Daeth Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 i rym o 10 Medi 2012 gyda mwy o newidiadau yn dod i rym yn raddol dros y blynyddoedd nesaf.
Rhoddwyd y newidiadau canlynol ar waith ers hynny:
- diffiniad newydd o “weithgarwch rheoledig” i ganolbwyntio ar waith sy’n cynnwys cyswllt agos a heb oruchwyliaeth gyda grwpiau sy’n agored i niwed
- bydd gweithgareddau a gwaith a dynnwyd allan o’r diffiniad “gweithgarwch rheoledig” yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer gwiriadau Manylach gan y GDG
- diddymu “gweithgarwch rheoledig”
- diddymu cofrestru a monitro parhaus
- diddymu darparu gwybodaeth ychwanegol
- gweithredu isafwm oedran (16) y gall rhywun wneud cais am wiriad gan y GDG
- phrawf ‘perthnasedd’ mwy trylwyr ar gyfer yr adeg y bydd yr heddlu yn rhyddhau gwybodaeth a gedwir yn lleol am wiriad manylach gan y GDG.
Ar 1 Rhagfyr 2012, unodd y Swyddfa Cofnodion Troseddol a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol i ffurfio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r GDG yn gyfrifol am weinyddu tri math o wiriad:
- Safonol – gwiriad ar gofnodion Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu o gollfarnau, rhybuddiadau, ceryddon a rhybuddion.
- Manylach – gwiriad ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu fel uchod, ynghyd â gwybodaeth arall hefyd sy’n cael ei chadw gan yr heddlu yr ystyrir ei bod yn berthnasol gan yr heddlu
- Manylach gyda gwybodaeth y rhestr waharddedig – ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn gweithgarwch rheoledig gyda phlant. Mae hyn yn ychwanegu gwiriadau rhestr waharddedig plant y GDG at y gwiriad manylach.
Yn ystod 2013, lansiodd y GDG ei Wasanaeth Diweddaru. Erbyn hyn, mae cyflogeion yn gallu cofrestru unwaith ar gyfer gwiriad gan y GDG, a fydd wedyn yn cael ei ddiweddaru yn awtomatig ac ar gael i sefydliadau ei wirio.
Fodd bynnag, mae agweddau ar yr hen system nad ydynt yn newid, sef:
- rhaid i gyflogwyr wneud cyfeiriadau priodol at y GDG
- rhaid i gyflogwyr beidio â chaniatáu i rywun y maent yn gwybod eu bod wedi eu gwahardd gan y GDG ymgymryd â gweithgarwch rheoledig
- gall cyflogwyr gynnal gwiriadau ar gyfer unrhyw un a gyflogir mewn gweithgareddau sy’n dod o fewn y diffiniad cyn mis Medi o weithgarwch rheoledig, gan eu bod yn parhau i fod yn gymwys am wiriadau manylach y GDG, p’un a ydynt yn dod o fewn y diffiniad ar ôl mis Medi o weithgarwch rheoledig ai peidio (ond ni fyddant yn gymwys mwyach ar gyfer gwiriadau rhestr waharddedig os nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad newydd o weithgarwch rheoledig)
Yn flaenorol, bu camddealltwriaeth gyffredinol ynglŷn â pha bryd a pha mor aml i gynnal gwiriadau. Mae’r canlynol yn nodi’r sefyllfa bresennol mewn perthynas ag ysgolion a lleoliadau ynglŷn â phryd y mae angen cadarnhau gwiriadau cyn i gyflogai allu dechrau gweithio.
- Cafodd gwiriadau gan y SCT eu hargymell yn gryf ar gyfer pob cyflogai sy’n dod i gysylltiad â phlant yn rheolaidd os cawsant eu cyflogi ar ôl Mawrth 2002. Fodd bynnag, yr unig ofyniad i’r rhai a benodwyd cyn y dyddiad hwn yw bod yn rhaid iddynt fod wedi cael eu gwirio yn erbyn Rhestr 99.
- Daeth gwiriadau’r SCT yn orfodol ar gyfer gweithlu cyfan ysgolion a gynhelir o 12 Mai 2006 (Medi 2003 ar gyfer ysgolion annibynnol). Rhaid i gyflogeion a ddechreuodd yn eu swydd o’r dyddiad hwn fod wedi cael datgeliad manwl gan y SCT.
- Nid oes angen mwy o wiriadau ar gyfer unrhyw staff oni bai bod yr unigolyn yn cael seibiant o wasanaeth am fwy na thri mis. Nid oes gofyniad statudol i staff gael gwiriadau wedi’u diweddaru’n rheolaidd, er y gall rhai cyflogwyr fynnu hyn fel polisi. Hefyd, nid oes gofyniad statudol i staff a gyflogwyd cyn Mawrth 2002 fod wedi cael gwiriadau ôl-weithredol gan y SCT neu’r GDG ar yr amod eu bod wedi bod mewn gwasanaeth parhaus. Yn y cyd-destun hwn, mae parhad yn golygu nad oes unrhyw seibiant mewn gwasanaeth sy’n hwy na thri mis. Fodd bynnag, cyn 2002, roedd gofyniad i bob un o’r staff sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc fod wedi cael eu gwirio yn erbyn Rhestr 99, a dylid gwirio tystiolaeth o hyn.
- Mae gwefan AGC yn dweud bod ‘rhaid i’r holl staff gofal cymdeithasol, gan gynnwys rheolwyr cofrestredig, personau cofrestredig ac unigolion cyfrifol, gael tystysgrif gyfredol gan y GDG. Mewn rhai achosion (staff mewn cartrefi plant, gwasanaethau mabwysiadu, gofal dydd i blant a gwarchod plant) bydd angen ei diweddaru bob tair blynedd.
Gall cyflogwr ond ofyn am wiriad y rhestr waharddedig ar gyfer y staff hynny sy’n ymgymryd â gweithgarwch rheoledig. Mae’n drosedd i ofyn am wiriad y rhestr waharddedig ar gyfer unrhyw rôl arall.
Staff sy’n ymweld
Dylai staff fel seicolegwyr addysg, ymwelwyr iechyd ac athrawon ymgynghorol a gyflogir gan asiantaeth gael gwiriad gan y SCT neu’r GDG trwy eu cyflogwr, er enghraifft y bwrdd iechyd neu’r awdurdod lleol.
Mae’n ddigonol i leoliadau ofyn am gadarnhad ysgrifenedig bod yr holl wiriadau priodol wedi cael eu cynnal ar gyfer y bobl hyn (wrth eu penodi gan amlaf) a chan bwy (yr adran adnoddau dynol berthnasol gan amlaf). Wedyn, dylai lleoliadau gadarnhau pwy yw’r ymwelwyr hyn.
Symud rhwng lleoliadau ac awdurdodau lleol
Dylai darparwyr gysylltu â’u harolygydd AGC i wirio p’un a oes angen gwiriad SCT neu GDG newydd pan fydd ymarferwyr yn symud rhwng lleoliadau a/ neu awdurdodau lleol.