Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn lleoliadau nas cynhelir

Share document

Share this

Ychwanegiad 5

Share document

Share this

Atal radicaleiddio ac eithafiaeth

O 1 Gorffennaf 2015, mae’n rhaid i ysgolion a lleoliadau ‘roi sylw dyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth’. Amlinellir hyn yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a’r Canllaw dyletswydd ‘Prevent’ cysylltiedig o dan adran 29 y Ddeddf. Er nad yw lleoliadau wedi’u cynnwys yn benodol yn Neddf 2015, ystyrir ei bod yn arfer dda iddynt roi sylw dyledus i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth.

Bydd cyd-destun y lleoliad yn effeithio ar y graddau y bydd angen i arolygwyr ystyried gwaith y lleoliad yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae’n arfer dda i bob lleoliad gydymffurfio â’r ddyletswydd a dylai arolygwyr fodloni’u hunain fod y darparwr yn ymwybodol o’r ddyletswydd ac yn gweithredu’n briodol.

Cwestiynau posibl i’w hystyried:

  • A oes polisi diogelu gan y darparwr sy’n ystyried y ddyletswydd i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag radicaleiddio ac eithafiaeth?
  • A yw’r darparwr wedi asesu’r risg bosibl o radicaleiddio ac eithafiaeth yn ei ardal leol? A yw’r asesiad risg ar gael, ac a yw’n cael ei weithredu?
  • A oes protocolau clir ar gyfer sicrhau bod unrhyw siaradwyr gwadd yn addas ac yn cael eu goruchwylio’n briodol? 
  • Pa mor dda y mae’r darparwr yn cydweithredu gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol lle bo’n berthnasol?
  • A yw’r staff, person cyfrifol/person cofrestredig yn deall beth yw ystyr radicaleiddio a pham y gall pobl fod yn agored i’w tynnu i mewn i derfysgaeth o ganlyniad iddo?
  • A yw aelodau perthnasol o staff yn ymwybodol o ba fesurau sydd ar gael i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a sut i herio ideoleg eithafol y gall fod yn gysylltiedig â hi?
  • A yw’r darparwr wedi sicrhau bod hyfforddiant priodol wedi’i roi i staff? Dylai dull y darparwr o hyfforddi ystyried lefel y risg yn eu hardal leol.
  • A yw’r darparwr yn gwybod sut i gael cymorth ar gyfer plant a all gael eu hecsbloetio gan ddylanwadau radicaleiddio?
  • A yw’r lleoliad yn rhoi ystyriaeth ddyledus i ddatblygu agweddau goddefgar?

Share document

Share this