Adrodd ar ddiogelu
Bydd arolygwyr yn adrodd ar b’un a yw trefniadau’r lleoliad ar gyfer diogelu plant yn bodloni’r gofynion.
Dylai arolygwyr gyfeirio at y ‘Llawlyfr Arweiniad ar gyfer arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau rheoleiddiedig nad ydynt yn ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser’ wrth lunio barn am ba mor dda mae ymarferwyr yn gweithredu polisïau a gweithdrefnau’r lleoliad ar gyfer diogelu yn Thema 3.
Mae Atodiad E yn y ddogfen yn darparu gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar ddiogelu y mae’n rhaid i arolygwyr eu hystyried wrth lunio barn. Rhaid i arolygwyr gynnwys sylw ar y trefniadau ar gyfer diogelu. Fel arfer: ‘Mae trefniadau’r lleoliad ar gyfer diogelu plant yn bodloni’r gofynion, ac nid ydynt yn destun pryder’ NEU ‘Nid yw trefniadau’r lleoliad ar gyfer diogelu plant yn bodloni’r gofynion, ac maent yn destun pryder’. Os bydd unrhyw drefniadau diogelu yn rhoi rheswm i bryderu, ni ddylai arolygwyr ddefnyddio’r frawddeg gyntaf yn yr adroddiad, ond rhaid iddynt ddatgan nad ydynt yn bodloni’r gofynion. Dylai arolygwyr adrodd yn fanwl ynghylch unrhyw ddiffygion yn y trefniadau diogelu dim ond os nad ydynt yn effeithio ar ddiogelwch y staff a’r plant yn y lleoliad.
Hefyd, mae angen i arolygwyr werthuso pa mor dda mae arweinwyr a rheolwyr yn dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu wrth arolygu Thema 6, er enghraifft wrth ystyried pa mor dda maent yn dilyn prosesau diogel, trylwyr ac amserol. Fodd bynnag, rhaid i arolygwyr hefyd gynnwys unrhyw bryderon neu fethiant i fodloni gofynion diogelu wrth lunio barn ar gyfer diogelu yn Thema 3.
Yn yr achosion, rhaid i’r adroddiad gynnwys argymhelliad y dylai’r lleoliad fynd i’r afael â’r materion diogelu / lles a nodwyd yn ystod yr arolygiad.
Bydd arolygydd AGC hefyd yn barnu a oes diffyg cydymffurfio (gan gynnwys diogelu) ai peidio. Mewn achosion o’r fath, rhaid dilyn Polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi AGC. Nid yw Estyn yn anfon ‘llythyr lles’ mwyach at leoliadau meithrin nas cynhelir nad ydynt yn bodloni’r gofynion diogelu angenrheidiol. Os bu methiant technegol neu unigol sydd heb ei unioni er boddhad yr arolygydd yn ystod yr arolygiad, bydd yr arolygydd yn cynnwys hyn yn adran y FfF Mewnbwn ar ddiffyg cydymffurfio.
Pan fydd materion yn rhai mân ac yn hawdd eu hunioni, a lle nad ystyrir eu bod yn bwysig, nid oes angen sylw a/neu argymhelliad yn yr adroddiad arolygu terfynol. Fodd bynnag, dylid cofnodi hyn yn y FfF arolygu, a’i roi fel adborth i’r arweinydd a’r person cofrestredig / person cyfrifol cyn gynted ag y bo modd.