Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn ysgolion ac UCDau

Share document

Share this

Atodiad 3: Delio â honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill Cylchlythyr 009/2014 Llywodraeth Cymru

Share document

Share this

Page Content

Mae hwn yn ganllaw statudol ar gyfer ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach, ac yn ganllaw anstatudol ar gyfer ysgolion annibynnol.

Dylai fod gweithdrefnau gan ysgolion a cholegau addysg bellach ar gyfer delio â honiadau, a dylai pob un o’r staff a’r gwirfoddolwyr ddeall beth i’w wneud os byddant yn cael honiad neu os bydd ganddynt bryderon ynghylch aelod arall o staff.

Dylai’r gweithdrefnau ei gwneud yn glir y dylid rhoi gwybod am bob honiad ar unwaith, fel arfer i’r pennaeth, y prifathro, neu’r perchennog, os yw’n ysgol annibynnol.

Dylai’r gweithdrefnau hefyd nodi’r unigolyn, fel arfer cadeirydd y llywodraethwyr, y dylid gwneud cyfeiriadau atynt yn eu habsenoldeb; neu mewn achosion lle mai’r pennaeth neu’r prifathro ei hun yw testun yr honiad neu’r pryder. Ar gyfer UCDau, gallai’r unigolyn hwn fod yn swyddog awdurdod lleol yn hytrach na chadeirydd y pwyllgor rheoli.

Dylai gweithdrefnau hefyd gynnwys manylion cyswllt ar gyfer swyddog yr awdurdod lleol sydd â’r cyfrifoldeb am ddarparu cyngor a monitro achosion o gam-drin proffesiynol. Dylid rhoi gwybod i Swyddog yr Awdurdod Lleol am yr holl honiadau sy’n dod i sylw ysgol ac y mae’n ymddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf a nodir isod.

Honnir bod aelod o staff:

  • wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi gwneud niwed i blentyn, neu a allai fod wedi gwneud niwed i blentyn;
  • wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu’n gysylltiedig â phlentyn o bosibl; neu
  • wedi ymddwyn tuag at blentyn neu blant mewn ffordd sy’n dangos y byddai’n achosi risg o niwed os ydynt yn gweithio’n rheolaidd neu’n agos â phlant.

Mae’r gweithdrefnau uchod yn ymwneud ag aelodau o staff sy’n gweithio mewn unrhyw ysgol ar hyn o bryd, p’un ai’r ysgol yw’r man lle digwyddodd y cam-drin honedig ai peidio.

Dylai honiadau yn erbyn athro nad yw’n addysgu mwyach gael eu cyfeirio at yr heddlu.

Share document

Share this