Arweiniad atodol: Cymraeg – Medi 2021

Share document

Share this

Cyflwyniad

Share document

Share this

Page Content

Nodau

Nod yr arweiniad atodol hwn yw cefnogi arolygwyr i:

  • werthuso i ba raddau y mae arweinwyr a rheolwyr yn cynllunio cyfleoedd pwrpasol yn strategol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, a rhoi’r cynlluniau hyn ar waith yn effeithiol
  • gwerthuso graddau ac ansawdd darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg mewn gweithgareddau addysgu ffurfiol ac mewn sefyllfaoedd anffurfiol
  • gwerthuso pa mor dda y mae’r ysgol yn addysgu disgyblion am fanteision dysgu Cymraeg a bod yn ddwyieithog
  • lle y bo’n briodol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae cyfran yr addysgu yn Gymraeg yn cyd-fynd â chategori iaith swyddogol yr ysgol
  • gwerthuso gallu disgyblion i siarad Cymraeg ac ymateb i Gymraeg llafar o gymharu â disgyblion mewn ysgolion mewn cyd-destunau tebyg a’u mannau cychwyn
  • gwerthuso’r cynnydd a wna disgyblion o ran datblygu eu medrau cyfathrebu yn Gymraeg ar gyfer eu dysgu ar draws y cwricwlwm, ac mewn cyd-destunau mwy anffurfiol.

Wrth arolygu medrau llythrennedd (Cymraeg) mewn ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg, dylech chi hefyd gyfeirio at yr arweiniad atodol: Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion ac UCDau sydd i’w weld ar wefan Estyn hefyd.

Mae’r Fframwaith Arolygu diwygiedig (Medi 2021) yn gosod gofyniad i arolygwyr werthuso a rhoi sylwadau ar y Gymraeg yn y canlynol:

5.1 (Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr, yn cynnwys y corff llywodraethol),

3.1 (Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm), ac mewn

1.1 (Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau [gwrando a darllen, siarad ac ysgrifennu]).

Cyflwynwyd yr adroddiad fel hyn am fod 5.1 yn ymgorffori gweledigaeth strategol arweinwyr ar gyfer y Gymraeg yn eu lleoliadau yn ogystal â phrosesau hunanwerthuso, blaenoriaethau a dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi’r addysgu (3.1) a’r dysgu (1.1). Yn ychwanegol, mae arolygwyr yn rhydd i adrodd ar agweddau yn gysylltiedig â’r Gymraeg mewn perthynas â maes arolygu 2 (Lles ac agweddau at ddysgu) a maes arolygu 4 (Gofal, cymorth ac arweiniad). 

Cefndir

Mae cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn weithredol yn eu bywyd bob dydd yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â chyflawni’r nod i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sy’n cyfateb i bron i draean o’r boblogaeth, ei nod yw cynyddu cyfran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd o 10% (yn 2013-2015) i 20% erbyn 2050. 

Nod cynllun gweithredu Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y disgyblion ysgol sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 40% erbyn 2050, gyda tharged dros dro o 30% erbyn 2031. Un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yw sicrhau ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2015, tud.4). Yn dilyn egwyddorion Cymwys am Oes (Llywodraeth Cymru, 2015), mae Dyfodol Llwyddiannus yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn natblygiad Cymru ‘fel cenedl ddwyieithog sydd â’r cryfder a’r hunanhyder i feithrin y ddwy iaith’ (Donaldson, 2015, tud.26). At hynny, mae’n datgan y dylai ysgolion ganolbwyntio o’r newydd ‘ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall yr iaith lafar’ (Donaldson, 2015, tud.115).

Mae Cymraeg mewn addysg: cynllun gweithredu 2017-21 yn nodi’r nod i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwella addysgu a dysgu Cymraeg i bob dysgwr, a rhoi’r rhain ‘wrth wraidd’ diwygio addysgol (Llywodraeth Cymru, 2017b). Mae’r Gweinidog Addysg yn datgan, ‘Ein Cenhadaeth Genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol gwirioneddol a hyder y cyhoedd’ (Llywodraeth Cymru, 2017a, tud.3).

Mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn elfen orfodol yn y cwricwlwm i bob dysgwr nes y bydd yn 16 mlwydd oed ac mae Cwricwlwm i Gymru – Cwricwlwm am Oes (Hydref 2015) yn nodi ei bod yn flaenoriaeth ‘sicrhau bod pob dysgwr yn gallu meithrin ei sgiliau iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith yn hyderus mewn gwahanol gyd-destunau’.

Mae’r manteision i ddisgyblion yn sgil cynyddu eu cymhwysedd yn y Gymraeg ac o ran bod yn ddwyieithog wedi hen ennill eu plwyf. Maent yn cynnwys:

  • gwerth masnachol yn y farchnad swyddi ac ymestyn medrau iaith ar gyfer y gweithle
  • ehangu eu gorwelion a chyfoethogi eu profiadau o fywyd yng Nghymru a thu hwnt
  • manteision gwybyddol dwyieithrwydd[1]
  • gwerthfawrogi amrywiaeth

Wrth werthuso deilliannau a darpariaeth yr iaith Gymraeg, mae’n hanfodol ein bod bob amser yn ystyried cyd-destun ieithyddol yr ysgol a’r hyn a wna’r ysgol er mwyn sicrhau parhad a dilyniant ym medrau ieithyddol ei disgyblion o’u mannau cychwyn unigol.

Yn fras, gellir dosbarthu ysgolion yn ôl eu cyfansoddiad ieithyddol[2] fel a ganlyn:

  • ysgolion sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf
  • ysgolion cyfrwng Saesneg
  • ysgolion wedi’u ffrydio, sy’n cynnig darpariaeth Gymraeg a Saesneg i raddau amrywiol

Mae Adran 84 y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion a gyflwynwyd yn 2013, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i wella darpariaeth a safonau o ran addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion. Rhaid i bob Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg amlinellu sut bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi darpariaeth barhaus addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd cylch nesaf y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael eu cyflwyno erbyn Ionawr 2022, a byddant yn weithredol o fis Medi 2022.

Mae gan bob ysgol a gynhelir, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, rwymedigaeth gyfreithiol i addysgu Cymraeg i bob disgybl o oed ysgol statudol, ac eithrio ychydig iawn o ddisgyblion y mae eu datganiad o anghenion addysgol arbennig neu gynllun datblygu unigol (CDU) ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn eu datgymhwyso o ddysgu Cymraeg. 

Nid oes gofyniad statudol ar ysgolion annibynnol i addysgu Cymraeg fel pwnc. Pan fydd yr ysgol yn gwneud penderfyniad cadarnhaol i beidio â darparu ar gyfer addysgu Cymraeg neu i beidio â datblygu dimensiwn Cymreig y cwricwlwm, dylai’r adroddiad yn syml ddweud: ‘Nid yw’r ysgol yn addysgu Cymraeg’ neu ‘Nid yw’r ysgol yn mynd ati i ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig’. Mewn ysgolion annibynnol sy’n addysgu Cymraeg neu’n cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg, dylai arolygwyr ddefnyddio’r cwestiynau a restrir yn yr adran nesaf, fel bo’n gymwys. Dylai arolygwyr archwilio polisi’r ysgol ar gyfer Cymraeg a gwerthuso pa mor dda y mae’r ysgol yn gweithredu’r polisi hwnnw. Dylent hefyd farnu’r graddau y mae’r ysgol yn cyfrannu at ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru.

Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020a) ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, yn amlinellu sut mae’r maes dysgu a phrofiad yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm. Fel eu prif nod, mae’n nodi cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a medrau mewn Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol, ac mewn llenyddiaeth yn ogystal (Llywodraeth Cymru, 2020a, tud.126). Amlygir pwysigrwydd cefnogi ‘dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus a gwerthfawrogi pa mor ddefnyddiol ydyw er mwyn cyfathrebu mewn Cymru ddwyieithog’ (Llywodraeth Cymru, 2020a, tud.30) hefyd. O ganlyniad, mae datblygu dysgwyr sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg ac yn ei defnyddio â hyder cynyddol wrth wraidd y weledigaeth genedlaethol.

Yn ystod y cyfnod o ymgyfarwyddo â’r Cwricwlwm i Gymru, a’i fabwysiadu, ym mis Medi 2022, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd bragmataidd at waith y darparwyr i gynllunio, dylunio a gwireddu eu cwricwlwm mewn modd priodol ac amserol. Bydd arolygwyr yn rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw ganllawiau cyhoeddedig ar ddisgwyliadau cyffredin neu rai a rennir. Bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i gynllunio a chyflawni er mwyn datblygu medrau gwrando a darllen, a siarad ac ysgrifennu disgyblion. Dylai arolygwyr ystyried effeithiau cadarnhaol neu negyddol unrhyw drefniadau sydd ar waith i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau iaith a llythrennedd trwy allu manteisio ar brofiadau dysgu cyfoethog yn gyffredinol mewn gweithgareddau ffurfiol ac anffurfiol, fel ei gilydd.

Dylai arolygwyr roi ystyriaeth ofalus i effaith unrhyw feysydd pwysig i’w gwella mewn perthynas â’r cwestiynau dros y ddalen ar y farn ar gyfer y dangosydd ansawdd perthnasol. Wrth ystyried a yw maes i’w ddatblygu yn bwysig, dylai arolygwyr ystyried cyfran y disgyblion sy’n gysylltiedig â’r diffyg neu yr effeithir arnynt gan y diffyg.

 

[1] Mae ymchwil yng Nghanada wedi datgelu bod dwyieithrwydd yn gwella sylw a rheolaeth wybyddol ymhlith plant ac oedolion hŷn, ac yn 2007, tynnodd sylw at effaith dwyieithrwydd ar oedi symptomau dementia rhag cychwyn.

[2] Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Diffinio Ysgolion yn Ôl y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg’ (Dogfen wybodaeth Rhif: 023/2007, Hydref 2007) yn amlinellu disgrifiadau a chategorïau o ysgolion yn ôl faint o Gymraeg a ddefnyddir wrth addysgu a dysgu ac ym mywyd bob dydd yr ysgol.

Share document

Share this