Cwestiynau posibl ar gyfer arweinwyr a rheolwyr
- Sut ydych chi’n sicrhau bod pob un o’r staff yn cael hyfforddiant priodol ar ddiogelwch ar-lein sy’n berthnasol a chyfoes?
- Pa fecanweithiau y mae’r lleoliad wedi eu rhoi ar waith i gynorthwyo plant a staff sy’n wynebu problemau â diogelwch ar-lein?
- Sut mae’r lleoliad yn addysgu a chynorthwyo rhieni a chymuned y lleoliad cyfan gyda diogelwch ar-lein?
- A oes gan y lleoliad bolisïau e-Ddiogelwch a pholisïau ar ddefnydd derbyniol ar waith? Sut mae’r lleoliad yn gwybod eu bod yn glir a bod pawb yn eu deall a’u dilyn?
- Disgrifiwch y modd y mae eich lleoliad yn cynorthwyo plant ifanc i ddeall pwysigrwydd e-Ddiogelwch.
- Disgrifiwch y modd yr ydych yn paratoi i roi elfen Ddinasyddiaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith.
Cwestiynau posibl ar gyfer staff
- A ydych chi wedi cael unrhyw hyfforddiant sy’n dangos y risgiau i chi a diogelwch ar-lein plant?
- A oes polisïau ar waith sy’n dangos yn glir arfer dda a diogel ar y rhyngrwyd ar gyfer staff a phlant? A ydych chi wedi darllen y rhain? A ydych chi wedi eu trafod mewn cyfarfod staff neu mewn digwyddiad hyfforddi?
- A oes cosbau ar waith i orfodi’r polisïau uchod?
- A yw pob un o’r staff yn deall beth yw ystyr y term bwlio seiber a’r effaith y gall ei chael arnyn nhw eu hunain a phlant?
- A oes mecanweithiau adrodd clir gyda set o gamau ar waith ar gyfer staff neu blant sy’n teimlo eu bod yn cael eu bwlio ar-lein?
- Pa mor barod ydych chi i roi elfen Ddinasyddiaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith?
Mewn lleoliad da, dylem ddisgwyl atebion cadarnhaol i bob un o’r uchod. Byddai’n dangos ymrwymiad lleoliad i e-Ddiogelwch os oedd pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth, yn amlinellu beth yw’r risgiau presennol a pha adnoddau sydd ar gael i’w helpu i gadw plant a nhw eu hunain yn ddiogel ar-lein.