogelwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gofynion statudol penodol ynglŷn â llawer o’r materion hyn.  Gall fod materion diogelu eraill hefyd sy’n benodol i’r ardal neu’r boblogaeth leol.

Pan fydd yna ofynion statudol, dylai lleoliadau fod wedi rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith eisoes sy’n bodloni’r rheiny ac yn cydymffurfio ag unrhyw arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn yr un modd, dylai polisïau a gweithdrefnau ddangos tystiolaeth o drefniadau am faterion y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arweiniad arnynt, sy’n unol â’r arweiniad hwnnw neu’n cyflawni’r un effaith.

 

 

Share document

Share this