Diogeledd safle a diogelwch safle
Cyfrifoldeb yr ymarferydd arweiniol / person cofrestredig / person cyfrifol / perchennog yw sicrhau bod safle’r lleoliad a’i adeilad yn ddiogel. Bydd y trefniadau hyn yn amrywio o un lleoliad i’r llall yn dibynnu ar natur y safle.
Rydym yn disgwyl i’r lleoliad:
- gynnal asesiad risg trylwyr o’r lleoliad, er enghraifft ystyried diogeledd y safle, hawliau tramwy cyhoeddus, trefniadau rheoli traffig a chyflwr yr holl adeiladau
- gwneud trefniadau priodol i reoli’r risgiau hynny yn briodol
- dweud wrth eu cyflogeion am y risgiau a’r camau y dylid eu cymryd i’w rheoli
- sicrhau bod hyfforddiant digonol yn cael ei roi i gyflogeion ar faterion iechyd a diogelwch