Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn lleoliadau nas cynhelir

Share document

Share this

Llawlyfr arweiniad

Share document

Share this

Page Content

Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau rheoleiddiedig nad ydynt yn ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser

 

    Agweddau ar ddiogelu o fewn y fframwaith

    Mae gan bob lleoliad ddyletswyddau statudol i weithredu mewn ffordd sy’n cyfrif am yr angen i ddiogelu a hybu lles plant (gweler Atodiad D y Llawlyfr Arweiniad ar gyfer arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau rheoleiddiedig nad ydynt yn ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser).    

    Mae angen i’r trefniadau sydd ar waith gan leoliadau sicrhau:

    • bod mesurau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau risgiau niwed i les a diogelwch plant   
    • bod camau priodol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â phryderon am les a diogelwch plant

    Yn ystod yr arolygiad, gall unrhyw aelod o’r tîm amlygu pryderon am les neu ddiogelwch plentyn/plant. Lle y bo’n briodol, bydd yr arolygydd arweiniol yn hysbysu’r lleoliad. Bydd arolygydd AGC yn cymryd y camau priodol yn unol â’r polisi sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan AGC. Hefyd, bydd arolygydd Estyn yn hysbysu swyddog diogelwch Estyn am y mater, yn unol â pholisi diogelu Estyn.

    Mae thema 3, ‘Gofal a datblygu’ yn bwrw golwg ar pa mor dda mae ymarferwyr yn diogelu plant, ac yn eu cadw’n ddiogel ac yn iach ar yr un pryd.

    Bydd arolygwyr yn llunio barn am y diwylliant diogelu cyffredinol yn y lleoliad. Bydd arolygwyr yn gwerthuso ansawdd ac effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau’r lleoliad ar gyfer diogelu a hybu lles plant a pha mor dda mae ymarferwyr yn eu gweithredu. 

    Mae’r rhain yn cynnwys:

    • y polisi amddiffyn plant, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer adnabod arwyddion o radicaleiddio ac eithafiaeth
    • y trefniadau sydd gan arweinwyr i recriwtio staff yn ddiogel
    • iechyd a diogelwch, gan gynnwys hylendid bwyd a’r ddarpariaeth ar gyfer rheoli heintiau
    • diogelwch rhag tân
    • y trefniadau ar gyfer diogelwch a diogeledd y safle
    • rhoi meddyginiaeth yn ddiogel
    • cefnogi plant â chyflyrau meddygol
    • rhoi cymorth cyntaf  
    • diogelwch ar wibdeithiau ac ymweliadau
    • diogelwch ar y rhyngrwyd
    • bwlio
    • rheoli ymddygiad plant, gan gynnwys polisïau ac arferion ar gyfer ymyrryd ac atal yn gorfforol
    • polisïau a gweithdrefnau ar gyfer hybu ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys bwyta’n iach, yfed a gweithgareddau corfforol
    Amddiffyn plant

    Wrth ystyried effeithiolrwydd gweithdrefnau’r darparwr ar gyfer amddiffyn plant, dylai arolygwyr werthuso addasrwydd polisi amddiffyn plant y lleoliad ac a yw ymarferwyr yn deall ac yn adnabod arwyddion a symptomau camdriniaeth, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2020. Hefyd, dylent werthuso a yw ymarferwyr yn gwybod am bolisi amddiffyn plant y lleoliad ac yn ei weithredu’n gywir, ac yn gallu adnabod risgiau i blant. Bydd arolygwyr yn adrodd ar b’un a yw trefniadau’r lleoliad ar gyfer diogelu plant yn bodloni gofynion ac nid ydynt yn destun pryder.

    Thema 6

    Hefyd, mae angen i arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu pan fyddant yn arolygu Thema 6, er enghraifft wrth ystyried pa mor dda y maent yn dilyn prosesau diogel, trylwyr ac amserol. Dylent werthuso pa mor dda mae arweinwyr a rheolwyr yn hybu arferion diogel a diwylliant o ddiogelwch, gan gynnwys gweithredu prosesau recriwtio diogel, trylwyr ac amserol.

    Dylai arweinwyr a rheolwyr lleoliad fod yn glir ynglŷn â’u cyfrifoldebau statudol o ran diogelu a’r camau y maent yn eu cymryd i ddatblygu arfer dda y tu hwnt i’r isafswm statudol. Mae’r person cofrestredig neu’r unigolyn/unigolion cyfrifol yn atebol am sicrhau bod y lleoliad wedi rhoi polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar waith yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru, a’i fod yn monitro cydymffurfiad y lleoliad â hyn. Cyfrifoldeb y person cofrestredig neu’r unigolyn/unigolion cyfrifol yw sicrhau bod gwiriadau recriwtio diogel yn cael eu cynnal yn unol â gofynion statudol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Atodiadau 1 a 2.

    Dylai arolygwyr asesu’n ofalus pa mor dda y mae’r person cofrestredig neu’r unigolyn/unigolion cyfrifol yn monitro ac arfarnu pob agwedd ar ddiogelu. Os nad oes gan y lleoliad bolisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles plant, ac nid yw’n cymryd camau digonol i sicrhau cydymffurfio â’r rhain, bydd hyn yn dylanwadu ar y barnau sy’n cael eu llunio am ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yn y lleoliad.

    Share document

    Share this