Mae’r diffiniad llawn a chyfreithiol o weithgarwch rheoledig wedi’i amlinellu yn Atodlen 4 Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, fel y’i diwygiwyd (gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 yn benodol).
Mae Gweithgarwch Rheoledig yn parhau i eithrio trefniadau teuluol, a threfniadau personol, anfasnachol.
Mae’r diffiniad newydd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn cynnwys y canlynol:
- Gweithgareddau heb oruchwyliaeth: addysgu, hyfforddi, rhoi cyfarwyddyd, gofalu am blant neu’u goruchwylio, neu roi cyngor/arweiniad ar les, neu yrru cerbyd ar gyfer plant yn unig;
- Gweithio i ystod gyfyngedig o sefydliadau (‘lleoedd penodol’), gyda chyfle am gyswllt: er enghraifft, ysgolion, cartrefi plant, safleoedd gofal plant. Nid gwaith gan wirfoddolwyr sy’n cael eu goruchwylio.
Mae gwaith o dan (i) neu (ii) yn weithgarwch rheoledig dim ond os caiff ei wneud yn rheolaidd. Mae rheolaidd yn golygu bod y gweithgarwch yn cael ei wneud gan yr un unigolyn yn aml (unwaith yr wythnos neu’n amlach), neu ar 3 diwrnod neu fwy mewn cyfnod o 30 diwrnod (neu dros nos, mewn rhai achosion).
Mae’r llywodraeth wedi darparu arweiniad statudol am oruchwylio gweithgarwch, a fyddai’n weithgarwch rheoledig pa na bai’n cael ei oruchwylio.
- Gofal personol perthnasol, er enghraifft golchi neu wisgo; neu ofal iechyd gan weithiwr proffesiynol neu dan ei oruchwyliaeth;
- Gwarchod plant cofrestredig; a gofalwyr maeth.
Beth sydd ddim yn weithgarwch rheoledig mwyach wrth weithio gyda phlant?
- Gweithgarwch wedi’i oruchwylio ar lefel resymol
- Gofal iechyd nad yw’n cael ei roi (neu dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth) gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol
- Cyngor cyfreithiol
- “triniaeth/therapi” (“gofal iechyd” yn lle)
- Gwasanaethau achlysurol neu dros dro, (dim addysgu, ac ati) e.e. gwaith cynnal a chadw mewn ysgol
- Gwirfoddolwyr sy’n cael eu goruchwylio ar lefel resymol.